Partneriaeth ledled Cymru yw Breaking the Box, wedi’i hariannu gan Brosiect Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru.

Mae'r partneriaid: Theatr Cwmni Taking Flight, Hynt, Ymddiriedolaeth Ddiwiddliannol Awen, Celfyddydau Anabl Cymru, Theatrau Sir Gar, Pontio, Theatrau RHCT

Mae Breaking the Box yn datblygu rhwydwaith o leoliadau perfformio cynhwysol a hygyrch yng Nghymru, sy’n hyderus ac yn derbyn cefnogaeth i groesawu artistiaid, aelodau criw y tu ôl i’r llwyfan, staff gweinyddol a chynulleidfaoedd amrywiol. Mae’r prosiect yn cynnig hyfforddiant a chymorth i egin-weithwyr theatr Byddar ac anabl trwy gyfrwng y rhaglen ar gyfer Pobl Greadigol ar Drothwy Eu Gyrfa (PGDEG); mae’n gweithio at ymgorffori rolau ar gyfer pobl greadigol Fyddar ac anabl mewn canolfannau perfformio yng Nghymru yn y dyfodol, gan ail-ddychmygu’r gweithlu creadigol. Rydyn ni’n ymdrechu i sefydlu meincnod i Gymru yn nhermau pa mor bell yr ydyn ni wedi cyrraedd o ran arferion cynhwysol a rhwyddfynediad yn ogystal â chydrannu gwersi’r prosiect ar draws y sector yng Nghymru ac ymhellach draw.

Yng ngham un y prosiect, gweithion ni gyda Mary-Jayne Russell de Clifford, gwneuthurwr a hwylusydd theatr Byddar, fel Rheolwr Prosiect ar y Rhaglen Creadigwyr Gyrfa Gynnar (ECC), gan gynnig cyfleoedd lleoli, cefnogaeth a rhwydweithio i Emily Rose Corby a Mason Lima, y Greadigwyr Gyrfa Cynnar ynghlwm â'r cynllun Breaking the Box. Wnaethon ni hefyd gefnogi Emily, Mason a phobl greadigol Byddar ac anabl eraill sydd ar ddechrau eu gyrfa, a'u galluogi i fynychu Gŵyl Caeredin, yn ogystal â chynnig cyfleoedd hyfforddi a lleoliadau iddynt. Gyda Dr Louise Fryer, hyfforddon ni garfan o ddisgrifwyr sain newydd yng Nghymru, gan gynnwys disgrifwyr sy'n gallu gweithio yn y Gymraeg. Derbyniodd holl staff ein lleoliadau partner hyfforddiant ymwybyddiaeth o Fyddardod ac Anabledd. Dathlwyd diwedd cam cyntaf y prosiect gyda diwrnod rhannu â'r diwydiant yn Ffwrnes, Llanelli. 

A ninnau wedi gweithio gyda'n gilydd am ddwy flynedd i ddatblygu'r rhaglen arloesol yma, rydym wrth ein bodd ein bod nawr wedi derbyn tranche arall o gyllid fydd yn ein galluogi i barhau i ddatblygu'r gwaith dros y ddwy flynedd nesaf. Yng ngham dau'r prosiect, byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid blaenorol ynghyd ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen. Mae'r cam yma yn lleoli partneriaid llawrydd anabl (provocateurs) sydd yn ymarferwyr creadigol ac yn meddu ar brofiad byw. Mae tri provocateur yn gweithio ar y prosiect, Emily Rose Corby (a elwodd yn broffesiynol o gam cyntaf y prosiect), Demelza Monk a Rhys Slade Jones, ac mae'r prosiect yn rhoi llais iddynt yn y sefydliadau, er mwyn iddynt ysgogi a herio ffyrdd arferol o weithio, a dod o hyd i gyfleoedd a chefnogaeth i'r Creadigwyr Gyrfa Gynnar (ECC). Bydd hefyd rhaglen 12 mis ar gyfer Creadigwyr Gyrfa Gynnar newydd gan gynnwys cyfleoedd hyfforddi cyflogedig, a bwrsari hyfforddi i actorion i fynd i'r afael â'r prinder perfformwyr anabl a Byddar.

Dysgwch fwy am ein Provocateurs yma

Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau Breaking the Box ar eich showcase Linkedin yma

Taking Flight Logo

Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020

Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:

Atrium
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN

Cylchlythyr

Cyfrannwch arian

Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!

The logos of the People's POstcode Lottery and Postcode Community Trust

Members of:

A selection of logos: WCVA, Tempo, Creu Cymru, TYA Cymru, Outdoor Arts UK, The Cardiff Committment and Passport to the City
Cymraeg
Skip to content