Yn Galw Pobl Greadigol ar Ddechrau Eu Gyrfa
- Ydych chi’n berson creadigol ar ddechrau eich gyrfa â diddordeb mewn magu eich sgiliau gwneud theatr?
- Ydych chi’n eich ystyried eich hun yn Fyddar neu’n anabl?
- Ydych chi’n byw yng Nghymru, neu’n ystyried eich hun yn Gymro/Gymraes?
- Ydych chi’n gweld buddion mewn cael addysg yn y gwaith trwy gyfrwng lleoliadau gwaith, mentora a chyfleoedd i ddatblygu’n broffesiynol?
Os mai ‘ydw’ yw eich ateb i’r cwestiynau hyn, hoffen ni glywed oddi wrthych chi!
Mae Theatr Taking Flight, Hynt, Theatrau Sir Gâr, Theatrau RhCT, Canolfan Celfyddydau Pontio, Prifysgol Bangor a Disability Arts Cymru’n cynnal rhaglen lleoliadau gwaith ar gyfer Pobl Greadigol ar Ddechrau Eu Gyrfa.
Mae’r rhaglen yn rhan o brosiect cydweithredol ehangach, sydd â’r teitl dros dro ‘Breaking the Box’, rhwng sefydliadau’r bartneriaeth yma. Mae’n canolbwyntio ar ddatblygu rhwydwaith o ganolfannau a sefydliadau sy’n anelu at greu golygwedd fwy cynhwysol a hygyrch fydd yn cwmpasu cynulleidfaoedd, cwmnïau ac unigolion creadigol.
Am faint o amser?
Bydd pob lleoliad gwaith yn para am 9 mis; gallwn ni fod yn hyblyg wrth ystyried hyd eich ymrwymiad o ran amser.
Sut bydd yn gweithio?
Bydd pob lleoliad gwaith yn cynnwys tri math o weithgaredd:
- Sesiynau mentora pwrpasol gyda mentor sydd â phrofiad o ddewis rôl y person creadigol yn y theatr
- 3 lleoliad gwaith mewn canolfannau partnerol
- Rhychwant o gyfleoedd datblygu proffesiynol a drefnir gan Taking Flight a chanolfannau partnerol (gweithdai, dosbarthiadau meistr, cyfarfodydd, digwyddiadau rhwydweithio ayyb).
Beth yw ystyr ‘sgiliau gwneud theatr’?
Gall sgiliau gwneud theatr gynnwys: dylunio theatrig, cynhyrchu, dylunio sain, rheoli llwyfan, marchnata, dylunio goleuadau, cyfarwyddo, ysgrifennu, dylunio ymladd, cyfarwyddo cyfathrach, dehongli BSL, disgrifio sain, cyfansoddi, neu unrhyw rôl greadigol yn y theatr ar wahân i actio.
Sawl lle sydd ar gael ar y rhaglen?
Tri lleoliad cyflogedig sydd ar gael, ond bydd pob un sy’n cyflwyno cais yn cael ei wahodd i ymuno â’r rhaglen ddatblygiad proffesiynol.
Ai cyfle cyflogedig yw hwn?
Ie, mae bwrsariaeth o £9,000 ar gael i bob person creadigol, yn ogystal â chostau teithio, llety a threuliau per diem ar gyfer yr amser a dreulir oddi cartref.
Sut galla i geisio?
Anfonwch hyd at 500 o eiriau neu fideo hyd at 5 munud o hyd i ddweud wrthym ychydig amdanoch chi, gan egluro pa sgiliau theatr yr ydych chi’n awyddus i’w datblygu a pha fuddion y carech chi’u cael o’r rhaglen leoliadau gwaith. Anfonwch y rhain i Louise@takingflighttheatre.co.uk erbyn 5.0yh ar 29ain Tachwedd.
Os oes cwestiynau gennych chi ynghylch y lleoliadau gwaith, cysylltwch â Louise i drefnu cael sgwrs anffurfiol.
Fe gynhelir cyfweliadau ym mis Rhagfyr, wyneb yn wyneb neu ar Zoom yn ôl yr amgylchiadau. Bydd y lleoliadau gwaith yn dechrau ym misoedd cynnar 2022.
Sut galla i geisio?
Anfonwch hyd at 500 o eiriau neu fideo hyd at 5 munud o hyd i ddweud wrthym ychydig amdanoch chi, gan egluro pa sgiliau theatr yr ydych chi’n awyddus i’w datblygu a pha fuddion y carech chi’u cael o’r rhaglen leoliadau gwaith. Anfonwch y rhain i Louise@takingflighttheatre.co.uk erbyn 5.0yh ar 29ain Tachwedd.
Os oes cwestiynau gennych chi ynghylch y lleoliadau gwaith, cysylltwch â Louise i drefnu cael sgwrs anffurfiol.
Fe gynhelir cyfweliadau ym mis Rhagfyr, wyneb yn wyneb neu ar Zoom yn ôl yr amgylchiadau. Bydd y lleoliadau gwaith yn dechrau ym misoedd cynnar 2022.
Lawrlwythewch y fersiwn 'Easy Read' yma
Gwrandewch ar y galw sain yma (yn Saesneg):
Ac yma (yn Gymraeg):


Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020
Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN
Cylchlythyr
Cyfrannwch arian
Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!

Members of:
