Twitsh, Glitsh a Fflap
Tri adarwr. Tair ffordd wahanol o fynd ati.
Un gorchwyl amhosib : gweld yr aderyn prinnaf.
Ymunwch â'r adarwr traddodiadol a diysgog Fflap, y newydd-ddyfodiad di-glem Twitsh, a'r arbenigwr ar dechnoleg a chybolwr rhith realiti (VR) Glitsh, wrth iddynt ymddangos yn crwydro drwy wyliau a digwyddiadau ar helfa adar fwyaf yr Haf. Ymunwch yn yr hwyl, y clownio, a digon o annibendod hefyd yn y cynhyrchiad dieiriau hygyrch yma, sydd yn fwrlwm o chwerthin, syndod a rhyfeddod.
Mae Twitsh, Glitsh a Fflap yn gynhyrchiad awyr agored ddoniol, ddieiriau sy'n cyfuno comedi corfforol, clownio, a rhyngweithio gyda'r gynulleidfa. Bydd y perfformiadau cyntaf yng Ngŵyl Fwyd Sain Ffagan ar 13eg a 14eg o Fedi 2025, ac mi fydd wedyn ar gael i ymweld â gwyliau a digwyddiadau drwy gydol 2026.

Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020
Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN
Cylchlythyr
Cyfrannwch arian
Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!

Members of:
