Dyddiad cau wedi'i estyn 9yb 27/02/2023
Mae Cwmni Theatr Taking Flight yn chwilio am ymddiriedolwyr newydd i ymuno â’i fwrdd gweithredol ymroddedig a phrysur.
Mae'r dyddiad cau ar gyfer anfon ceisiadau wedi cael ei estyn i 9yb Dydd Llun 27ain Chwefror.
Os carech chi gael sgwrs anffurfiol gydag un o'n hymddiriedolwyr ni cyn ceisio am y swydd, byddai ein cyd-gadeirydd Andrew Tinley yn hapus iawn i glywed oddi wrthych chi. Ebostiwch e ar trustee@ takingflighttheatre.co.uk
Mae Taking Flight yn gwmni theatr cynhwysol wedi ei leoli yng Nghaerdydd, sy’n gwneud cynyrchiadau proffesiynol hygyrch gyda pherfformwyr Byddar, anabl, dall neu rannol ddall, yn ogystal â phobl heb anabledd.
Mae ein gwaith i gyd yn cynnwys hygyrchedd corfforedig, megis Iaith Arwyddion Prydain (BSL), capsiynau a Sain-Ddisgrifio. Rydym hefyd yn cynnal yr unig theatr ieuenctid yng Nghymru ar gyfer pobl ifanc Byddar a Thrwm Eu Clyw.
Mae ymddiriedolydd yn berson sy’n gofalu am waith elusen, gan wneud yn siŵr ei bod yn cyrraedd ei thargedau elusennol ac yn cyflawni popeth a wnâ mewn ffordd gyfreithiol a phroffesiynol. Bydd yr ymddiriedolwyr yn mynychu cyfarfodydd sawl gwaith bob blwyddyn er mwyn arolygu, cynllunio a thrafod gwaith yr elusen. Ni fydd ymddiriedolwyr yn cael eu talu am eu gwaith, ond maent yn derbyn costau teithio ayyb.
Ar hyn o bryd mae gennym 6 o ymddiriedolwyr ar fwrdd Taking Flight ac rydym yn chwilio am 4-6 arall.Rydym yn awyddus i groesawu ymgeiswyr Byddar ac anabl. Mae ein cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn Saesneg ac yn Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Rydym yn chwilio’n arbennig am ymddiriedolwyr sydd â phrofiad yn y meysydd canlynol:
· • Yr iaith Gymraeg
· • Adnoddau Dynol
· • Y gyfraith
· • Cyllid
Ond pwy bynnag ydych chi, a pha brofiad bynnag sydd gennych, y peth pwysicaf i ni yw brwdfrydedd, egni a’r awydd i gefnogi ac i wneud gwir wahaniaeth yng ngwaith Taking Flight wrth i ni fwrw ymlaen.
I wneud cais, cysylltwch â ni yn y modd sydd fwyaf cyfforddus i chi. Cewch chi anfon CV, neu ysgrifennu llythyr, gwneud fideo neu recordio ffeil sain. Cewch ddefnyddio Saesneg, Iaith Arwyddion Prydain, neu Gymraeg.
Anfonwch at:
louise@takingflighttheatre.co.uk
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu angen modd gwahanol o gysylltu â ni, ffoniwch neu anfonwch neges destun at 07737 253989.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych!
Two years on and I am still incredibly excited to be working with such a knowledgeable and diverse team. Learning from the other Taking Flight trustees and from the staff team, gaining Strategic experience of how a project-based theatre company runs, has been good for me and a lot of amazing exciting ideas have been thrown around and important work done.
It has proven to be very helpful for me to be able to slot these experiences in with other community, local government and art work that I am involved in. As a trustee for any worthwhile charitable organisation, I think the role will easily give back as much as you put in. This is certainly been my experience so far with Taking Flight. It is an honour for me to be part of this organisation that always uses new, current, vibrant, genius and playful theatre to lead the way and set the benchmark for creative accessible work in Wales. I'm looking forward to working with new and existing board members to help set the direction of the company for the years to come. You don’t have to take my word for it; apply to join the board and find out for yourself."


Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020
Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN
Cylchlythyr
Cyfrannwch arian
Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!

Members of:
