Cyngor Celfyddydau yn gwobrwyo Grant Cynyrchiadau Mawr i Taking Flight
Ni mor hapus ein bod wedi derbyn Grant Cynyrchiadau Mawr gan Cyngor Celfyddydau Cymru i gefnogi ein cynhyrchiad o The Mab a fydd yn teithio canolfannau yn Gwanwyn 2027. Llongyfarchiadau i Theatr Cymru a Welsh National Theatre ar ei gwobrau, ni'n edrych ymlaen i weld eu cynyrchiadau.
Mae'r wobr sylweddol yma i lwyfannu 'The Mab' sy'n cynnwys dros £40,000 o gostau hygyrchedd personol. The Mab wedi'iw cyd-sgwennu gan Eloise Williams a Matt Brown, yn meincnod arwyddocaol yn ein siwne hyd hyn. Mae'r wobr yma yn ein ymbweru i gryfhau safon y cynhyrchiad ar raddfa uchelgeisiol, ac yn ein caniatâu i greu effaith gryfach a cyraedd gynulleidfaoedd ehangach.
The Mab yn ail-ddychmygu chwedlau'r Mabinogi sydd yn gyfarwydd a ni oll. Trwy'r ceinciau gwahanol, mae'n archwilio themau o alar, derbyn dy hun ac ymbweru menywod.
Mae'r llenor amryddawn Branwen Davies a'r dylunydd Ruth Stringer wedi bod yn ganolog i'r broses datblygu, gan ddarparu dramatwrgaeth a mewnbwn i greu dyluniad eco-gyfeillgar. Ni'n edrych ymlaen gyd-weithio efo nhw yn y camau nesaf.
Fel bob prosiect Taking Flight, rydym yn gosod hygyrchedd yn ganolog i'n prosesau, wrth gastio yn gynhwysol rydym yn sicrhau bod ein straeon yn cael ei adrodd gan bobl Byddar, anabl a niwrowahanol. Mae ein techneg hygyrchedd creadigol yn sicrhau bod ein cynulleidfaoedd yn medru mwynhau ein gwaith heb rhwystrau, ac rydym yn edrych ymlaen i The Mab ddod a'r cynhyrchiad yn fyw i'n cynulleidfaoedd i gyd. I gyd fynd a'r daith, fydd yna rhaglen ymgysylltu mewn cyd-weithrediad a Llyfrgell Cenedlaethol Cymru i gyflwyno hanesion llawysgrifau y Mabinogi i genhedlaeth newydd o bobl ifanc.
Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Taking Flight, Elise Davison Dwi wrth fy modd fod Cyngor Celfyddydau Cymru wedi gwobrwyo Taking Flight efo grant Cynyrchiadau Mawr. Ar ôl bron i 20 mlynedd o weithio yn gynhwysol, yn creu gwaith gyda artistiaid Byddar, anabl a niwrowahanol, ac yn arwain y gâd yn y defnydd o hygyrchedd creadigol wedi'w integreiddio, dwi mor gyffrous i rhoi y platfform mae'r gwaith yma'n haeddu"
Dywedodd sgwennwyr Matt Brown ac Eloise Williams "Rydym wedi gwario'r 3 mlynedd diwethaf yn gweithio efo Taking Flight ac rydym wrth ein boddau bod cyllid nawr yn ei le. Ni methu aros i gynulleidfaoedd i gwympo mewn cariad efo'n stori."
Mae'r cynhyrchiad yma wedi'i ddatblygu ar y cŷd a'n cyd-gynhyrchwyr, Theatrau Sir Gâr a Chanolfan Celfyddydau Glan yr Afon. Dechreuon ni ddatblygu The Mab 3 mlynedd yn ôl gyda cefnogaeth Sharon Casey yn Theatr y Ffwrnes. Ni'n edrych ymlaen i ddatblygu'r berthynas yn bellach gyda Ben Lloyd yn Theatrau Sir Gâr a Sharon Casey yn Glan yr Afon.
Ychwanegodd Pennaeth Theatr, Celfyddydau a Diwylliant Newport Live Sharon Casey "Dwi'n falch iawn i weld y cynhyrchiad arwyddocaol yn dod i lwyfan, dwi wedi bod yn rhan o ddatblygiad y darn dros y dair mlynedd diwethaf. Mae Glan yr Afon yn falch iawn i rhoi platfform i theatr teulu sy'n gynhwysol ac yn hygyrch, ac yn falch o allu croesawu Taking Flight i'n prif lwyfan an y tro cyntaf. Yn dilyn ei llwyddiannau yn ein stiwdio ac yn ein digwyddiadau awyr agored, mae'r cyllid yma yn agor y drws i mwy o gynulleidfaoedd i brofi ei gwaith anhygoel."
Dywedodd Ben Lloyd o Theatrau Sir Gâr"Rydym ni yn Theatrau Sir Gâr yn hynod o gyffrous i weld The Mab yn dod yn fyw gyda ffrwydrad o greadigrwydd ac uchelgais, ac yn falch iawn ei fod yn gynhyrchiad sydd wedi'i ddatblygu yma yn Sir Gâr yn cael ei weld ar lwyfannau mawr ar draws Cymru. Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn croesawu'r cyfle i ddangos ymarfer cynhwysol ar raddfa mwy. Fel partner hir dymor i Taking Flight ar ei prosiect 'Torri'r Bocs', rydym yn edrych ymlaen i ddechrau perthynas ffrwythlon efo Canolfan Glan yr Afon. Ni wir methu aros i rhannu;r gwaith hynod o arwyddocaol efo'n cynulleidfa yn 2027."
I sicrhau y newyddion diweddara ac am gyhoeddiadau pellach, cadwch lygaid ar ein cyfryngau cymdeithasol a tanysgrifwch i ein cylchlythr am newyddion yn syth i'ch ebost.
