Hyfforddi ac Ymgynghori
Ymgynghori
Gallwn ni gynorthwyo canolfannau/lleoliadau i asesu a gwella rhwyddfynediad corfforol ac o safbwynt agweddau, a helpu sefydliadau cynhyrchu hefyd i ymwreiddio rhwyddfynediad yn eu gwaith perfformio.
Trwy Taking Flight, cewch chi weithio gydag Ymgynghorydd Byddar ac Ymgynghorydd Dall. Rydym hefyd yn cynnig Ymgynghoriaeth BSL, Ymgynghoriaeth Disgrifio Sain, Ymgynghoriaeth Mynediad Creadigol a Chyd-Drefniant Mynediad. Rydym wedi bod wrthi ers 15 mlynedd yn creu theatr hygyrch, cynhwysol, ac mae gennym gwybodaeth arbenigol i’w chynnig ar ystod eang o feysydd ymgynghori. Meddyliwch amdanom fel eich siop un stop ar gyfer trysorfa o wybodaeth a phrofiad o ymwreiddio Mynediad Creadigol yn eich sefydliad chi!
Os carech chi drafod sut gallwn ni helpu eich sefydliad chi, cysylltwch â ni..
Dyma rhagor o'r wybodaeth am weithio gydag a gweithio gydag ymgynghorydd Byddar dros gynyrchiadau ac Ymchwil a Datblygu a gweithio gydag ymgynghorydd BSL dros gynyrchiadau. and R&D .
Hyfforddiant Dwys
Rydym yn cynnig pecyn hyfforddiant pedair-rhan ym maes gweithio’n gynhwysol. Mae’n cynnwys:
Cyflwyno Gweithio’n Gynhwysol
Y cwrs diwrnod cyfan yma, dan arweiniad ein tîm o ymarferwyr Byddar, dall ac anabl, yw’r cyflwyniad gorau i weithio’n gynhwysol. Cynhelir gweithgareddau ymarferol trwy’r dydd; mae’r hyfforddiant hwn yn cloddio i sylfeini ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar, yn ddall ac yn anabl yn gyffredinol. Byddwn yn delio â phopeth, o’r iaith a ddefnyddir gennym, a modelau Byddardod/anabledd, i’r holl reolau a gwaharddiadau a’n hawgrymiadau mwyaf gwerthfawr! O ddogfennau disgrifio anghenion mynediad i ddamcaniaeth y llwyau – a rhagor – ein cyflwyniad ni i weithio’n gynhwysol yw eich siop un stop ar gyfer popeth y mae angen ichi ei wybod.
Rhaid ichi gwblhau’r cwrs yma cyn i’ch sefydliad chi symud ymlaen at y cyrsiau dwys canlynol:
Hyfforddiant Dwys ar Ymwybyddiaeth o Fyddardod
Yn dilyn y sylfeini a astudiwyd yn y gweithdy cyflwyno gweithio’n gynhwysol, mae ein gweithdai undydd dwys ar Ymwybyddiaeth o Fyddardod yn dysgu ichi bopeth y mae angen ichi ei wybod am droi eich gwaith a / neu eich lleoliad yn groesawgar i’ch noddwyr Byddar a’ch aelodau staff Byddar fel ei gilydd. Mae’r sesiwn weithdy yma, yn llawn gweithgareddau ymarferol, yn trafod popeth o ddysgu am y gwahanol fathau o Fyddardod a gwahanol ddewisiadau o ran dulliau cyfathrebu, i sut i gyfathrebu â rhywun Byddar mewn BSL sylfaenol, argymhellion ynghylch darllen gwefusau a rhagor. Gweithdy a arweinir gan bobl Fyddar trwy gyfrwng BSL yw hwn, gyda dehonglwyr BSL/Saesneg.
