Dyblwch werth eich rhodd i Gwmni Theatr Taking Flight gydag ymgyrch Big Give Arts for Impact i godi £10,000 mewn dim ond 1 wythnos!
Bydd yr arian yma yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ein rhaglen allgymorth hygyrch ar gyfer You’ve Got Dragons/Mae Gen Ti Ddreigiau.
Mi fydd rhoddion i Taking Flight yn cael eu dyblu drwy haelioni'r Big Give Champions yn ystod yr ymgyrch Arts For Impact o'r 19eg i'r 26ain o Fawrth, ac yn felly'n dyblu'r effaith wrth gefnogi pobl ifanc byddar, anabl a'r rhai heb anabledd a’u teuluoedd i geisio datblygu strategaethau ar gyfer rheoli pryder.
Yr haf yma, mi fydd Taking Flight yn lansio cynhyrchiad newydd o mi fydd You’ve Got Dragons/Mae Gen Ti Ddreigiau wedi’i addasu gan enillydd medal Yoto Carnegie, Manon Steffan Ros, gyda thaith a fydd yn ymweld â lleoliadau ledled Cymru. Stori hyfryd am daith un plentyn yn ceisio dod i delerau â’i ddreigiau, wedi’i hadrodd yn arddull cynhwysol unigryw Taking Flight. Gyda cherddoriaeth fyw, wreiddiol, mi fydd y cynhyrchiad hynod weledol, sensitif yma yn archwiliad doniol a theimladwy o’r dreigiau sydd yn ein hwynebu i gyd. Gyda chapsiynau creadigol, IAP wedi’i gydblethu a disgrifiad sain, mi fydd You’ve Got Dragons/Mae Gen Ti Ddreigiau yn wledd i’r teulu cyfan.
Gydag ymgyrch Big Give Arts for Impact, mae’r rhai sy’n codi arian yn Taking Flight yn gobeithio y bydd y cynhyrchiad arbennig yma yn cael hyd yn oed fwy o effaith diolch i weithdai cwbl gynhwysol Dofi'r Dreigiau, sydd wedi eu cynllunio i helpu teuluoedd i frwydro yn erbyn effeithiau gwanychol pryder.
Dywedodd Louise Ralph, cyfarwyddwr gweithredol Taking Flight:
“Mae tystiolaeth gan arbenigwyr iechyd meddwl yn dangos bod nifer cynyddol o bobl ifanc yn dioddef anawsterau gyda iechyd meddwl. Mae Mae Gen Ti Ddreigiau wedi’i addasu o lyfr hyfryd gan Kathryn Cave a Nick Maland sy’n helpu pobl ifanc i wynebu eu pryderon a’u hofnau. Mi fydd yr arian a godir yn y Big Give yn ein helpu i gyflwyno rhaglen weithdy rhad ac am ddim, gwbl hygyrch, i gyd-fynd â’r daith, fydd yn golygu y gall pobl ifanc sydd wedi gwylio’r sioe dreulio amser wedyn yn datblygu yn greadigol eu strategaethau ymdopi eu hunain ar gyfer adegau pan fydd eu pryderon yn teimlo yn ormod”.
