You've Got Dragons/Mae Gen Ti Ddreigiau
Gan Kathryn Cave & Nick Maland
Addasiad Gan Manon Steffan Ros
Cydgynhyrchiad Cwmni Theatr Taking Flight/Pontio
“Mae dreigiau’n dod yn union pan nad wyt ti’n eu disgwyl. Rwyt ti’n troi rownd, a dyna nhw.”
Mae llawer o bobl yn eu cael: breuddwydion cas, bola’n chwyrlio, teimlo’n bigog. A weithiau maen nhw’n gwneud iti deimlo’n unig. Beth all plentyn sy’n cael pwl cas o ddreigiau ei wneud felly?
Chwedl hyfryd am daith plentyn at ddygymod â’i ddreigiau, a adroddir yn null unigryw Taking Flight. Mae’r cynhyrchiad sensitif, gweledol wych hwn, gyda’i fiwsig byw gwreiddiol, yn archwilio mewn modd doniol a gwefreiddiol y dreigiau a wynebwn ni i gyd.
Yn cynnwys capsiynau creadigol, BSL a disgrifiadau sain wedi’u cydblethu; mae You’ve Got Dragons yn brofiad braf i’r teulu i gyd. A chofiwch… “Nid oes draig yn y byd sy’n fwy grymus na TI!”
Cyfarwyddwraig: Elise Davison
Dylunio Setiau a Gwisgoedd: Ruth Stringer
Dylunio Goleuadau: Garrin Clarke
Cyfansoddwr a Dylunio Sain: Dan Lawrence
Gyda diolch i gefnogaeth gan:
22 & 25-27 Mehefin Pontio, Bangor
2-5 Gorffennaf Neuadd y Gweithwyr Blaengarw
9-13 Gorffennaf Ffwrnes, Llanelli
16-20 Gorffennaf Chapter, Caerdydd
24-27 Gorffennaf Glan Yr Afon Casnewydd
Cysylltwch â theatrau am amserlen ac opsiynau iaith
Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020
Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN
Members of:
Cylchlythyr
Cyfrannwch arian
Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!