Yr Weinyddiaeth Wrth-Hwyl

Yr Weinyddiaeth Wrth-Hwyl

darn crwydrol ar gyfer gwyliau celf a digwyddiadau

A oes tebygrwydd y bydd eich gŵyl neu’ch digwyddiad chi’n ormod o hwyl?

Gadewch i Weinyddiaeth Wrth-Hwyl Taking Flight sicrhau na fydd yr hwyl a’r sbri’n codi’n uwch na’r lefelau a gymeradwyir gan y rheolaeth.

Fe fydd y Dirprwy Weinidog a’r Is-Ddirprwy Weinidog yn patrolio’ch digwyddiad chi ar amserau penodedig gan olrhain achosion o rialtwch gormodol a difa difyrrwch dan ei holl ffurfiau. Fe ddefnyddir Cyfarpar a Gymeradwyir gan yr Weinyddiaeth i fesur hapusrwydd a gwiriondeb. Fe gyflwynir i bob unigolyn tramgwyddus Hysbysiad Rhybuddiol, er sicrhau cydymffurfiant â’r Ddeddfwriaeth Wrth-Hwyl. Ni oddefir hwyl o unrhyw fath, gan gynnwys unrhyw is-gategori o ysmaldod ysgafn.

NI FYDD y darn crwydrol hwn, ar gyfer gwyliau a digwyddiadau, yn ddigrif. NI CHANIATEIR mwynhad o unrhyw fath yn ystod y perfformiad.

Perfformiwyd Yr Weinyddiaeth Wrth-Hwyl yn: The Big Splash. Anti Fun Ministry was performed at: The Big Splash

Gwybodaeth i Hyrwyddwyr Yma elise@takingflighttheatre.co.uk 

Junior members of the Anti Fun ministry out and about in Newport, wearing regulation brown and blue coats, carrying clipboards
Taking Flight Logo

Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020

Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:

Atrium
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN

Members of:

A selection of logos: WCVA, Tempo, Creu Cymru, TYA Cymru, Outdoor Arts UK, The Cardiff Committment and Passport to the City

Cylchlythyr

Cyfrannwch arian

Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!

Cymraeg
Skip to content