Mae’n bleser gennym ddatgan bod Tafsila Khan yn ymuno â’r tîm yn swyddogol fel Cyd-Drefnydd Mynediad dan hyfforddiant. Mae hon yn rôl newydd i’r diwydiant, a thra bydd Tafsila’n dysgu wrth gyflawni’r swydd, fe fydd y swydd ei hun yn dal i ddatblygu wrth iddi ddysgu, gan ddarganfod y gwahanol elfennau i gyd y bydd yn rhaid eu tynnu ynghyd er mwyn gwneud o’r theatr hygyrch y profiad gorau posibl i’r gynulleidfa, i bobl greadigol ac i’r canolfannau perfformio. Mae Tafsila’n ymgynghorydd Dall ar fynediad ac yn egin gyfarwyddydd theatr a chanddi awch am storïau go iawn ac am roi llais i’r rhai nad ydynt fel arfer yn cael eu clywed. Fe’i cymhellir gan y grym sydd gan y celfyddydau i beri newid o fewn y gymdeithas, ac wrth graidd ei gwaith y mae hygyrchedd er mwyn hybu ymgysylltiadau ehangach â’r celfyddydau. Rydyn ni’n byw mewn oes gyffrous, ac mae’n bleser o’r mwyaf inni groesawu Tafsila i’r tîm.

Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020
Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN
Cylchlythyr
Cyfrannwch arian
Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!

Members of:
