Symposia
Rydym wedi bod wrthi ers 2013 yn cynnal digwyddiadau symposiwm sy’n agored i weithwyr proffesiynol yn y celfyddydau o bob cwr o Gymru a’r tu draw.
Roedd yr un cyntaf (Breaking Out of the Box - BOTB) yn gyflwyniad i ymarferwyr y celfyddydau sy’n defnyddio arferion cynhwysol. Arweiniwyd sgyrsiau a gweithdai gan rai o hoelion wyth byd y theatr anabl.
Canolbwyntiodd Breaking Out of the Box 2 (mewn partneriaeth â Creu Cymru) yn fwy penodol ar ehangu hygyrchedd y theatr a’r celfyddydau er lles cynulleidfaoedd ac artistiaid Byddar a Thrwm Eu Clyw.
Canolbwyntiodd BOTB 3 ar feithrin, datblygu a chroesawu cynulleidfaoedd a phobl greadigol sy’n ddall ac â Nam ar eu Golwg.
Gofynnai BOTB 4 “Cymru: Cenedl Amrywiol?”. Roeddem yn awyddus i drafod ac ymateb i’r cwestiynau a oedd wedi codi droeon ym myd y celfyddydau yng Nghymru yn ystod y flwyddyn flaenorol ynghylch tan-gynrychiolaeth yn y theatr, a sut gallwn ni ddwyn y rhesymau dros hyn i’r golwg, neu’r rhwystrau sy’n cadw lleoliadau a chynhyrchwyr theatr rhag troi’n fwy croesawgar ac yn fwy cynhwysol.
Mae’r siaradwyr wedi cynnwys: Jamie Beddard, Michele Taylor (Cyfarwyddydd Change, Ramps on the Moon), Ben Pettitt-Wade (Hijinx), Daryl Beeton (o Kazzum ar y pryd), Danny Braverman, Robert Softly-Gale (Birds of Paradise), Amanda & Wendy (Red Earth Theatre) Janna (Solar Bear), Maria Oshodi (Extant), Dr Louise Fryer (VocalEyes), Robin Bray-Hurren (ymgyngorydd ar ddeunyddiau cyffwrddadwy).
Os carech chi awgrymu testun i’w drafod, cymryd rhan mewn digwyddiad yn y dyfodol fel partner neu eu letya, cysylltwch â ni..
Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020
Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN
Members of:
Cylchlythyr
Cyfrannwch arian
Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!