Hyfforddiant Dwys ar Ymwybyddiaeth o Ddallineb
Yn dilyn y sylfeini a astudiwyd yn y gweithdy cyflwyno gweithio’n gynhwysol, mae ein gweithdai dwys ar Ymwybyddiaeth o Ddallineb yn cael eu teilwra’n benodol at ofynion eich sefydliad chi; maen nhw’n llawn gweithgareddau ymarferol fydd yn sbarduno eich staff i feddwl am sut byddan nhw’n rhoi’r offer newydd hyn ar waith mewn senarios go iawn. Arweinir y gweithdy hwn gan ein hymarferydd dall Tafsila Khan.
Hyfforddiant Sector-Benodol ar Ymwybyddiaeth o Anableddau
Yn dilyn y sylfeini a astudiwyd yn y gweithdy cyflwyno gweithio’n gynhwysol, mae’r gweithdy hwn yn cloddio i bopeth y mae angen ichi ei wybod am ymwybyddiaeth o anableddau yn sector y theatr. Mae’r sesiwn yn cynnwys llu o weithgareddau ymarferol, argymhellion defnyddiol a dulliau gweithredu y gallwch chi eu defnyddio mewn senarios go iawn yn eich sefydliad.
Cynhelir ein cyrsiau i gyd gan ein tîm arbenigol o hwyluswyr hyfforddiant mewn ymwybyddiaeth o Fyddardod, Dallineb ac Anableddau.
I ddysgu rhagor am ein pecynnau hyfforddiant neu i drafod anghenion mwy penodol eich tîm, cysylltwch â Steph Bailey Scottein Rheolwraig Mynediad, Cyfranogiad a Chynhwysiant.
Hyfforddiant Proffesiynol
Rydym yn trefnu digwyddiadau hyfforddi hefyd ar gyfer gweithwyr proffesiynol creadigol sy’n Fyddar, yn anabl ac yn abl, gan gynnig cyfleoedd i berformwyr ac ymarferwyr theatr i hogi eu sgiliau eu hunain.
- Gweithdai clownio a chomedi corfforol
- Cwrs hyfforddi hwyluswyr (2 wythnos) ynghyd â chynllun lleoliadau gwaith ar gyfer darpar arweinwyr anabl ac abl.
- Rhaglen i bobl greadigol ar ddechrau eu gyrfa – rhaglen 18 mis yn cyfuno dosbarthiadau meistr, gweithdai, lleoliadau gwaith, mentora rhwydweithio – wedi iddo redeg yn llwyddiannus yn barod fel rhan o’n prosiect Torri’r Blwch dylai ein cynllun ar gyfer Pobl Greadigol ar Ddechrau eu Gyrfa weithredu eto yn 2024; ymunwch â’n rhestr bostio ni, neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael rhagor o fanylion.
- Hyfforddiant grymuso creadigol gyda Hijinx – yn dechrau yn y Gwanwyn 2024. Ymunwch â’n rhestr bostio ni, neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael rhagor o fanylion.
- Cwrs dwys BSL lefel 1 ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y celfyddydau(dan arweiniad Sarona Training).
- Disgrifiadau Sain i’r theatr, dan arweiniad y Dr Louise Fryer.
- Rydym yn gobeithio lansio llwybr hyfforddiant cynhwysol ar gyfer perfformwyr ar ddechrau eu gyrfa fel dewis amgen yn hytrach nag Ysgol Ddrama yn 2024/25. Ymunwch â’n rhestr bostio ni, neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael rhagor o fanylion.
Disgrifiadau Sain
Rydym wedi gweithio’n ddiweddar gyda’r Dr Louise Fryer i hyfforddi tîm o Ddisgrifwyr Sain, gan gynnwys Disgrifwyr sy’n gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â ni.
Yn ogystal â’n partneriaid rheolaidd yng Nghanolfan Pontio, Theatrau Sir Gâr a Theatrau RhCT, mae ein cleientiaid hyfforddi ac ymgynghori’n cynnwys:
Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020
Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN
Members of:
Cylchlythyr
Cyfrannwch arian
Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!