Partneriaeth newydd i wella hygyrchedd i'r Eisteddfod yr Urdd
Yn sgil partneriaeth newydd gyda Taking Flight a Disability Arts Cymru, mae’r Urdd am wella hygyrchedd a mynediad at ddigwyddiadau celfyddydol y Mudiad, gan gynnwys maes Eisteddfod yr Urdd – gŵyl sy’n denu 76,000 o gystadleuwyr yn flynyddol.
O ganlyniad, mae’r Urdd yn chwilio am aelodau ar gyfer Fforwm Hygyrchedd newydd, drwy gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. Y gobaith yw denu unigolion 16-25 oed fyddai’n medru rhannu profiadau neu arbenigedd yn y maes anableddau a hygyrchedd i’r celfyddydau, i gydweithio â Threfnwyr Eisteddfod yr Urdd, cael profiad gwaith mewn trefnu digwyddiadau, a sicrhau bod maes a gweithgareddau’r ŵyl yn hygyrch a chynhwysol, ac yn adlewyrchu’r strategaeth ‘Urdd i Bawb’.
Fel man dechrau i’r bartneriaeth, derbyniodd staff adran Eisteddfod yr Urdd hyfforddiant mynediad a chynhwysiant anabledd gyda DAC, a byddant yn derbyn hyfforddiant BSL a chynhwysiant gan Taking Flight. Mewn cydweithrediad â'r partneriaid, bydd yr Urdd yn creu adnoddau a phecynnau gwybodaeth ar gyfer ymwelwyr dall a B/byddar. Bydd yr ŵyl hefyd yn gweithio’n agos gyda ‘Attitude is Everything’, sefydliad sy’n helpu gwella’r mynediad sydd gan bobl anabl i ddigwyddiadau cerddoriaeth byw.
Am y cyhoeddiad llawn, ewch i'r wefan yr Urdd.
Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020
Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN
Members of:
Cylchlythyr
Cyfrannwch arian
Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!