Cwrddwch â’n Cydweithwyr Creadigol ni

Tafsila, a woman of Asian appearance with long fair hair. She is smiling, behind her is a hedge
Tafsila Khan Mae Tafsila yn ymarferydd creadigol ac ymgynghorydd ar rwyddfynediad sydd wedi’i chofrestru’n ddall. Dechreuodd hi weithio gyda Taking Flight yn 2018 yn ystod y cynhyrchiad o ddrama Kaite O‘Reilly, Peeling. Ers hynny mae Tafsila wedi gweithio ar nifer o orchwylion Ymchwil a Datblygu (R&D) a darparu hyfforddiant mewn ymwybyddiaeth o ddallineb gyda’r cwmni. Yn ogystal eisteddodd Tafsila ar Fwrdd Ymddiriedolwyr Taking Flight rhwng mis Gorffennaf 2020 a mis Tachwedd 2022. “Taking Flight yw un o’r prif resymau pam rwy’n gweithio yn sector y celfyddydau yng Nghymru. Rwy’n gwir gydymdeimlo â gwerthoedd y cwmni ac yn cefnogi eu cenhadaeth i wneud y theatr yng Nghymru’n hygyrch i bawb ac i eirioli dros leisiau a storïau pobl greadigol anabl.”
A white man in costume for a show. His mouth is open, possibly in song. He wears a tweet waistcoat, blue shirt and silk bowtie. Two other men flank him, they are mainly cropped out of shot.
Alastair Sill “Rwy’n cofio gwylio A Midsummer’s Night Dream yn Ystad Stackpole, wrth i’r haul fachlud dros adeiladau’r fferm tra oedd y gwenoliaid yn cael parti! Rhaid mai yn 2008 roedd hynny, cynhyrchiad cyntaf Taking Flight o ddrama gan Shakespeare. Waw! Roedd e’n hyfryd. Ac yn ysbrydoliaeth hefyd: yr egni penrhydd, y brwdfrydedd, yr ymroddiad – theatr ar gyfer pawb, yn berfformwyr a chynulleidfa fel ei gilydd! Rwy’n meddwl mai’r cyfeillgarwch a’r sylw a roddwyd i fanylion bach a’m trawodd fi fwyaf. Fe’m cyflwynais i fy hun i’r cwmni fel actor / disgrifiwr sain, ac mae pymtheng mlynedd wedi mynd heibio ers hynny! Aaargh! Rwy wedi bod mor lwcus ag i sein-ddisgrifio llawer o gynyrchiadau Taking Flight o Shakespeare yn yr awyr agored. Do’n i ddim wedi disgrifio dim yn yr awyr agored o’r blaen; roedd hyn ynddo’i hun yn brofiad hollol newydd i fi, ac yn her anhygoel! Aeth y cwmni ati wedyn i estyn posibiliadau creadigol sein-ddisgrifio, ac mae hi wedi bod yn gyffrous iawn i fi fod yn rhan o’r daith yma fel disgrifiwr sain, fel actor a fel cydweithredwr. Oni bai am Taking Flight, dw i ddim yn meddwl y baswn i wedi sylweddoli’n llawn beth yw posibiliadau creadigol sein-ddisgrifio na wedi magu’r hyder i ganlyn arni fel hyn.”
A white woman with greying brown hair smiled for the camera, She wears glasses and a large grey scarf
Mary-Jayne Russell de Clifford
“Dw i wedi cydweithio â Taking Flight ers 2021, adeg y cyfnod clo, ac mae fy mherthynas â Taking Flight wedi ehangu gydag amser. Dw i’n ei ystyried yn anrhydedd bod yn Gydweithydd Creadigol gyda’r cwmni rhyfedd hwn. Dw i’n wneuthurwraig a hwylusydd theatr, un sy’n frwdfrydig dros ben ynghylch y theatr Byddar, cynyrchiadau BSL integredig, a grymuso pobl trwy gyfrwng y theatr a drama ers 2005.
Dw i wedi gweithio fel hwylusydd drama llawrydd, arweinydd gweithdai, awdur sgriptiau, adroddwraig storïau BSL, bardd BSL, Ymgynghorydd Rhwyddfynediad BSL/Byddar yn y diwydiannau theatr a chyfarwyddwraig theatr.<
Dw i’n edrych ymlaen at barhau i gydweithio â Taking Flight ac at gwrdd â rhagor o bobl fydd yn cydweithio â ni.”
A white woman with blond curly hair looks over her shoulder at the camera, she is outside walking across a bridge on a sunny day
Ruth Stringer
Dylunydd setiau a gwisgoedd yw Ruth yn Ne Cymru, a chanddi MA mewn Dylunio Theatrig o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae Ruth wedi bod wrthi’n dylunio ar gyfer y theatr, opera, cwmnïau dawnsio a gosodweithiau ers 12 mlynedd. Mae ei hoff brosiectau hi’n tueddu i chwilio am fannau anghyffredin ac yn yr awyr agored, gan ymwreiddio yng nghalon y gymuned a dathlu arferion gwyrddion yn y dylunio a’r gwireddu. Mae Ruth yn eirioli’n frwd dros weithio’n gynaliadwy yn y diwydiant perfformio. Yn 2019 cymerodd hi ran ym mhreswyliad Theatr Cenedlaethol Cymru, Egin, a archwiliodd ymatebion artistig i newid hinsawdd – thema y mae hi’n ei datblygu yn ei phrosiectau hi. Mae Ruth yn aelod craidd o dîm Ecostage (ecostage.online), ac o Weithgor Cynaladwyedd Cymdeithas Dylunwyr Theatr Prydain. Yn 2022 ymunodd hi â GALWAD fel Rheolwraig Cyd-Gynaladwyedd ac Effeithiau.
“Cynorthwyais i’r dylunydd Becky Davies ar gynhyrchiad Taking Flight o Romeo and Juliet! Roedd e’n syfrdanol, roedd dyluniadau Becky yn brydferth, ac agoron nhw fy llygaid i’n wir i’r hyn y gallai ac y dylai dylunio setiau a gwisgoedd cynhwysol ei wneud. Ers hynny dw i wedi bod yn cydweithio ar brosiectau Cofid-19 Taking Flight, The First Three Drops ac Achos Rhyfeddol Aberlliw, a dw i wedi ymgynghori â nhw ar eu gweithrediadau dros gynaladwyedd y tu ôl i’r llenni. Beth mae Taking Flight yn ei olygu i fi? Mae’n deulu mawr llawen – mae croeso i bawb, a darperir ar gyfer pawb. Y tro cyntaf i fi gerdded i mewn i’r ymarferion ar gyfer Romeo and Juliet, roedd Elise yn meithrin ei babi tra’n cyfarwyddo golygfa – dim ffwdan, dim strach – roedd hyn yn ysbrydoliaeth i fi fel rhywun creadigol llawrydd nad oedd ganddi’r syniad lleiaf a oedd hi’n ymarferol bosibl ichi weithio yn y theatr a magu plant yr un pryd. Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, roedd Taking Flight yn gweithio gyda fi tra o’n i’n feichiog, ac maen nhw wedi’i gwneud hi mor hawdd i fi ddychwelyd fel mam newydd at brosiectau dylunio!” What does Taking Flight mean to me? It’s a big, joyous family – everyone is welcome, and everyone is provided for. When I first walked into rehearsals for Romeo and Juliet, Elise was nursing her baby whilst directing a scene – no fuss, no hassle – it inspiring to me as a freelance creative who had no idea if working in theatre and having children was actually doable. Fast forward a few years, Taking Flight worked with me over my own pregnancy, and have made it so easy for me to return to design projects as a new mum!”
A white woman with glasses and large hoop earring smiles for the camera. She wears a bright red animal print tshirt
Becky Davies
Ymarferydd Creadigol sy’n siarad Cymraeg a Saesneg yw Becky, sy’n byw ym Mhontypridd. A chanddi fwy na 10 mlynedd o brofiad, mae hi’n ymgymryd â llu o rolau yn ei gwaith llawrydd, gan gynnwys Dylunydd Setiau a Gwisgoedd i’r theatr ac ar gyfer perfformio, a sawl blwyddyn gyda Chwmni Theatr Taking Flight fel Cydweithwraig Greadigol. Mae Becky yn artist hefyd, yn gweithio’n bennaf ym meysydd gosodweithiau, cerfluniau, darlunio a phaentio; mae hi’n hwylusydd gweithdai ac yn artist cymunedol; yn arbenigydd mewn Rhwyddfynediad Creadigol, sy’n gwneud arddangosfeydd a pherfformiadau’n brofiad hygyrch, cynhwysol, aml-synhwyraidd; ac yn ddarlunydd llyfrau. Mae Becky yn gweithio’n rhan amser fel Uwch Ddarlithydd ar y cwrs BA (Anrhydedd) mewn Celfyddydau Creadigol a Therapewtig ym Mhrifysgol De Cymru; dim ond un cwrs tebyg arall sydd ar gael yng ngwledydd Prydain. Mae’r cwrs yn datblygu’r myfyrwyr i fod yn Artistiaid Cymdeithasol Ymrwymedig, Artistiaid Cymunedol, Artistiaid Cyfranogol, Ymarferyddion y Celfyddydau mewn Iechyd, a disgyblaethau cysylltiedig eraill.