Yn ogystal â'u cynyrchiadau teithiol a'u gwaith ymgynghorol ar fynediad, mae Taking Flight hefyd yn rhedeg yr unig theatr ieuenctid ar gyfer pobl ifanc byddar a thrwm eu clyw yng Nghymru. Gyda rhwystrau iaith a mynediad ychwanegol, mae 57% o bobl ifanc byddar yn debygol o ddioddef gydag anawsterau iechyd meddwl. Mae Swyddog Cyfranogiad, Mynediad a Chynhwysiant Taking Flight, Steph Bailey-Scott, sy'n fyddar ac yn anabl, ac sy'n rhedeg Theatr Ieuenctid Taking Flight, yn esbonio:
““Yn aml mae cymdeithas yn canolbwyntio ar y pethau NA ALL pobl fyddar ac anabl eu gwneud. Mae yna ddiffyg modelau rôl cadarnhaol, gweladwy, byddar ac anabl a thrwy'r theatr ieuenctid rydym wedi gweld bod unigedd a diffyg hunanwerth ymhlith plant byddar yn endemig. Mae theatr deuluol hygyrch yn brin, efallai un perfformiad hygyrch fesul rhediad, ac mae hyn yn cyfyngu cyfleoedd teuluoedd i fwynhau theatr gyda’i gilydd. Mae You've Got Dragons/Mae Gen Ti Ddreigiau a'n gweithdai Dofi'r Dreigiau i gyd yn cynnwys mynediad. Mae croeso i bawb, ac mae pawb yn elwa o ddatblygu geirfa i'w galluogi i drafod iechyd meddwl gyda phlant ifanc, ynghyd ag offer i reoli dreigiau, yn ogystal â gweld modelau rôl byddar ac anabl cadarnhaol. Mae'r gweithdai yma yn helpu brwydro yn erbyn pryder yn fawr. Bydd y cyllid hefyd yn ein galluogi i gynnal ymweliadau i ymarferion a theithiau cyffwrdd, gan leihau'r rhwystrau i gynulleidfaoedd, a hefyd cynnal perfformiadau hamddenol ynghyd â mannau ymlacio i leddfu pryder i gynulleidfaoedd niwroddargyfeiriol o bob oed. Gyda IAP integredig, capsiynau creadigol a cherddoriaeth fyw, mae Mae Gen Ti Ddreigiau yn gwneud siarad am ein teimladau yn ddiogel ac yn dderbyniol.”
Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Artistig, Elise Davison:“Mae Taking Flight yn ymfalchïo mewn creu theatr feiddgar, gynhwysol sy’n chwalu rhwystrau. Rydym yn angerddol am greu theatr hygyrch, ysbrydoledig, sy'n hwyluso trafodaeth ac yn lleihau stigma ynghylch iechyd meddwl plant i bobl ifanc o bob cefndir. Mi fydd gweithdai Dofi'r Dreigiau yn cael eu cynnal ym mhob lleoliad ar daith, ac mewn ysgolion – ymwybyddiaeth ofalgar yn seiliedig ar y celfyddydau yn cyrraedd tua 1,500
o bobl ifanc a'u teuluoedd, gan ei gwneud yn iawn i beidio â bod yn iawn. Mae’n hanfodol i ni fod You've Got Dragons/Mae Gen Ti Ddreigiau yn cynyddu amlygrwydd pobl greadigol byddar ac anabl yn gweithio ar y llwyfan a thu cefn i'r llwyfan hefyd, yn cyflwyno modelau rôl positif ac yn cynyddu dyhead yn y bobl ifanc, ac ymdeimlad o’r hyn sy’n bosibl. Os nad ydych chi'n gallu ei weld, yna dych chi ddim yn gallu ei wneud, ac mae llawer gormod o bobl ifanc sydd byth yn gweld eu hunain yn cael eu cynrychioli yn y cyfryngau neu mewn rolau llwyddiannus. Eleni rydym yn gobeithio codi cyfanswm o £10,000. Er mwyn ennill y £5000 sydd gennym yng nghronfa gyfatebol Big Give, mae angen i ni godi £5000 mewn rhoddion ar-lein. Gobeithio y bydd pawb yn rhoi’n hael eleni i’n helpu i gyrraedd ein targed a’n galluogi i barhau â’r gwaith yr ydym i gyd yn teimlo mor angerddol yn ei gylch”.
Sut i chwarae rhan ?
- ● Ewch i BigGive.org a gwnewch gyfraniad o ganol dydd, dydd Mawrth 19eg o Fawrth. Bydd yr ymgyrch yn cau am hanner dydd ar y 26ain o Fawrth.
- ● Gosodwch nodyn atgoffa add the campaign page to it ac ychwanegwch dudalen yr ymgyrch
Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020
Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN
Members of:
Cylchlythyr
Cyfrannwch arian
Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!