Taking Flight
Theatr Ieuenctid
Rydym wedi agor y theatr ieuenctid cyntaf yng Nghymru sy’n darparu’n benodol ar gyfer pobl ifanc Fyddar a thrwm eu clyw.
Yn 2020, yn dilyn blynyddoedd o waith cynllunio a diolch i gyllid oddi wrth BBC Children in Need a Sefydliad y Teulu Ashley a chymorth Canolfan Mileniwm Cymru, rydym wedi agor y theatr ieuenctid cyntaf yng Nghymru sy’n darparu’n benodol ar gyfer pobl ifanc Fyddar a thrwm eu clyw.
Beth fyddwn ni’n ei wneud?
Byddwn yn chwarae gemau, yn gwneud ffrindiau newydd, yn magu hyder, yn dysgu sgiliau newydd, yn gwneud pethau gwirion ac yn cael peth wmbredd o hwyl!
Mae’r Theatr Ieuenctid yn gweithredu 3 grŵp oedran: 4-7, 8-11 a 12-18 oed. Fe’u harweinir trwy gyfrwng BSL a Saesneg, ac mae cyfieithwyr a gwirfoddolwyr yn bresennol hefyd ym mhob sesiwn i gynorthwyo’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan The sessions are led by Stephanie Bailey-Scott, who is Deaf and supported by Elin Phillips, our group assistant who is hearing.
Ble byddwn ni’n gwneud hyn?
Ar hyn o bryd rydym yn cynnal sesiynau wyneb yn wyneb yn ystod y tymor yn yr Atriwm, Prifysgol De Cymru, Caerdydd. Clicwch yma i ddarganfod mwy am ein gweithdrefnau Covid.
Bydd yna sesiynau ychwanegol hefyd ar gyfer y grwpiau oedran hŷn yn ystod yr haf a gwyliau ysgol y Pasg, yn ogystal â theithiau y tu allan i Gaerdydd fel y gall y cyfranogion a’u teuluoedd weld perfformiadau theatr ardderchog yn cynnwys perfformwyr Byddar.
Pryd gallwn ni wneud hyn?
Cynhelir sesiynau y Theatr Ieuenctid bob dydd Sadwrn yn ystod tymhorau’r ysgolion.
4-10 oed yn cwrdd a 1yp-2.30yp
11-18 oed yn cwrdd a 3yp-5yp
I drefnu eich lle gyda Theatr Ieuenctid Taking Flight, neu i ddysgu rhagor amdano, cysylltwch â ni.
Steph@takingflighttheatre.co.uk
+44 7856 700733 (testun yn unig)
Wrth i Theatr Ieuenctid Taking Flight ddatblygu, byddwn ni’n gweithio at gydrannu digwyddiadau - wrth i’r bobl ifanc deithio fel perfformwyr a mewn rolau technegol/ y tu ôl i’r llenni.
Bydd gweithwyr proffesiynol o’r diwydiannau creadigol yn dod i mewn atom i drefnu sesiynau penodol megis Arwyddiaith Weledol Lafar (Visual Vernacular) ar gyfer perfformiadau, comedi corfforol, pypedwaith.
Bob haf a phob Pasg fe drefnir “preswyliad” (amhreswyliol) am wythnos ar gyfer y grwpiau hŷn, lle bydd y cyfranogion yn derbyn hyfforddiant dwys yn cynnwys sesiynau cydrannu ar ddiwedd yr wythnos. Fe gynhaliwn ni deithiau maes hefyd ar gyfer cyfranogion hŷn i weld digwyddiadau theatr wedi’u trefnu gan sefydliadau blaenllaw y Theatr Byddar.
Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020
Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN
Members of:
Cylchlythyr
Cyfrannwch arian
Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!