Breaking the Box

Partneriaeth ledled Cymru yw Breaking the Box, wedi’i hariannu gan Brosiect Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru.

Y partneriaid yw: Theatr Taking Flight, Hynt, Disability Arts Cymru, Theatrau Sir Gâr, Pontio a Theatrau RhCT.

Mae Breaking the Box yn datblygu rhwydwaith o leoliadau perfformio cynhwysol a hygyrch yng Nghymru, sy’n hyderus ac yn derbyn cefnogaeth i groesawu artistiaid, aelodau criw y tu ôl i’r llwyfan, staff gweinyddol a chynulleidfaoedd amrywiol. Mae’r prosiect yn cynnig hyfforddiant a chymorth i egin-weithwyr theatr Byddar ac anabl trwy gyfrwng y rhaglen ar gyfer Pobl Greadigol ar Drothwy Eu Gyrfa (PGDEG); mae’n gweithio at ymgorffori rolau ar gyfer pobl greadigol Fyddar ac anabl mewn canolfannau perfformio yng Nghymru yn y dyfodol, gan ail-ddychmygu’r gweithlu creadigol. Rydyn ni’n ymdrechu i sefydlu meincnod i Gymru yn nhermau pa mor bell yr ydyn ni wedi cyrraedd o ran arferion cynhwysol a rhwyddfynediad yn ogystal â chydrannu gwersi’r prosiect ar draws y sector yng Nghymru ac ymhellach draw.

Yn ystod y gwaith yma rydyn ni wedi gweithio gyda’r Wneuthurwraig Theatr a’r hwylusydd Fyddar Mary-Jayne Russell de Clifford a hithau’n Rheolwraig Prosiect ar gyfer Rhaglen y PGDEG sy’n cynnig cyfleoedd lleoliadau gwaith, cefnogaeth a rhwydweithio i Emily Rose Corby a Mason Lima, dwy o bobl greadigol ar drothwy eu gyrfa gyda Breaking the Box. Yn ogystal rydyn ni wedi cynorthwyo Emily, Mason a phobl greadigol Fyddar ac anabl eraill ar drothwy eu gyrfa i fynychu Gŵyl Caeredin ynghyd â rhoi iddynt gyfleoedd i hyfforddi a lleoliadau gwaith. Gyda’r Ddr Louise Fryer, rydyn ni wedi hyfforddi carfan o ddisgrifwyr sain newydd yng Nghymru, gan gynnwys rhai sy’n gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r staff i gyd yn lleoliadau perfformio’r bartneriaeth wedi derbyn hyfforddiant mewn ymwybyddiaeth o Fyddardod ac Anabledd.

A ninnau wedi gweithio gyda’n gilydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf hyn i ddatblygu’r rhaglen arloesol hon, rydyn ni’n falch dros ben i dderbyn rhagor o gyllid sy’n ein galluogi ni i barhau i ddatblygu’r gwaith yma dros y ddwy flynedd nesaf. Dros y cyfnod yma byddwn ni’n gweithio gyda’n partneriaid blaenorol ynghyd â phedwar partner llawrydd anabl â phrofiad bywyd ac ymarfer creadigol. Fe fydd un cudd-gynhyrfydd Byddar, anabl neu niwroamrywiol yn cael ei leoli ym mhob lleoliad perfformio, gan gadw rhwyddfynediad ar yr agenda, â’r nod o bryfocio a herio’r ffyrdd arferol o weithio, darganfod cyfleoedd ar gyfer Pobl Greadigol ar Drothwy Eu Gyrfa (PGDEG) a sicrhau cefnogaeth iddyn nhw. Bydd yna raglen 12 mis ar gyfer pedwar o PGDEG y tu ôl i'r llwyfan gan gynnwys cyfleoedd i hyfforddi gyda chyflog, a bwrsari hyfforddi lle gall pump actor fynd i’r afael â’r prinder perfformwyr anabl a Byddar.

I ddathlu diwedd cyfnod cyntaf y prosiect, byddwn ni’n cynnal diwrnod cydrannu ddydd Mercher 24ain Mai yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli.

Ymunwch â ni yno i glywed sut daethon ni at y prosiect ac am yr hyn rydyn ni wedi’i ddysgu ar gyfer cyfnod nesaf Breaking the Box.
Taking Flight Logo

Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020

Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:

Atrium
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN

Members of:

A selection of logos: WCVA, Tempo, Creu Cymru, TYA Cymru, Outdoor Arts UK, The Cardiff Committment and Passport to the City

Cylchlythyr

Cyfrannwch arian

Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!

Cymraeg
Skip to content