Cwrddwch â’n Bwrdd ni

A young whie man with mid brown hair and beard, costued as a 1920s bellhop, he holds a blue board that reads Audio Description

Hadley Taylor sy’n cyd-gadeirio Bwrdd Ymddiriedolwyr Taking Flight ar hyn o bryd.

“Ar hyn o bryd rwy’n cyd-gadeirio Bwrdd Ymddiriedolwyr Cwmni Theatr Taking Flight. Astudiais i yng Nghaerfyrddin. Yn ystod fy amser ym Mhrifysgol Cymru UWTSD, bues i’n gwirfoddoli gyda Taking Flight ac ar ôl graddio, a dechreuais i weithio’n llawrydd fel rheolwraig llwyfan am sawl blwyddyn. Tra o’n i’n gweithio’n llawrydd gweithiais i yn aml gyda Taking Flight, yn llwyfan-reoli cynyrchiadau a mewn digwyddiadau i godi arian. 

Dros y blynyddoedd mae Taking Flight wedi fy nghefnogi a’m helpu i i ddatblygu. Mae’n brofiad cyffrous i fi fod yn ymddiriedolwraig a chynorthwyo Taking Flight i barhau i gynhyrchu gwaith ardderchog o wahanol fathau, gan gadw rhwyddfynediad i’r theatr yn agos i’w galon bob amser.” 
Andrew, a white man with glasses wears dungarees and a name badge on a lanyard. His finger is in the air as if he has just ha a good idea

Andrew Tinley sy'n Rheolwr Gweithrediadau a Rhwyddfynediad yn Theatr Derby. Mae’n gwirfoddoli hefyd gyda’r Alzheimer’s Society yn ei rôl fel Llysgennad Cyfeillion Dementia. Mae hyn yn cynnwys lleihau’r gwarth a deimlir ynghylch Dementia; mae e’n cyflwyno sesiynau gwybodaeth yn rheolaidd yn y gymuned leol a chenedlaethol. Ar hyn o bryd mae Andrew yn cyd-gadeirio Bwrdd Ymddiriedolwyr Taking Flight.

A selfie of a man on a beach. He is white with glasses and stubble, he wears a heavy coat, it is probably a winter's day
A smiling woman with short grey hair wearing a pink pattern top

Alan Thomas-Williams yw’r Swyddog Cyflawniad dros Gwricwlwm y Celfyddydau Mynegiannol ar hyn o bryd gyda Chyngor Caerdydd – yn gweithio ar draws ysgolion y ddinas – gan gefnogi’r cwricwlwm i ddisgyblion 3-16 oed. Mae ei rôl e’n hyrwyddo cysylltiadau o bob math: rhwng diwydiant y celfyddydau ac ysgolion, rhwng dysgwyr a chyfleoedd, ac yn gweithio ar y cyd â fforwm o bartneriaid yn y celfyddydau mynegiannol i helpu dysgwyr i Archwilio, Ymateb a Chreu! Mae Alan wedi bod yn gyfarwyddwr ym maes adloniant ffeithiol i’r teledu, yn athro ysgol gynradd, yn ymgynghorydd ar ffilm ym myd addysg ac yn rhiant i dri bachgen niwroamrywiol. Ei obaith yw y bydd ei amrywiol brofiadau a chysylltiadau a’i egni personol yn cynorthwyo’r bwrdd i gyflawni ein cenhadaeth.Mae e’n credu hefyd y bydd yr hyn sydd gan Taking Flight i’w ddysgu yn atgyfnerthu cynhwysiant ac yn hyrwyddo amrywiaeth yn ysgolion y ddinas.

Sara Beer Mae Sara wedi bod yn weithgar yn y Celfyddydau Anabledd ers iddi ddechrau ar ei gyrfa actio gyda Chwmni Theatr Graeae yn Llundain fwy na 30 mlynedd yn ôl. Bu hi’n gweithio i Gelfyddydau Anabledd Cymru o 2007 tan 2022, gan ddal nifer o rolau. Yn 2018, hi chwaraeodd y brif rôl yn nrama Kaite O’Reilly, Richard III Redux.

A selfie of a white woman with blond hair, She is sat in a car seat

Lesley Rossiter:

“Dw i’n byw yn Sir Benfro gyda fy ngŵr, tri o blant a dau gi. O Swydd Amwythig dw i’n dod yn wreiddiol, ond dw i’n f’ystyried fy hun yn Gymraes o ran diwylliant o leiaf, gan fy mod i wedi treulio mwy o fy mywyd yng Nghymru erbyn hyn nag yn Lloegr; ac ar ben hynny dw i wedi dysgu Cymraeg i lefel Uwch. Dw i’n gweithio fel Ymgynghorydd Adnoddau Dynol Llawrydd a Hyfforddwraig Arweinyddiaeth ar gyfer gwahanol gleientiaid, y mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n sefydliadau Cymunedol ac yn y Celfyddydau ledled gwledydd Prydain.”

