Hyfforddiant ar gyfer Galluogwyr Creadigol
Mae Taking Flight a Hijinx yn gweithio ar y cyd at ddarparu hyfforddiant ar gyfer Galluogwyr Creadigol yng Nghaerdydd o 26ainth Chwefror ymlaen.
Mae’r cysyniad o ‘Galluogwyr Creadigol’ yn deillio o waith Graeae Theatre Companyac mae’n cyfeirio at rywun sy’n galluogi artistiaid Byddar/Dall/anabl neu niwroamrywiol i gyflawni eu hymarfer creadigol, yn hytrach na darparu’r gofal personol neu’r tasgiau gweinyddol sylfaenol a hyrwyddir gan gynlluniau megis Mynediad i Waith. Mae Galluogydd Creadigol yn helpu i lenwi bylchau mewn darpariaeth ac yn mynd i’r afael ag unrhyw anghydraddoldebau y gall artistiaid Byddar/Dall/anabl neu niwroamrywiol eu dioddef tra’n gweithio. Diolch i waith y Galluogydd Creadigol, gall artistiaid gynnal eu hannibyniaeth a theimlo eu bod yn llwyddo i fodloni eu hanghenion trwy gydol y broses rihyrsio a chynhyrchu.
Mae’r hyfforddiant yn cynnwys ein hyfforddiant dwys mewn ymwybyddiaeth o Fyddardod, Dallineb ac anabledd.
Cyfle hyfforddi â thâl yw hwn, ac mae nifer y llefydd felly yn gyfyngedig iawn.
Fe gynhelir yr hyfforddiant yng nghanol Caerdydd o 26ain Chwefror tan y 1af o Fawrth, ac mae’n rhaid ichi fod ar gael i gymryd rhan ym mhob un o’r pum niwrnod o hyfforddiant.
I geisio amdano, anfonwch eich CV ynghyd â nodyn eglurhaol, neu fideo byr neu recordiad llais at admin@takingflighttheatre.co.uk erbyn y 9fed o Chwefror.
Bydd y broses ddethol yn digwydd mewn sesiwn weithdy a gynhelir yng Nghaerdydd ar yr 15eg o Chwefror. (Sylwch ar y newid dyddiad)
Os oes gennych chi gwestiynau ynghylch yr hyforddiant neu unrhyw gwestiynau ynghylch mynediad at y safle, cysylltwch â ni heb betruso.
Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020
Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN
Members of:
Cylchlythyr
Cyfrannwch arian
Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!