Ydych chi’n hapus ac ‘wedi ymlacio’ ynglŷn â pherfformiadau ‘ymlaciedig’. Ydych chi’n ‘effro’ i’r gwahaniaeth rhwng gofod di-stŵr a Sonic Story?
Croeso i 5ed Symposiwm Taking Flight ar destun Rhwyddfynediad, wedi’i letya gan Theatrau RhCT a’i drefnu ar y cyd â chynllun hynt. Fe’i cyllidir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Bydd y symposiwm yma’n archwilio pob elfen o sut i greu’r croeso cynhesaf posibl i bawb – ac yn enwedig i’r bobl hynny sy’n gweld moesau ac arferion traddodiadol y theatr fel rhwystr. Yn y bore fe fydd Jess Thom (Touretteshero) yn cyflwyno 'A Warmer Welcome - Relaxed performances from Start to Finish' ar destun damcaniaeth ac ymarfer perfformiadau ymlaciedig. Yn y prynhawn fe fydd Rheolwr Rhwyddfynediad Derby Theatre Andrew Tinley yn cyflwyno sgwrs ar 'The Barrier isn't Access'- archwiliad o’r mesurau syml ond effeithiol hynny a all helpu theatrau a chanolfannau eraill i ymgysylltu mewn modd mwy ymlaciedig ag artistiaid, pobl ifanc, aelodau staff a chynulleidfaoedd. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn dysgu am ffyrdd arferol o wneud newidiadau yn eu sefydliad neu eu harferion artistig.
Dyma ddigwyddiad sy’n mynd ymlaen trwy’r dydd. Darperir te a choffi.
Ble? THEATR PARC A DÂR, Treorci, CF42 6NL
Pryd: Gwener 28ain Chwefror 2020
Symposiwm 2020
Ble: Park and Dare Theatre, Treorci, CF42 6NL
Pryd: Gwener 28ain Chwefror 2020
Archebwch NawrTheatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020
Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN
Members of:
Cylchlythyr
Cyfrannwch arian
Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!