A white man with close cropped hair and a grey beard smiled gently at the camera, he wears a pale tshirt

 Jeff Brattan-Wilson

A white woman with long dark hair and glasses, the sun is in her eyes. She wears a long sleeved blue top

 Dr Márta Minier Darlithydd mewn Drama ym Mhrifysgol De Cymru yng Nghaerdydd. Mae ganddi ddiddordeb brwd ym mhwnc dramatwrgaeth y theatr cyfoes a mewn cyfieithu ac addasu yng nghyd-destun y theatr. Mae Márta’n teimlo ei bod hi’n anrhydedd iddi allu gefnogi gwaith Taking Flight dros hyrwyddo rhwyddfynediad. 

A white woman with long wavy blond hair laughs at something/one out of sight, her hands clapped together

Sophia Karpaty:

“Dw i’n gweithio’n llawrydd fel ymarferydd theatr, cynhyrchydd, cyfarwyddydd a pherfformwraig, a hynny’n bennaf ym myd y theatr cynhwysol. Dw i’n frenhines ddrag gyda’r House of Deviant, yr unig gwmni drag ag anableddau dysgu yng Nghymru! Mae gen i awch am gysylltu â phobl anhygoel a nwydwyllt, ac am helpu cymunedau i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed trwy fynegiant artistig.”

A close up of a white man with brown eyes and a dark beard

Ben Owen-Jones Actor Prydeinig. Ymddangosodd gyntaf ar y teledu pan oedd yn blentyn ar raglen ddrama’r BBC i blaent, Grange Hill.

Cafodd Ben ddamwain yn 1995 a achosodd anafiadau i’w asgwrn cefn. Fe’i gadawyd yn baraplegig, ac ers hynny mae’n defnyddio cadair olwyn i symud o gwmpas. Ar ôl derbyn triniaeth adsefydlu fe astudiodd gelfyddydau rhyngweithiol ar gyfer gradd cyn mynd ymlaen i gymryd M.A. mewn astudiaethau amlgyfrwng. Mae ei waith wedi cael ei arddangos mewn Gŵyl Gelfyddydau yn yr Almaen.

Yn 2005, ymgeisiodd yn llwyddiannus i gymryd rhan yn y Cynllun Talent ar gyfer Actorion Anabl – bwrsariaeth a drefnir ar y cyd gan y BBC, Sianel 4 Lloegr a Chanolfan yr Actoriaid. Trefnwyd y cynllun gyda’r nod o ehangu’r gronfa o dalent actio anabl sydd ar gael i gyfarwyddwyr castio’r teledu, a darparu dosbarthiadau meistr ar y BBC gan gyfarwyddwyr teledu arweiniol, ynghyd â hyfforddiant gan Ganolfan yr Actorion. Yn dilyn hyn fe gafodd ei gastio yn nrama newydd y BBC, New Street Law, lle chwaraeodd rôl Chris Quick, cymeriad lled-reolaidd a ddigwyddai fod yn baraplegig. Ers hynny mae e wedi ymddangos mewn sawl drama ar y teledu. Yn 2012 chwaraeodd ran milwr wedi’i anafu mewn drama a oedd wedi’i seilio ar hanes y Dr. Ludwig Guttmann a ysgrifennwyd gan Lucy Gannon.

Ers mynd yn anabl, mae Ben wedi gweithio gydag elusennau yng Nghymru a Lloegr sy’n cynnig cefnogaeth i bobl eraill sydd wedi dioddef anafiadau i’w hasgwrn cefn.

Lisa De Benedictis yw cyfreithwraig hyfforddedig a weithiodd yn y byd academaidd am sawl blwyddyn ym meysydd cyfathrebu, masnacheiddio, Eiddo Deallusol a Rheoli Rhaglenni. Mae hi’n gweithio erbyn hyn ym maes llywodraethiant dros lywodraeth leol, a’i gobaith yw cysegru mwy o’i hamser i ysgrifennu creadigol.

A white man with a beard smiles a Mona Lisa type smile towards the camera. He has sunglasses on his head and appears to be on the rampart of a castle

Roger Hudson yw cyn-actor a hwylusydd drama. Mae e wedi gweithio gyda nifer o gwmnïau theatr ac actio mewn sawl cynhyrchiad gyda Taking Flight. Yn sgil pandemig COVID penderfynodd newid gyrfa ac mae’n gweithio bellach ym myd addysg. Mae e wrth ei fodd yn canlyn arni â’i awch am y theatr trwy fod yn aelod o fwrdd Taking Flight.

Cymraeg
Skip to content