Dyma ein Pobl Greadigol ar Ddechrau Eu Gyrfa

Datblygwyd ein rhaglen ar gyfer Pobl Greadigol ar Ddechrau Eu Gyrfa (PGDEG)fel rhan o’n prosiect Cysylltu a Ffynnu a ariennir gan ACW (Tystysgrifau Prentisiaeth Cymru, ‘Torri’r Blwch’. Diolch i hwn, gwelwyd pobl greadigol Fyddar ac anabl ar ddechrau eu gyrfa’n ymgymryd â lleoliadau gwaith ac yn meithrin ymgynghoriadau ynghylch rhwyddfynediad gyda gwahanol safleoedd a chynyrchiadau ledled Cymru. Yn 2022, diolch i’r Cyngor Prydeinig yng Nghymru, bu’n bosibl inni gynorthwyo ein PGDEG ar daith i Ŵyl Caeredin i ddibenion rhwydweithio a datblygu.

A young man wearing glasses looks downwards - perhas at an unseen laptop. He wears a ribbed tshirt

Ciaran Fitzgerald

“Egin-awdur ydw i o Bort Talbot, a graddiais o’r cwrs BA mewn Ysgrifennu Sgriptiau ym Mhrifysgol De Cymru yn 2019. Comisiynwyd fy nrama gyntaf i, ‘Chasing Rainbows’,ar gyfer Ymchwil a Datblygiad gan Ganolfan Celfyddydau Pontardawe. Dw i wedi bod yn aelod o Sgwenwyr Ifanc Frân Wen, ac o Gynllun Mentora Oli Lansley ar gyfer awduron a gynhelir gan WildChild. Dangoswyd detholiad o’m drama ‘Blockbusters’ yn y Park Theatre, Llundain ym mis Medi 2021. Dw i wrthi ar hyn o bryd yn datblygu fy nghomisiynau cyntaf i’r teledu, ‘The Special Ones’ gyda Tiger Aspect Productions, a ‘The Old Enemy’ gyda Rangabee. Bues i’n aelod hefyd o Grŵp Awduron Theatr y Sherman yn 2021-22.

Fe glywais i am Taking Flight gyntaf pan o’n i’n aelod o Theatr Ieuenctid Mess up the Mess,tra’n cymryd rhan mewn gweithdy ymwybyddiaeth o anabledd a gynhaliwyd gan Elise. Gweithiais i am y tro cyntaf gyda Taking Flight yn 2013 ar ‘Me & You,’ sesiwn Ymchwil a Datblygiad a astudiodd bosibiliadau creu gwaith ar gyfer plant â PMLD (anabledd dysgu dwys a lluosog). Ers hynny dw i wedi gwirfoddoli gyda Theatr Ieuenctid Taking Flight, ac yn ddiweddar gorffenais i’r rhan gyntaf o’r Ymchwil a Datblygiad ar fy nrama newydd ‘A Real Sister’. Dw i’n edrych ymlaen at weithio ar yr ail ran o’r Ymchwil a Datblygiad yma yn 2023, a pharatoi’r ddrama hon i gael ei chynhyrchu gyda Taking Flight!”

A young white woman wearing a winter coat and bobble hat squints into the camera on a sunny day on the beach

Emily Corby

“Emily Rose ydw i. Artist byddar o Gymru ydw i, a dw i wedi gweithio i Hyb Byddar Caerdydd. 
Dw i wedi byw mewn sawl man, ond dw i’n dal i ddod yn ôl i Gaerdydd bob tro! Dyna lle mae fy nghalon i, fwy na thebyg.
Ro’n i’n arfer mynd i’r Brifysgol ond weithiodd pethau ddim allan yn dda imi, felly dyma fi. 
Dw i’n gobeithio y bydd y lleoliad gwaith yma’n dangos llwybr imi i ddarganfod ymhle y gallwn i fwynhau gweithio, a dw i’n gobeithio hefyd y caf i gyfleoedd i weithio ym myd y theatr. Diolch ichi am roi imi’r cyfle gwych yma.”

A close up of a young global majority woman with brown eyes and black ringlets, her nose is pierced, she faces the camera but looks away to the left
Mason Lima-Jones
“Artist tecstiliaiu ôl-raddedig ydw i, ag ADHD (Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd ) a Dyslecsia. Dw i wrth fy modd yn gweithio gyda deunydd ac edefion gan ddefnyddio dulliau traddodiadol a modern o greu tecstiliau, argraffu â sgrîn a lliwio deunyddiau.
Taking Flight fydd fy ngham cyntaf tuag at wireddu fy mreuddwyd o weithio yn niwydiant y gwisgoedd theatr, gan ehangu fy ngwybodaeth a’m profiadau i mewn awyrgylch gweithio yn y theatr proffesiynol.”
”.

A white man wearing glasses and a red baseball cap smiles for the camera, he has dark hair and a beard

Macsen McKay

Actor a gwneuthurwr theatr o Gaerdydd yw Macsen McKay. Mae e wedi gweithio gyda chwmnïau megis Told By An Idiot, Grŵp Llanarth a Theatr Genedlaethol Cymru, ac mae wedi cyffroi wrth fod yn Berson Creadigol ar Ddechrau ei Yrfa gyda Taking Flight ar ôl gweithio gyda’r cwmni ar Achos Rhyfeddol Aberlliw a Road gan Jim Cartwright yn 2022. 

A young person with back-combed black and white hair, pale skin and heavy black eye makeup

Bones Carter

“Dw i’n hoffi gwneud unrhywbeth lle dw i’n cael bod yn greadigol a herio fy sgiliau i fel artist; fy mhrif ddiddordeb i yw dylunio setiau ac atodion llwyfan, ond at ei gilydd dw i’n dwlu ar fod â rhan ym myd y theatr. Mae gen i beth profiad hefyd fel saer a thechnegydd llwyfan. Dechreuais i weithio i Taking Flight ar ôl i ddau ymgais i wneud arholiadau Lefel A fy argyhoeddi i y byddai’n well i fi ganlyn fy sgiliau mewn modd ymarferol yn hytrach na dilyn llwybr academaidd. Dw i’n awtistig, ac mae Taking Flight wedi darparu ar fy nghyfer gan gynnig i fi gymuned groesawgar lle dw i’n cael cyfle i ddysgu sgiliau newydd a chymryd rhan mewn rhywbeth pwysig.”

Cymraeg
Skip to content