Actress Steph Back, who is Deaf, supported on stage in First Three Drops sby creative enabler Isabela Colby Browne

Action for Children’s Arts J.M. Barrie Awards

Derbyniodd Steph Wobr J.M.Barrie

Ar benblwydd Gwobrau J. M. Barrie yn 20 oed, cydnabuwyd cyfraniad y deinamo celfyddydau i blant ac actores Fyddar, Stephanie Bailey-Scott o Gymru, ochr yn ochr â’r enwogion Michael Foreman OBE, RDI a Syr Frank Bowling OBE, RA.

Mi fydd penblwydd 20 mlynedd Gwobrau J. M. Barrie yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd yn Theatr Tywysog Cymru yn Llundain, mae Taking Flight yn falch iawn o gyhoeddi ymlaen llaw bod eu Swyddog Cyfranogiad, Mynediad a Chynhwysiant, Steph Bailey-Scott yn un o enillwyr eleni, sydd yn ei gwneud nid yn unig yn dderbynnydd Byddar cyntaf y wobr, ond hefyd yr enillydd cyntaf o Gymru.

Dywed Vicky Ireland MBE, Llysgennad a Sylfaenydd Celfyddydau Gweithredu dros Blant, ‘Dros yr 20 mlynedd diwethaf mae wedi bod yn anrhydedd i’n helusen gydnabod cyfraniad cymaint o artistiaid i blant gwych gyda'n Gwobrau J.M Barrie unigryw. A chyda balchder mawr rydym yn anrhydeddu'r enillwyr eleni – tri artist eithriadol y mae eu gwaith ysbrydoledig yn profi grym trawsnewidiol y celfyddydau ac addysg ddiwylliannol, wrth feithrin creadigrwydd, celfyddyd, dychymyg ac empathi ym mywydau plant ein cenedl.”

Mae Stephanie Bailey-Scott o Taking Flight – actores, gwneuthurwr theatr ac arweinydd gweithdai – wedi ennill y Wobr Addysg, sy’n cydnabod unigolion am eu cyfraniadau uniongyrchol i addysg a mentoriaeth plant yn y celfyddydau, gan ddangos eu hymrwymiad i fynd gam ymhellach ar gyfer eu cymunedau a meithrin angerdd gydol oes dros y celfyddydau.

Mae Stephanie yn Swyddog Cyfranogiad, Mynediad a Chynhwysiant yng nghwmni theatr Taking Flight, lle mae’n gweithio i gysylltu pobl ifanc Byddar gyda modelau rôl Byddar o ddiwylliannau a phrofiadau amrywiol, gan gynyddu eu hyder, ehangu eu rhwydweithiau, a'u cynorthwyo i adeiladu dyfodol yn y celfyddydau a thu hwnt. Mae Taking Flight yn creu cynyrchiadau theatr beiddgar, anarferol gyda pherfformwyr nad ydynt yn anabl, a pherfformwyr Byddar, anabl, a niwroamrywiol.

Mae Stephanie hefyd yn arwain Theatr Ieuenctid Taking Flight (yr unig gwmni theatr ieuenctid Cymru ar gyfer pobl Fyddar a thrwm eu clyw), cwmni y mae hi’n hynod falch ohono. Mae Steph ei yn Fyddar ac yn anabl, ac yn enwog hefyd am ei ffyn cerdded chwaethus!

AM Y GWOBRAU

Mae Gwobrau blynyddol J.M. Barrie yn dathlu pobl a sefydliadau sy’n gwneud gwaith rhagorol ym maes celfyddydau i blant ac y bydd eu gwaith, ym marn Ymddiriedolwyr ACA, yn sefyll prawf amser. Bydd y gwobrau’n cael eu cyflwyno mewn seremoni ar brynhawn dydd Iau 7 Tachwedd 2024 yn yr Ystafell Delfont yn Theatr Tywysog Cymru, un o theatrau Delfont Mackintosh yn Llundain.

Action for Children’s Arts Sefydlwyd ACA ym 1998 gan Vicky Ireland MBE, gyda chefnogaeth grŵp o weithwyr proffesiynol celfyddydau plant o’r un anian. Mae ACA yn sefydliad aelodaeth cenedlaethol sy’n cynnwys yr holl weithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes celfyddydau plant. Mae'r elusen yn ymroddedig i hyrwyddo, datblygu a dathlu'r holl gelfyddydau creadigol a pherfformio ar gyfer a chyda phlant 0-12 oed. Fel llais celfyddydau plant yn y DU, mae ACA yn hyrwyddo dosbarthiad tecach o gyllid celfyddydol i blant ac yn hyrwyddo achos celfyddydau plant gyda’r holl gyrff gwneud penderfyniadau polisi a chyrff perthnasol eraill.

Taking Flight Logo

Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020

Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:

Atrium
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN

Members of:

A selection of logos: WCVA, Tempo, Creu Cymru, TYA Cymru, Outdoor Arts UK, The Cardiff Committment and Passport to the City

Cylchlythyr

Cyfrannwch arian

Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!

Cymraeg
Skip to content