Ceisiadau ar gyfer Encil Torri'r Bocs nawr ar agor!

Turquoise background with words Retreat, Upskill your performance and creative practice. 27 April - 1 May 2026. With Breaking the box logo in top left

 

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ceisiadau Encil Torri'r Bocs ar gyfer Encil Torri'r Bocs bellach ar agor. Preswylfa wythnos o hyd lle bydd cyfle gan artistiaid Byddar, Anabl a Niwrowahanol gyrfa gynnar i ddatblygu sgiliau yn eu maes! 

Fydd yr Encil yn cael ei gynnal rhwng y 27ain o Ebrill a’r 1af o Fai yn Theatr y Ffwrnes yn Llanelli. Mae gennym 12 lle â thâl ar yr Encil, lle bydd yr artistiaid llwyddiannus hefyd yn cael cyfraniad tuag at gostau llety a theithio 

Bydd gweithdai yn ystod yr wythnos yn cynnwys: 

    • Ymladd i lwyfan 

    • Ysgrifennu i berfformio 

    • Clownio 

    • Dyluniad a Pheirianneg Sain 

    • Dyluniad Hygyrch 

    • Ymarferion Gweithio Llyfr Gwyrdd y Theatr 

    • Taith Dechnegol a Chefn Llwyfan Hygyrch 

Fydd y gweithdai yn cael ei arwain gan artistiaid blaenllaw megis, Rebecca Wilson, Ruth Stringer, Katie O'Reilly a Ben Glover. Mae amserlen mwy manwl i'w weld isod. 

I gyd fynd a’r gweithdai, fydd gan fynychwyr yr Encil gyfle i holi arweinwyr yn y diwydiant megis Cyfarwyddwyr Taking Flight Elise Davison a Louise Ralph Cyfarwyddwr Pontio Osian Gwynn, a Sylfaenydd Stammermouth Nye Russell. Fydd yn gyfle i'r mynychwyr i'w holi nhw am sut i wireddu ei phrosiectau. 

Llenwch y ffurflen gais byr os hoffech ymgeisio am le ar yr Encil yn datgan eich ymarfer creadigol a pam fydd y cyfle yma yn fuddiol i chi nawr. 

Trwy gydol yr wythnos fydd yna ddehonglwyr BSL i Saesneg, ynghyd a thîm llesiant. Fyddwn yn ymgeisio i ddarparu unrhyw ofynion hygyrchedd ychwanegol. 

Fydd ceisiadau yn cau ar 24ain o Fawrth am 5 y.h.th A fyddwn yn hysbysu ymgeiswyr os ydych yn llwyddiannus erbynth 27ain o Fawrth. 

Amserlen 

  Dydd Llun  Dydd Mawrth  Dydd Mercher  Dydd Iau  Dydd Gwener 
Bore  Sesiynau “Dod i nabod” eich gilydd a gweddill y grŵp.  Dyluniad a Pheirianneg Sain  Capsiynnau Creadigol  Ymladd i Lwyfan  Clownio 
Prynhawn  Gweithio Llyfr Gwyrdd y Theatr  Sgwennu i berfformio  Dylunio Theatr 
Nôs    Sesiwn holi gyda arweinnwyr y sector    Sesiwn holi gyda arweinnwyr y sector   

 

Cwestiynau Cyffredin 

Ydw i'n ddigon anabl? 

Os ydych chi'n teimlo eich bod wedi wynebu rhwystrau i fynediad ar unrhyw adeg yn eich bywyd, neu os ydych chi'n uniaethu fel rhywun Byddar, Anabl neu Niwrowahanol, yna dyma’r cyfle i chi. 

Beth yw Artist Gyrfa Gynnar? 

Rydym yn diffinio Artist Gyrfa Gynnar fel rhywun sydd naill ai'n ystyried mynd i mewn i'r diwydiant creadigol neu sydd â rhwng 0-3 blynedd o brofiad gwaith yn y diwydiant. 

Oes rhaid i mi fod yn Gymro? 

Rydym yn croesawu unrhyw artist sydd wedi'i leoli yng Nghymru, sy'n Gymro, neu sydd â chysylltiad â Chymru. 

Faint fydda i'n cael fy nhalu? 

Byddwn yn talu ffi o £500 i bob ymgeisydd llwyddiannus am fynychu'r encil ynghyd a chostau llety a theithio. 

Oes rhaid i mi wneud yr wythnos gyfan? 

Os byddwch yn llwyddiannus, mae disgwyl i chi fynychu pob sesiwn. 

Rwy'n cael hi'n anodd llenwi’r ffurflen, beth ddylwn i'w wneud? 

Os ydych chi'n cael trafferth yn llenwi'r ffurflen, cysylltwch â ni drwy Whatsapp ar 07593821172 neu e-bostiwch admin@takingflighttheatre.co.uk a gallwn ddod o hyd i ffordd arall i chi gwblhau eich cais. 

Os ydw i'n rhy brofiadol ar gyfer y cyfle hwn, fedrai dal ymgeisio? 

Os oes gennych chi fwy o brofiad na’r hyn ni wedi diffinio, ond bod gennych chi dal diddordeb mewn ymgeisio, cysylltwch â ni ar admin@takingflighttheatre.co.uk i drafod ymhellach. 

Nid wyf yn Fyddar, yn Anabl nac yn Niwrowahanol, a allaf wneud cais o hyd? 

Oherwydd llawer o rwystrau i fynediad yn y diwydiant hwn, mae'r cyfle hwn ar gyfer y rhai sy'n nodi eu hunain fel Byddar, Anabl neu Niwrowahanol yn unig, ond cysylltwch â ni beth bynnag gan hoffem glywed amdanoch a'ch ymarfer. 

Cymraeg
Skip to content