The partner venues for Breaking the Box: Ffwrnes Theatr, The Park and Dare & Pontio, the word Grow is written top right and colourful tittles (the dot of an i) are dotted around

Yn Galw Pobl Greadigol ar Ddechrau Eu Gyrfa

Yn Galw Pobl Greadigol ar Ddechrau Eu Gyrfa

  • Ydych chi’n berson creadigol ar ddechrau eich gyrfa â diddordeb mewn magu eich sgiliau gwneud theatr?
  • Ydych chi’n eich ystyried eich hun yn Fyddar neu’n anabl?
  • Ydych chi’n byw yng Nghymru, neu’n ystyried eich hun yn Gymro/Gymraes?
  • Ydych chi’n gweld buddion mewn cael addysg yn y gwaith trwy gyfrwng lleoliadau gwaith, mentora a chyfleoedd i ddatblygu’n broffesiynol?

Os mai ‘ydw’ yw eich ateb i’r cwestiynau hyn, hoffen ni glywed oddi wrthych chi!

Mae Theatr Taking Flight, Hynt, Theatrau Sir Gâr, Theatrau RhCT, Canolfan Celfyddydau Pontio, Prifysgol Bangor a Disability Arts Cymru’n cynnal rhaglen lleoliadau gwaith ar gyfer Pobl Greadigol ar Ddechrau Eu Gyrfa.  

Mae’r rhaglen yn rhan o brosiect cydweithredol ehangach, sydd â’r teitl dros dro ‘Breaking the Box’, rhwng sefydliadau’r bartneriaeth yma. Mae’n canolbwyntio ar ddatblygu rhwydwaith o ganolfannau a sefydliadau sy’n anelu at greu golygwedd fwy cynhwysol a hygyrch fydd yn cwmpasu cynulleidfaoedd, cwmnïau ac unigolion creadigol.

Am faint o amser?

Bydd pob lleoliad gwaith yn para am 9 mis; gallwn ni fod yn hyblyg wrth ystyried hyd eich ymrwymiad o ran amser.

Sut bydd yn gweithio?

Bydd pob lleoliad gwaith yn cynnwys tri math o weithgaredd:

  • Sesiynau mentora pwrpasol gyda mentor sydd â phrofiad o ddewis rôl y person creadigol yn y theatr
  • 3 lleoliad gwaith mewn canolfannau partnerol 
  • Rhychwant o gyfleoedd datblygu proffesiynol a drefnir gan Taking Flight a chanolfannau partnerol (gweithdai, dosbarthiadau meistr, cyfarfodydd, digwyddiadau rhwydweithio ayyb).   

Beth yw ystyr ‘sgiliau gwneud theatr’? 

Gall sgiliau gwneud theatr gynnwys: dylunio theatrig, cynhyrchu, dylunio sain, rheoli llwyfan, marchnata, dylunio goleuadau, cyfarwyddo, ysgrifennu, dylunio ymladd, cyfarwyddo cyfathrach, dehongli BSL, disgrifio sain, cyfansoddi, neu unrhyw rôl greadigol yn y theatr ar wahân i actio.

Sawl lle sydd ar gael ar y rhaglen?

Tri lleoliad cyflogedig sydd ar gael, ond bydd pob un sy’n cyflwyno cais yn cael ei wahodd i ymuno â’r rhaglen ddatblygiad proffesiynol.

Ai cyfle cyflogedig yw hwn?

Ie, mae bwrsariaeth o £9,000 ar gael i bob person creadigol, yn ogystal â chostau teithio, llety a threuliau per diem ar gyfer yr amser a dreulir oddi cartref. 

Sut galla i geisio?

Anfonwch hyd at 500 o eiriau neu fideo hyd at 5 munud o hyd i ddweud wrthym ychydig amdanoch chi, gan egluro pa sgiliau theatr yr ydych chi’n awyddus i’w datblygu a pha fuddion y carech chi’u cael o’r rhaglen leoliadau gwaith. Anfonwch y rhain i Louise@takingflighttheatre.co.uk erbyn 5.0yh ar 29ain Tachwedd. 

Os oes cwestiynau gennych chi ynghylch y lleoliadau gwaith, cysylltwch â Louise i drefnu cael sgwrs anffurfiol. 

Fe gynhelir cyfweliadau ym mis Rhagfyr, wyneb yn wyneb neu ar Zoom yn ôl yr amgylchiadau. Bydd y lleoliadau gwaith yn dechrau ym misoedd cynnar 2022. 

 

Sut galla i geisio?

Anfonwch hyd at 500 o eiriau neu fideo hyd at 5 munud o hyd i ddweud wrthym ychydig amdanoch chi, gan egluro pa sgiliau theatr yr ydych chi’n awyddus i’w datblygu a pha fuddion y carech chi’u cael o’r rhaglen leoliadau gwaith. Anfonwch y rhain i Louise@takingflighttheatre.co.uk erbyn 5.0yh ar 29ain Tachwedd. 

Os oes cwestiynau gennych chi ynghylch y lleoliadau gwaith, cysylltwch â Louise i drefnu cael sgwrs anffurfiol. 

Fe gynhelir cyfweliadau ym mis Rhagfyr, wyneb yn wyneb neu ar Zoom yn ôl yr amgylchiadau. Bydd y lleoliadau gwaith yn dechrau ym misoedd cynnar 2022. 

Lawrlwythewch y fersiwn 'Easy Read' yma

 

Gwrandewch ar y galw sain yma (yn Saesneg):

 

Ac yma (yn Gymraeg): 

A selection of logos: Hynt, Taking FLight, Disability Arts Cymru, Theatrau Sir Gar, The Park & Dare, Pontio, Arts Council Wales, Lottery Funded and Welsh Government
Taking Flight Logo

Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020

Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:

Atrium
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN

Members of:

A selection of logos: WCVA, Tempo, Creu Cymru, TYA Cymru, Outdoor Arts UK, The Cardiff Committment and Passport to the City

Cylchlythyr

Cyfrannwch arian

Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!

Cymraeg
Skip to content