A white man with dark hair sweot over hair and a beard leans against a brick wall. He is smiling
Sam Bees
Mae Sam Bees yn hanu o Dreorci yng Nghwm Rhondda – tref fawr ei bri oherwydd ei chôr meibion, ei stryd fawr annibynnol brysur, a llyfrgell sy’n dal heb gael ei chau. Astudiodd e actio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac ers graddio yn 2007 mae wedi troi ei law at ysgrifennu dramâu. Ers ei gynhyrchiad cyntaf, In the River In the River, ar gyfer Cwmni Theatr Dirty Protest yn 2008 yn Theatr y Sherman, mae mwy nag 20 o’i weithiau wedi cael eu cynhyrchu, gan gynnwys cyd-gynhyrchiad diweddar, Meatman.
Mae Sam wedi gweithio gyda Theatr Taking Flight fel actor (mewn rolau megis Romeo, a Scullery yn Road gan Jim Cartwright), hwylusydd ac awdur ers 2010.
A headshot of a white woman with blond hair tied in a top knot. She wears bright coppper eyeshadow
Jenna Preece
“Dechreuais i fy ngyrfa actio yn gwirfoddoli ac yn cysgodi ar deithiau, a bues i’n dirprwyo yn y ddrama Real Human Being. Ers hynny mae fy anturiaethau gyda Taking Flight wedi ehangu trwy hyfforddiant, trefnu gweithdai a phrosiectau cymunedol. Rwy wedi ymddangos mewn llawer o brosiectau Taking Flight neu fod yn rhan ohonyn nhw dros y blynyddoedd. Taking Flight yw fy nghartref a’m teulu i, gan roi i fi lais a rhyddid a chariad. Mae bod mewn amgylchiadau creadigol diogel a chefnogol, gyda gwirioneddol ffrindiau sy’n fy ngwerthfawrogi i fel unigolyn, yn freuddwyd na allai fy hunan iau ei dychmygu. Fy ngobaith yw y bydd Taking Flight yn dal i fod yn rhan bob amser o fy ngyrfa a’m bywyd personol i.”
A white man with glasses and a beard works at a lighting desk in a theatre balcony
Garrin Clarke
Mae Garrin yn Rheolwr Llwyfan/Cynhyrchiad a Dylunydd Goleuo anabl sy’n byw yng Nghymru. Bu Garrin yn gweithio gyda Taking Flight am y tro cyntaf yn 2019, ac ers hynny mae wedi gweithio gyda’r tîm ar deithiau theatr, archwilio digidol, prosiectau mynediad creadigol ac, ar ôl gael ei noddi gan Taking Flight i ymuno â Thasglu Llawrydd Theatr Fuel yn ystod y cyfnod clo, ymunodd â’r cwmni’n amser llawn yn 2021 fel Rheolwr Technegol a Chynhyrchu.

“A minnau’n dychwelyd bellach at waith llawrydd, dw i’n llawn cyffro wrth ddefnyddio’r hyn dw i wedi’i ddysgu gyda Taking Flight i helpu eraill i greu gwaith prydferth hygyrch fel mae Taking Flight wedi’i wneud. Dw i wedi cyffroi’n arw wrth ymuno â Chydweithwyr Creadigol Taking Flight, gan weithio ochr yn ochr â’r bobl greadigol wych eraill a pharhau ar fy nhaith gyda Taking Flight. Cefnogodd Taking Flight fy nhaith at nid yn unig dderbyn fy anabledd eithr teimlo ei fod yn fy ngrymuso, a dechrau ei ddefnyddio yn fy ymarfer fy hun.”

Cymraeg
Skip to content