Gwirfoddoli
Beth sy’n gwneud gwahaniaeth anferth i’n gwaith ni?
Pobl. Amser.
Cwrddwch â David. Mae David wedi gwirfoddoli’n rheolaidd gyda Taking Flight dros y tair blynedd ddiwethaf. Mae’n helpu i drefnu digwyddiadau codi arian a chyfarfodydd cymdeithasol – a dweud y gwir, oni bai am David, fydden ni byth yn cymryd amser ma’s i gysylltu â’n ffrindiau. Fe yw ein ‘dyn syniadau’ hefyd- mae e’n dyfeisio ffyrdd o’n helpu ni i weithio’n fwy effeithlon bob amser. Un ymarferol iawn yw David: mae e’n helpu i lwytho faniau, tacluso silffoedd, paentio waliau a labelu ein cyfarpar. Mae’n un gwych am roi cwtsh cysurol hefyd a gwneud dysglaid pan fydd ei hangen, sef trwy’r amser bron! Medd David:
Theatr Ieuenctid
Rydyn ni’n chwilio bob amser am ragor o bobl i ymuno â’n cronfa o wirfoddolwyr sy’n cefnogi’r theatr ieuenctid. Mae rhai’n gwirfoddoli bob wythnos, eraill yn llai aml. Mae pob un o’n gwirfoddolwyr ni wedi derbyn Hyfforddiant Diogelu a chael gwiriad DBS (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd). Mae llu o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol ac i gymryd rhan mewn sesiynau gyda’r aelodau ifanc a’u helpu i gael y fantais orau o’r theatr ieuenctid. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau i ymuno gan wirfoddolwyr B/byddar, anabl a rhai nad ydynt yn anabl!
Dyn ni’n ddiolchgar bob amser i bobl sy’n gallu cyfrannu eu hamser – popeth o un awr nawr ac yn y man i amser rheolaidd - i’n cefnogi ni. Gallwn ni roi pethau ymarferol ichi i’w gwneud, neu dasgau swyddfa os ydych chi’n fwy cyfforddus gyda’r math yna o waith. Cysylltwch â ni i ddysgu rhagor!
Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020
Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN
Members of:
Cylchlythyr
Cyfrannwch arian
Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!