The partner venues for Breaking the Box: Ffwrnes Theatr, The Park and Dare & Pontio, the word Grow is written top right and colourful tittles (the dot of an i) are dotted around

Breaking the Box: Aelodau'r Consortiwm

Y Sefydliadau yng Nghonsortiwm Breaking the Box::
Theatr Taking Flight
Ein Gweledigaeth ni... yw byd y celfyddydau lle mae’r storïau a adroddir a’r lleisiau a glywir yn gwir adlewyrchu’r byd yr ydym yn byw ynddo; lle mae’r theatr a grewn ni’n deall cynulleidfaoedd o bob cefndir ac yn eu gwahodd i mewn yn groesawgar.
Ein Cenhadaeth... yw dinistrio’r rhwystrau sy’n cadw pobl rhag cymryd rhan yn y theatr, gan wthio’n ddibaid yn erbyn yr hyn sy’n eu hatal rhag bod yn greadigol. Ein nod yw hybu cynrychiolaeth pobl Fyddar, anabl a niwroamrywiol yn y theatr trwy lefelu’r llwyfan. Dymunwn newid tirwedd y celfyddydau yng Nghymru a’r tu draw trwy herio eraill i feddwl mewn ffyrdd mwy cynhwysol.

Yn Taking Flight rydym yn creu cynyrchiadau theatr beiddgar, anghyffredin gyda pherfformwyr Byddar, anabl, heb fod yn anabl a niwroamrywiol. Mae ein gwaith yn teithio ledled Cymru a thu hwnt ac rydym yn aml yn canfod ein hunain mewn mannau anghysbell yn ogystal â lleoliadau theatr draddodiadol.
Ochr yn ochr â’n gwaith teithio, rydym wrthi’n meithrin talent anabl y genhedlaeth nesaf, ar y llwyfan a’r tu ôl i’r llenni. Rydym wedi gwneud hyn trwy gynnal [cyrsiau hyfforddiant proffesiynol cynhwysol]a chynlluniau mentora ar gyfer pobl sy’n eu hystyried eu hunain yn Fyddar neu’n anabl, neu niwrowahanol, ac sy’n chwilio am y cam nesaf ymlaen at yrfa yn y theatr, neu a hoffai ddatblygu’r sgiliau sydd ganddynt a magu hyder.
Gyda dros ddeng mlynedd o brofiad, ni yw'r sefydliad y mae pawb yn troi ato yng Nghymru ar gyfer cyngor, gwybodaeth neu ysbrydoliaeth yng nghyswllt integreiddio mynediad a gweithio gyda chastiau cynhwysol. Rydyn ni wrth ein bodd yn rhannu popeth yr ydym wedi’i ddysgu am weithio’n gynhwysol, ac rydyn ni'n cynnal digwyddiadau rheolaidd gyda’r nod o ysbrydoli sefydliadau celfyddydol eraill i feddwl y tu hwnt i’r bocs o ran gweithio gydag artistiaid tangynrychioledig ac i archwilio ffyrdd newydd o greu a marchnata gwaith hygyrch..
Celfyddydau Anabledd Cymru (DAC)
Arweinir y sefydliad DAC gan bobl anabl ac mae'n canolbwyntio ar adlewyrchu profiad byw pobl anabl neu byddar. Drwy weithio yn unol â’r model cymdeithasol o anabledd, rydym yn cydnabod mai rhwystrau systemig, agweddau negyddol, ac eithrio cymdeithasol (yn fwriadol neu’n anymwybodol) yw’r prif ffactorau allweddol sy'n analluogi pobl.
Mae’r celfyddydau’n darparu llwyfan y gellir ei ddefnyddio i herio’r canfyddiadau negyddol cyffredin o bobl anabl, i amlygu anghydraddoldebau, a chefnogi dewisiadau cyfiawnder cymdeithasol amgen. Mae DAC yn defnyddio’r celfyddydau i addysgu, herio agweddau, a dileu rhwystrau sy’n cyfyngu ar ddewisiadau bywyd pobl anabl i fyw’n annibynnol ac yn gyfartal o fewn cymdeithas.
Felly, ystyrir bod holl waith DAC yn anelu at fod yn hygyrch ac mor ddi-rwystr â phosibl wrth gyflwyno ein gweithgareddau celfyddydol. Fel y cyfryw, byddwn yn cofleidio amrywiaeth, yn hyrwyddo a dathlu yn enwedig iaith a diwylliant Cymru.
Ein nod yw bod yn arloeswyr ar gyfer y genedl a cheisiwn fod yn esiampl loyw o arfer gorau yma yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.
 
Hynt   
Hynt yw’r cynllun mynediad cenedlaethol ar gyfer theatrau a chanolfannau celfyddydau yng Nghymru. Mae Hynt yn fenter Cyngor Celfyddydau Cymru, a reolir gan Greu Cymru mewn partneriaeth â Diverse Cymru. Mae Hynt yn gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydau yng Nghymru i wneud yn siŵr bod arlwy cyson ar gael i ymwelwyr Byddar, anabl a niwroddargyfeiriol, ymwelwyr â gofynion mynediad, ac i'w Gofalwyr a'u Cynorthwywyr Personol.
Bydd Gweinyddwr Prosiect Hynt yn rhan o'r prosiect. Bydd Hynt yn chwarae rhan yn y gwaith o gydlynu’r Diwrnod Rhannu Diwydiant a bydd Gweinyddwr y Prosiect yn rhannu’r hyn a ddysgir drwy rwydweithiau, cyfarfodydd a digwyddiadau Creu Cymru a Hynt. Bydd Hynt yn gweithio gyda'r canolfannau dan sylw i'w cefnogi yn y tymor hir. Mi fydd Gweinyddwr Prosiect Hynt hefyd yn gweithredu mewn rôl gefnogol i'r Cydlynydd Prosiect. 
 
Theatrau Sir Gâr / Carmarthenshire Theatres
Mae Theatrau Sir Gâr yn gyfuniad o dri lleoliad perfformio celfyddydau o fewn Sir Gaerfyrddin, Y Ffwrnes yn Llanelli, Y Lyric yng Nghaerfyrddin, a Theatr y Glowyr yn Rhydaman. Rheolir a gweithredir ein gwasanaeth yn gyfan gwbl gan Gyngor Sir Caerfyrddin, fel rhan o'r gwasanaeth Diwylliant a Hamdden yn isadran y Cymunedau.
Y Ffwrnes yw prif leoliad perfformio celfyddydau'r sir yng nghanol Llanelli ac fe’i hagorwyd yn 2013 gyda buddsoddiad o £15 miliwn. Mae’n un o theatrau mwyaf newydd a mwyaf modern Cymru, ac yn un o’r lleoliadau gorau yn y wlad o safbwynt offer technegol a'r mwyaf hygyrch hefyd. Mae gan y Lyric yng Nghaerfyrddin a'r Glowyr yn Rhydaman dreftadaeth a hanes cyfoethog, mae eu cymunedau yn eu gwerthfawrogi'n fawr, ac mae'r ddau yn darparu profiad theatr amrywiol. Gyda thair canolfan gelfyddydol wahanol iawn yn gwasanaethu tair prif dref y sir cynigir yr hyblygrwydd i gyflwyno rhaglen eang, amrywiol a hygyrch i’n cynulleidfaoedd.
 
Theatrau RhCT
Mae Theatrau RhCT yn ased diwylliannol gwerthfawr i Rondda Cynon Taf, ei thrigolion a'i hymwelwyr. Mae theatr eiconig a hanesyddol y Coliseum, Aberdâr a Theatr y Parc a’r Dâr, Treorci yn adeiladu ar eu rhaglen cyflwyno a chyfranogol cyffrous trwy gynhyrchu a chyd-gynhyrchu gydag artistiaid sy’n cyd-gordio â’n cymunedau.
Mae'r theatrau yn gwasanaethu poblogaeth o bron i ddau gant tri-deg-pump mil ac wedi'u lleoli yng nghanol trefi Aberdâr a Threorci. Mae’r ddau yn darparu cyfleuster proffesiynol ar gyfer cyflwyno, creu a chymryd rhan yn y celfyddydau, a defnyddir y ddau at y diben yma gan y gymuned leol a grwpiau amatur o bob oed.
 Trwy gyflwyno, cynhyrchu, cyfranogiad a phartneriaethau, mae gan Theatrau RhCT y dyhead o ennill clod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae ein ffordd o weithio gydag artistiaid a thrigolion yn ymwneud ag adeiladu ar enw da Theatrau RhCT fel asedau diwylliannol gwerthfawr, gan sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb ac yn creu gwaith gyda’u cymunedau ac ar eu cyfer.
Pontio
Canolfan gelfyddydol sy'n rhan o Brifysgol Bangor yw Pontio. Mae bellach wedi bod ar agor, fel canolfan gelfyddydol, ers pum mlynedd ac yn ystod y cyfnod yma rydym wedi cyflwyno arlwy amrywiol o gynnwys teithiol a chyd-gynhyrchiadau. Rydym wedi croesawu cynulleidfaoedd o bob oed a chefndir i lu o ddigwyddiadau a gweithgareddau celfyddydol. Yn ein dau ofod celf byw, y prif lwyfan, Theatr Bryn Terfel, sydd yn dal 500, a'r stiwdio, sydd yn dal 120, ac yna y sinema ar gyfer 220, rydym wedi cyflwyno theatr, dawns gyfoes, bale, syrcas, dawns awyr, opera, cerddoriaeth glasurol, cerddoriaeth gyfoes a phop, ffilm, a chelf weledol gan artistiaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol a sefydliadau creadigol.
Canolbwynt aml-gelfyddyd yw Celfyddydau Pontio, yn gyfuniad o bob ffurf ar gelfyddyd, yn llwyfannu’r gorau o Gymru, y DU yn ogystal ag arlwy diwylliannol ac artistig rhyngwladol. Mae’r arlwy amrywiol yma'n golygu ein bod yn cyrraedd demograffeg amryfal ac eang o’r gymuned ac er mwyn i ni gynnal, datblygu a thyfu’r ethos ymgysylltu a chynhwysol hwn, mae’n rhaid i ni barhau i herio ein hunain yn y ffyrdd yr ydym yn ei gyflawni.
Yn ogystal â hyn, mae Pontio yn gweithredu rhaglen gelfyddydau cyfranogol dwyieithog gweithredol a deinamig, BLAS, sydd wedi ymgysylltu ag ysgolion a grwpiau cymunedol yn yr ardal yn rheolaidd dros y pum mlynedd diwethaf.
Fel canolfan gelfyddydau Prifysgol, byddwn yn cymryd rhan arweiniol yn yr elfen dysgu a lleoli ac rydym yn angerddol am ddatblygu Pontio fel lleoliad hygyrch a chynhwysol ar gyfer cynulleidfaoedd, staff a pherfformwyr fel ei gilydd.
Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen 
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn 2015 fel sefydliad elusennol gydag amcanion i wella cyfleoedd diwylliannol ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’r rhanbarth ehangach.
Ein pwrpas yw Gwneud Bywydau Pobl yn Well trwy ddarparu gofod a chyfle i bobl fwynhau profiadau diwylliannol bywiog sy’n ysbrydoli ac yn gwella eu hymdeimlad o les.
Rydym yn gweithio ar y cyd ag eraill ar draws y sector breifat, y sector gyhoeddus a’r trydydd sector i gyflawni mwy o effaith gymdeithasol a budd i’n cwsmeriaid, staff a rhanddeiliaid. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 drwy ein cyfleusterau, ein gweithgareddau a’n rhaglenni.
We are committed to supporting the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 through our facilities, activities and programmes.
Rydym yn sefydliad ystwyth, gwydn a chadarn, gyda ffocws cryf ar wella profiadau a chanlyniadau i'n buddiolwyr.
 
 
Taking Flight Logo

Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020

Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:

Atrium
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN

Cylchlythyr

Cyfrannwch arian

Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!

The logos of the People's POstcode Lottery and Postcode Community Trust

Members of:

A selection of logos: WCVA, Tempo, Creu Cymru, TYA Cymru, Outdoor Arts UK, The Cardiff Committment and Passport to the City
Cymraeg
Skip to content