peeling

peeling

gan Kaite O'Reilly

Yn y cysgodion, mae 3 perfformwraig yn aros i gael eu moment yn llygad y cyhoedd.

Mae Alfa, Beaty a Coral yn aros… yn aros, ac yn y cyfamser mae pethau’n dal i ddigwydd... rhywle arall.

Yn ddigrif tu hwnt weithiau, yn annioddefol boenus ar adegau; mae peeling yn mynd â ni y tu ôl i’r llenni i fyd llawn cyfrinachau, byd llawn storïau am famau a’u plant, byd lle mae’r menywod ffyrnig, deallus, galluog hyn yn y dawnsgor bob amser, byth yn cymryd y rhannau arweiniol.

Yn dilyn taith o gwmpas Cymru a gafodd glod eiddig gan yr arolygwyr, mae peeling yn eich herio i wynebu profiad y theatr o’r newydd. Storïau pwy dylem eu hadrodd? A phwy fydd yno i ddwyn tysiolaeth?

Gyda chydblethiad o BSL, disgrifiad sain byw a chapsiynau. Mae’n cyflwyno themâu sy’n addas i oedolion.

“Mae’n ffyrnig o glyfar a digyfaddawd” The Guardian
4/5
“Hynod farddonol… ffraethineb bras, chwerw” The Stage
4/5

“Calonogol, digrif, emosiynol” Entertainment South Wales

Teithiod peeling i : Arlington Arts, Theater Festival Grenzenlos Kulture, Yr Almaen, Theatr Hertford, Malvern Cube, Theatr y New Wolsey, Wolverhampton, Y Neuadd Les, Ystradgynlais, Theatr y Courtyard, Henffordd, Theatr Bedales, Jackson’s.

Cyllidwyd gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, Cyngor Celfyddydau Cymru, Tŷ Cerdd a Sefydliad Birkdale.

Taking Flight Logo

Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020

Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:

Atrium
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN

Cylchlythyr

Cyfrannwch arian

Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!

The logos of the People's POstcode Lottery and Postcode Community Trust

Members of:

A selection of logos: WCVA, Tempo, Creu Cymru, TYA Cymru, Outdoor Arts UK, The Cardiff Committment and Passport to the City
Cymraeg
Skip to content