Cefnogwch Ni
Ffyrdd o gefnogi ein gwaith
Cewch chi gyfrannu arian yn ddiogel trwy ddefnyddio’r ffurflen isod. Os ydych chi’n talu treth yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth anfon rhodd ar-lein.
Gallech chi ymuno â’n noddwyr rheolaidd. Cysylltwch â ni i ddysgu rhagor am gyfrannu’n rheolaidd i hyrwyddo ein gwaith.
Os mai busnes ydych chi, fe allech chi noddi prosiect, neu agwedd benodol ar brosiect. Fe noddodd cwmni Legal & General ambarelau er enghraifft ar gyfer un o’n sioeau ni yn yr awyr agored i gysgodi cynulleidfaoedd a pherfformwyr rhag y glaw. Gallai eich sefydliad chi fod yn gyfrifol am helpu un o’n prosiectau i lwyddo!
Pam dylech chi gefnogi Taking Flight?
Mae angen cefnogaeth ychwanegol ar bob prosiect rydym yn ei greu er mwyn gwireddu ein cenhadaeth.
- Gallwch chi ein helpu ni i barhau i ddarparu cyfleoedd cyflogi moesegol ar gyfer perfformwyr a phobl greadigol sy’n Fyddar ac yn anabl.
- Gallwch chi ein helpu ni i fagu hyder a sgiliau trosglwyddadwy pobl ifanc Fyddar ac anabl.
- Gallwch chi ein helpu ni i ddarparu modelau rôl anabl a Byddar cadarnhaol ar gyfer y cenedlaethau sy’n dod.
- Gallwch chi ein cynorthwyo ni i newid wynebau’r rhai sy’n creu theatr a’r rhai y mae’n cael ei greu ar eu cyfer.
Faint o bobl dych chi’n eu cyflogi bob blwyddyn?
- 4 aelod staff parhaol
- 1 youth theatre staff.
- 20 o berfformwyr proffesiynol y flwyddyn. (Bydd mwy na 50% o’r bobl hyn yn eu hystyried eu hunain yn Fyddar neu’n anabl.)
- 20-30 o bobl y flwyddyn gan gynnwys llenorion, hwyluswyr, cyfieithwyr BSL, Ymgynghorwyr Creadigol, Rheolwyr Llwyfan, dylunwyr, cyfansoddwyr a cherddorion.
- Mae gennym hefyd oddeutu 12 gwirfoddolwr rheolaidd
Faint o brosiectau rydych chi’n eu gwneud?
- Theatr Ieuenctid ar gyfer pobl ieuenctid sy'n Fyddar
- 2 gynhyrchiad y flwyddyn, sy’n teithio p’un ai yng Nghymru neu yn Lloegr.
- 2-3 o brosiectau’n cael eu datblygu ar gyfer y dyfodol bob blwyddyn
Faint o bobl sy’n cael profi eich gwaith?
- Perfformiwyd You’ve Got Dragons (prosiect sy’n cyfeirio’n dawel fach at iechyd meddwl gyda phlant ifanc iawn) gerbron mwy na 3248 o bobl. Cymerodd 767 o bobl ran mewn gweithdai cydnerthedd.
- Perfformiwyd Y Tempest gerbron ychydig yn llai na 3000 o bobl ledled Cymru yn ystod yr haf 2017.
- Gwyliwyd Real Human Being, a aeth i’r afael â throseddau casineb yn erbyn pobl anabl, gan fwy na 9000 o ddisgyblion uwchradd yng Nghymru rhwng 2014 a 2017.
CYMYNRODDION
Ar ôl ichi wneud darpariaeth ar gyfer eich anwyliaid, un ffordd hyfryd o barhau i gefnogi’r gwaith yr ydym yn ei wneud fyddai gadael cymynrodd inni yn eich ewyllys, ni waeth faint y gallwch chi ei roi. Trwy wneud hyn fe fyddwch chi’n buddsoddi yn nyfodol Taking Flight, gan feithrin egin dalentau creadigol Byddar ac anabl a gadael treftadaeth barhaus i’r cenedlaethau a ddaw. Gallech chi ystyried gadael swm penodol neu ganran efallai o’ch eiddo. Gan ein bod ni’n elusen gofrestredig sy’n cael ei hariannu fesul prosiect, gall £250 neu gymynrodd o 1% hyd yn oed wneud gwahaniaeth aruthrol.
Os carech chi drafod ein cefnogi ni mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda..
Gyda diolch i'n cyllidwyr:
Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020
Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN
Members of:
Cylchlythyr
Cyfrannwch arian
Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!