Crynodeb Symposiwm

Croeso Cynnes (a Gwlyb) yn Nhreorci

Un diwrnod gwlyb iawn ym mis Chwefror (cewch glywed rhagor am hyn yn y man), ymgynullodd cynrychiolwyr o bob cwr o Gymru a’r tu draw yn y stiwdio hygyrch newydd ei weddnewid yn Theatr Parc a Dâr yn Nhreorci.

Llety-wyd 5ed Symposium Taking Flight ar destun Rhwyddfynediad gan Theatrau RhCT, mewn cydweithrediad â chynllun mynediad hynt. Cafodd ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’i gefnogi’n hael gan gwmni Dearborn Consulting Cyf.

Archwiliodd y symposiwm bob elfen o sut i greu’r croeso cynhesaf posibl i bawb – ac yn enwedig i’r bobl hynny sy’n gweld moesau ac arferion traddodiadol y theatr fel rhwystr. 

Yn y bore cyflwynodd Jess Thom a Matthew Pountney o Tourettesherowww.touretteshero.com) ‘A Warmer Welcome – Relaxed performances from Start to Finish’ ar destun damcaniaeth ac ymarfer perfformiadau ymlaciedig. 

Os gwnewch chi gelfyddyd yn gynhwysol, byddwch yn ei gwneud yn well. Fe fydd y storïau a adroddwn ni’n ehangach, yn fwy cynnil a diddorol, ac yn fwy tebygol o ddenu pobl anabl i mewn fel cynulleidfa.”.

Rhoddodd Jess a Matthew gyflwyniad trylwyr a chynhwysfawr inni ynghylch yr addasiadau y gall canolfannau a chynhyrchwyr eu gwneud i droi ein theatrau’n fannau gwir groesawgar i bawb. Aethant ati i egluro mai proses yw rhwyddfynediad, nid rhywbeth sy’n digwydd unwaith unwaith ac am byth. Cyn cloi awgrymasant 3 ymrwymiad y gallen ni’r cynrychiolwyr eu gwneud gyda golwg ar gyflawni newidiadau sylfaenol yn ein sefydliadau:

  1. Peidiwch â chreu rhwystrau newydd.
  2. Sicrhewch gydraddoldeb profiadau – rhowch amser, ystyriaeth ac egni creadigol i’r ffyrdd gwahanol y gallai gwahanol bobl brofi ac amgyffred eich canolfan/eich gwaith.
  3. Lleihewch y ffws a’r ffwdan, gan gydnabod faint o niwed y gall rhwystrau systemig ei gael ar lesiant unigolion a’r gymuned.

Ar ôl cinio, clywodd y cynrychiolwyr Andrew Tinley, Rheolwr Gweithrediadau a Rhwyddfynediad Derby Theatre (www.derbytheatre.co.uk). ). Ei destun oedd ‘The Barrier isn’t Access’- archwiliad o’r mesurau syml ond effeithiol hynny a all helpu theatrau a chanolfannau eraill i ymgysylltu mewn modd mwy ymlaciedig ag artistiaid, pobl ifanc, aelodau staff a chynulleidfaoedd. Arweiniodd Andrew sesiwn ryngweithiol, gan herio’r cynrychiolwyr i ystyried pa fesurau yr oedd eu sefydliadau’n eu cymryd yn barod at ehangu mynediad a meddwl am ffyrdd y gallent wella’r rhain ac adeiladu ar eu sail.

Roeddem i fod i ymgymryd â hyfforddiant Cyfeillion Dementia gydag Andrew yn ystod rhan olaf ei sesiwn, ond daeth pethau i ben yn sydyn oherwydd y glaw. Rhoddwyd terfyn dramatig o gynnar ar y sesiwn wrth i rybuddion gael eu cyhoeddi am lifogydd tra bod newyddion yn ein cyrraedd am y tebygrwydd y byddai ffyrdd yn cael eu cau! Ond cadwch lygad ar y dudalen yma i weld sut i weld sesiwn hyfforddiant Andrew ar-lein.

“Taking Flight created a supportive and welcoming environment from start to finish, embedding care and consideration into every section of the day. The speakers from Tourette’s Hero brought incredible expertise to the room and facilitated in depth and considered discussion. In the afternoon there was space and time to think about realistic actions for each of our organisations or contexts that we could put into place, spending time in groups discussing how to overcome barriers to each of our aspirations. In every way, this event exemplified excellent practice and had a profoundly positive impact on how I think about programming. I learnt so much that I will be able to take back to my organisation and managed to meet colleagues and start relationships that will continue to inform my practice. I would make it a priority to attend Taking Flight’s future programmes like this one and would encourage supporters to continue their investment as a way of creating and sharing learning across the Welsh arts community.”
Taking Flight Logo

Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020

Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:

Atrium
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN

Members of:

A selection of logos: WCVA, Tempo, Creu Cymru, TYA Cymru, Outdoor Arts UK, The Cardiff Committment and Passport to the City

Cylchlythyr

Cyfrannwch arian

Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!

Cymraeg
Skip to content