Mae Breaking the Box yn brosiect cymhleth a phellgyrhaeddol sy'n cynnwys llawer o bartneriaid. Mae'r rhain yn cynnwys Taking Flight Theatre, Hynt, Pontio, Theatrau RCT, Theatrau Sir Gâr, Celfyddydau Anabledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.
Rydym yn chwilio am Gydlynydd Prosiect a fydd yn arwain y gwaith o recriwtio a chefnogi ddwy rôl 'Gwneuthurwyr Newid' Byddar, anabl neu Niwrorywiol, gan eu cynorthwyo i wreiddio yn eu canolfannau partner penodedig. Rydym yn chwilio am unigolun sydd yn angerddol am gynhwysiant ac am gyflawni newid. Rhywun a fydd yn adlewyrchu gwerthoedd craidd y prosiect sef bod yn agored, dilysrwydd, undod, realaeth, ac etifeddiaeth.
Beth yw Breaking the Box?
Mae arnom angen mwy o bobl greadigol Byddar, anabl a niwroamrywiol i ddod â’u doniau a’u sgiliau i'r theatr yng Nghymru. Nid yn unig ar y llwyfan, ond tu cefn llwyfan hefyd, ac ym meysydd cynhyrchu a rheoli'r celfyddydau hefyd. I hwyluso hyn mae angen sector theatr a chelfyddydau sydd yn wybodus ac yn ymwybodol, gyda diwylliannau ac amgylcheddau gwaith sydd yn barod i gefnogi pawb er mwyn iddynt allu gwneud eu gwaith gorau.
Mae Breaking the Box (BTB) yn gonsortiwm o bartneriaid cysylltiedig ag ymroddedig. Rydym yn profi ac yn dysgu ffyrdd newydd o gydweithio gyda'n gilydd. Drwy wneud hyn, rydym yn modelu sut i greu'r cyfleoedd a’r newidiadau sydd eu hangen arnom i greu gweithle mwy dichonadwy yn y celfyddydau i bawb.
Yn y dyddiau cynnar, sefydlodd BTB rwydwaith o ganolfannau yng Nghymru sy'n hygyrch ac yn groesawgar i staff, pobl greadigol a chynulleidfaoedd hefyd. Rhoddwyd pwyslais cryf ar feithrin diwylliant o gynhwysiant ac o groesawu hygyrchedd fel gwerth craidd. Ceisiwyd fynd i’r afael hefyd â’r tangynrychiolaeth yn y sector o bobl greadigol Fyddar ac anabl tu cefn llwyfan, trwy gynnig cyfleoedd datblygu gyrfa. Buom yn gweithio gyda 6 Unigolyn Creadigol Gyrfa Gynnar (UCGG), yn archwilio’r gwahanol sgiliau a disgyblaethau cefn llwyfan oedd ar gael iddynt. Hyd yma mae’r prosiect wedi gweld cynnydd mewn ymwybyddiaeth, gwell hygyrchedd, a pherthnasoedd cryfach yn cael eu meithrin gyda phobl greadigol a chymunedau Byddar, anabl a niwroddargyfeiriol.
Wrth ddechrau ar yr ail gyfnod, rydym yn chwilio am aelod newydd o’r tîm i ymuno ar y daith - person fydd yn gweithio gyda ni i gydlynu profiad carfan newydd o bobl greadigol, gan gysylltu a chynnal perthnasoedd rhwng ein holl partneriaid prosiect drwy gydol yr amserlen o 16 mis.
Beth yw pwrpas y Cydlynydd Prosiect?
Bydd y Cydlynydd Prosiect yn cydweithio'n agos gyda phartneriaid craidd BTB, i gydlynu gweithrediad y rhaglen Breaking the Box.
Bydd y Cydlynydd yn cynorthwyo'r recriwtio a'r gefnogaeth barhaus i ddwy rôl 'Gwneuthurwyr Newid': agwedd newydd ar Breaking The Box a fydd yn gosod dau o unigolyn Byddar, anabl neu niwroamrywiol (unigolion creadigol neu sydd â diddordeb mewn ymgysylltu â'r celfyddydau) yn fewnol yn ein canolfannau partner. Cyfrifoldebau yr unigolion yma fydd cynrychioli gwerthoedd ac uchelgeisiau BTB, meithrin perthnasoedd yn fewnol gyda'r staff a hefyd yn allanol gyda chymunedau a chynulleidfaoedd lleol.
Bydd y Cydlynydd Prosiect yn chwarae rhan allweddol yn y broses o recriwtio ac anwytho carfan newydd o Unigolion Creadigol Gyrfa Gynnar (UCGG), mewn cydweithrediad â'r 'Gwneuthurwyr Newid' yma fydd newydd gael eu penodi. Byddant yn cydlynu holl leoliadau a gweithdai'r UCGG yn ystod cyfnod y prosiect, gan weithredu fel pwynt cyswllt canolog yn ogystal â mentora a chefnogi'r UCGG.
Y Cydlynydd fydd y prif bwynt cyswllt hefyd rhwng y canolfannau, yr UCGG, a phartneriaid prosiect, yn sicrhau cyfathrebu a chydweithio effeithiol ymhlith yr holl randdeiliaid.

Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020
Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN
Cylchlythyr
Cyfrannwch arian
Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!

Members of:
