Gwaith Maes
Mae gan Taking Flight hanes maith o ddarparu modelau rôl sy’n portreadu pobl Fyddar ac anabl yn gadarnhaol ac o arddangos arferion cynhwysol. Rydym yn creu, yn dyfeisio ac yn arwain gyda grwpiau o blant, pobl ifanc ac oedolion ym mhob math o sefyllfa a lleoliad.
Rydym yn daparu sesiynau gweithdy i gwrdd â thargedau cwricwlwm, ar destunau gosod a themâu, neu’n canolbwyntio ar waith gwahanol ymarferwyr, ac ar ben hyn mae gennym brofiad helaeth o greu pecynnau hyfforddiant pwrpasol ar gyfer sefydliadau, lleoliadau a gwasanaethau yn ogystal ag ysgolion.
Mae pob gweithdy neu brosiect a gynhelir gan Taking Flight yn cael ei arwain bob amser gan dîm cynhwysol, gan ddarparu modelau rôl cadarnhaol ac arddangos arferion cynhwysol. Mae gan bob aelod o’n tîm o hwyluswyr ei faes arbenigedd ei hun; maen nhw i gyd wedi’u hyfforddi, yn brofiadol, ac yn ddeiliaid gwiriad DBS (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd). Gallwn arwain gwaith trwy gyfrwng BSL, Cymraeg neu Saesneg. Cysylltwch â ni..
Prosiectau Blaenorol:
- Cynllunio a chynnal penwythnos theatr trochol safle-benodol ar gyfer Cymdeithas.
- Gweithdai Shakespeare i ysgolion.
- Creu perfformiad mewn ymateb i safle hanesyddol lleol gyda grŵp o fyfyrwyr.
- Genedlaethol y Plant Byddar gydag arweinwyr Byddar a rhai sy’n clywed.
Sesiynau preswyl magu hyder gyda grwpiau o oedolion ag anafiadau i’r asgwrn cefn.


Taking Flight Theatre
Chapter Arts Centre
Market Rd
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020
Youth Theatre meets at:
Wales Millennium Centre
Bute Place
Cardiff, CF10 5AL
Newsletter
Donate
Support Taking Flight with your generous donation. You can donate securely through our website (below) or send a cheque, payable to Taking Flight Theatre. (If you are a UK taxpayer, please click the Gift Aid option when donating online). Diolch!