You've Got Dragons
You've Got Dragons, seiliedig ar y llyfr gan Kathryn Cave
“Mae dreigiau’n dod yn union pan nad wyt ti’n eu disgwyl. Rwyt ti’n troi rownd, a dyna nhw.”
Mae llawer o bobl yn eu cael: breuddwydion cas, bola’n chwyrlio, teimlo’n bigog. A weithiau maen nhw’n gwneud iti deimlo’n unig. Beth all plentyn ifanc sy’n cael pwl cas o ddreigiau ei wneud felly?
Chwedl hyfryd am daith plentyn at ddygymod â’i ddreigiau, a adroddir yn null unigryw Taking Flight. Mae’r cynhyrchiad sensitif, gweledol wych hwn, gyda’i fiwsig byw gwreiddiol, yn archwilio mewn modd doniol a gwefreiddiol y dreigiau a wynebwn ni i gyd.
Sioe i bob cenhedlaeth, yn cynnwys capsiynau creadigol, BSL a disgrifiadau sain wedi’u cydblethu; mae You’ve Got Dragons yn brofiad braf i’r teulu i gyd. A chofiwch… “Nid oes draig yn y byd sy’n fwy grymus na TI!”
Teithiodd You’ve Got Dragons i: Ganolfan Mileniwm Cymru, Theatr Derby, Canolfan Celfyddydau Cranleigh, y Depo Celfyddydau, Lyric Hammersmith, Canolfan Celfyddydau Ropetackle, Theatr Pegasus, Farnham Maltings, Guildhall Studio Portsmouth, The Curve Slough, Neuadd y Gweithwyr Blaengarw, Canolfan Alexander Faversham, Salisbury Playhouse.


Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020
Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN
Cylchlythyr
Cyfrannwch arian
Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!

Members of:
