Ein Gweledigaeth ni

Ein Gweledigaeth ni... yw byd y celfyddydau lle mae’r storïau a adroddir a’r lleisiau a glywir yn gwir adlewyrchu’r byd yr ydym yn byw ynddo; lle mae’r theatr a grewn ni’n deall cynulleidfaoedd o bob cefndir ac yn eu gwahodd i mewn yn groesawgar.

Ein Cenhadaeth

Ein Cenhadaeth... yw dinistrio’r rhwystrau sy’n cadw pobl rhag cymryd rhan yn y theatr, gan wthio’n ddibaid yn erbyn yr hyn sy’n eu hatal rhag bod yn greadigol. Ein nod yw hybu cynrychiolaeth pobl Fyddar ac anabl yn y theatr trwy lefelu’r llwyfan. Dymunwn newid tirwedd y celfyddydau yng Nghymru a’r tu draw trwy herio eraill i feddwl mewn ffyrdd mwy cynhwysol.

Play Video

Beth rydym yn ei wneud

Yma yn Taking Flight rydym yn creu cynyrchiadau theatr eofn ac anghyffredin gyda pherfformwyr sy’n Fyddar, yn anabl, a heb fod yn anabl. Mae ein gwaith yn teithio trwy Gymru a’r tu draw, ac yn aml byddwn yn ein cael ein hunain mewn lleoedd anghysbell yn ogystal â theatrau traddodiadol. . Dysgwch ragor

Ochr yn ochr â’n gwaith teithio, rydym wrthi’n meithrin talent anabl y genhedlaeth nesaf, ar y llwyfan a’r tu ôl i’r llenni. Rydym wedi gwneud hyn trwy gynnal [cyrsiau hyfforddiant proffesiynol cynhwysol]a chynlluniau mentora ar gyfer pobl sy’n eu hystyried eu hunain yn Fyddar neu’n anabl ac sy’n chwilio am y cam nesaf ymlaen at yrfa yn y theatr, neu a hoffai ddatblygu’r sgiliau sydd ganddynt a magu hyder. 

 mwy na 10 mlynedd o brofiad i’n henw ni, ni yw’r sefydliad y mae pawb yn dod ato yng Nghymru ar gyfer cyngor, gwybodaeth neu ysbrydoliaeth yng nghyswllt integreiddio rhwyddfynediad a gweithio gyda chastiau cynhwysol. Dysgwch ragor am sut gallwn ni eich helpu chi yn yr adran Gweithio Gyda’n Gilydd..  

Mae’n bleser gennym rannu popeth yr ydyn ni wedi’i ddysgu am weithio’n gynhwysol, ac rydyn ni’n trefnu digwyddiadau’n rheolaidd â’r nod o ysbrydoli sefydliadau eraill ym myd y celfyddydau i feddwl y tu allan i’r blwch wrth weithio gydag artistiaid tan-gynrychioledig, ac i roi cynnig ar ffyrdd newydd o greu gwaith hygyrch a’i farchnata.

Play Video
A young woman with long dark hair and short arms uses an ipad and headphones, out of focus, others look on
An audience for a promenade play outdoors in the sunshine

Cliciwch isod i weld Pethau y Liciwn i Fod Wedi’u Dweud; dyna ymateb creadigol Conor Allen, Stephanie Bailey-Scott a Rufus Mufusa i sesiynau ein Panel Datblygu Polisi. Mae’n cynnwys iaith fras.

Play Video
Taking Flight Logo

Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020

Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:

Atrium
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN

Members of:

A selection of logos: WCVA, Tempo, Creu Cymru, TYA Cymru, Outdoor Arts UK, The Cardiff Committment and Passport to the City

Cylchlythyr

Cyfrannwch arian

Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!

Cymraeg
Skip to content