A digital space on Mozilla Hubs populated with artwork for the First Three Drops, the show plays on the back wall whilst avatars look on

Clwstwr: Uno theatr gorfforol a digidol i wella hygyrchedd

Elise Davison yn siarad â Kayleigh McLeod am ein prosiect Clwstwr ni.

Gwrthodir mynediad i'r celfyddydau i lawer o aelodau posibl o'r gynulleidfa.

O'n gwaith a'n hymchwil, rydym yn gwybod bod yna lawer o bethau a allai atal rhywun rhag mwynhau theatr. Er enghraifft: gall rhwystrau corfforol gyfyngu ar bobl rhag gallu mynd i mewn neu o gwmpas man; gall agweddau pobl eraill wneud i bobl deimlo'n ddigroeso; gall synau uchel neu dyrfaoedd achosi teimladau o gael eich gorlethu; efallai na fydd dehongliad BSL, sgrindeitlau neu ddisgrifiad sain i’r perfformiad; efallai na fydd y wefan neu'r marchnata mewn fformat hygyrch; efallai na fydd amseroedd sioeau yn cyd-fynd â chyfrifoldebau gofalu … mae'r rhestr yn mynd ymlaen. Er y gellir dileu nifer o'r rhwystrau hyn trwy hyfforddiant ac addasiadau ffisegol, i rai pobl nid yw ymweliad corfforol â'r theatr yn opsiwn.

Rydym yn canolbwyntio ar aelodau byddar ac anabl o'r gynulleidfa sydd wedi cael eu siomi gan anhygyrchedd.

Ar gyfer ein sioeau, rydym yn ceisio gwneud popeth mor hygyrch ag y gallwn. Rydym hefyd yn sicrhau ein bod ar gael i sgwrsio â phobl ynghylch sut y gallant wneud pethau tebyg. Popeth rydym yn ei wybod, rydym wedi'i ddysgu gan y bobl greadigol fyddar ac anabl rydym wedi gweithio gyda nhw. Mae mwy i'w ddysgu bob amser.

Cyn Clwstwr, gwnaethom ymchwil a datblygu i greu theatr amlsynhwyraidd sy'n gweithio ar sawl lefel.

Roeddem am ddod o hyd i ffordd o gynnal sioeau i gynulleidfaoedd ag anableddau dysgu dwys a lluosog a'u teuluoedd eu mwynhau gyda'i gilydd. Gwnaethom edrych ar greu darn amlsynhwyraidd o theatr yr oedd modd ei gyrchu ar nifer o wahanol lefelau. Fe wnaethom ystyried cael naws debyg i gêm i'w gwneud hi'n ddigon heriol i rai aelodau o'r teulu, wrth barhau i fod yn hygyrch i bawb. Cofiwch nad ydw i'n arbenigwr digidol, felly mae'n debyg y byddai'r gemau'n gemau pêl corfforol neu debyg! Yn anffodus, ni allem ei ariannu.

Fe wnaeth Clwstwr fy ysbrydoli i ystyried gwneud rhywbeth digidol gyda'n syniadau am y tro cyntaf.

Gwnaeth y cyfyngiadau symud i ni sylweddoli ein bod ni i gyd bellach yn cyrchu pethau mewn maes digidol ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau celf o'n cartrefi ein hunain. Pan welais y cyfle i gael cyllid a chefnogaeth Clwstwr, gwnaeth i mi feddwl efallai bod ffordd i greu ein darn o theatr ar blatfform digidol – efallai gan ddefnyddio realiti rhithwir, technoleg gemau, neu rywbeth arall efallai.

Gallai'r holl bethau roeddem yn ceisio eu cyflawni yn y darn theatr ffisegol hwn yr oeddem wedi bod yn gobeithio ei wneud fodoli naill ai ar blatfform digidol yn unig neu fel hybrid o ffurfiau digidol a ffisegol. Byddai'n golygu y gallai rhai o'r bobl na allent gael mynediad i fannau theatr ffisegol gael mynediad at fannau theatr digidol o'u cartref eu hunain.

Tua adeg y cais, roeddem yn ymwneud â hygyrchedd yng Ngŵyl Neverthere.

Wedi'i rhoi at ei gilydd gan Barra Collins, roedd hi'n ŵyl a gynhaliwyd ar blatfformau digidol, gan gynnwys Mozilla Hubs. Gwelais gymaint o bosibiliadau nad oeddwn erioed wedi meddwl amdanynt. Fe wnaeth dynhau ein cais; gydag amser i ymchwilio, gweld beth sydd ar gael a chwarae gyda thechnoleg – heb orfod creu cynnyrch terfynol o reidrwydd – gallem ddod o hyd i ffordd o ddarparu profiad digidol, naill ai ar blatfform digidol yn unig neu mewn cydweithrediad ag ymgnawdoliad ffisegol, a fyddai’n golygu y gallai pobl fwynhau'r celfyddydau yn y ffordd maent eisiau eu mwynhau.

Dechreuodd ein taith Clwstwr yn haf 2020, ond nid oeddwn yn siŵr ble i ddechrau!

Gadewais ein cyfarfodydd Clwstwr cyntaf yn teimlo fel bod llawer o gyfeiriadau posibl i fynd atynt. Doedd gen i ddim syniad pendant o'r hyn rydym yn mynd i'w wneud, ond roeddwn yn gwybod bod yna lawer o bethau roeddwn eisiau eu darganfod er mwyn gwneud rhywbeth. Sylweddolais yn gyflym fod realiti rhithwir yn costio llawer i'w wneud, a wthiodd fi i ystyried yr hyn a allai fod yn bosibl gyda'r cyllidebau bach mewn tirlun theatr. Yn hytrach na fynd ati’n syth i greu rhywbeth, roeddwn eisiau defnyddio’r arian sbarduno i ddysgu cymaint â phosibl am yr opsiynau sydd ar gael trwy siarad ag arbenigwyr yn y diwydiant.

Cawsom gymaint o arweiniad a dealltwriaeth o siarad ag arbenigwyr yn y diwydiant.

Fe wnaethom siarad â rhai pobl roeddem yn eu hadnabod, yna fe wnaeth Clwstwr ein cysylltu â phobl nad oeddem yn eu hadnabod. Roedd yn gymysgedd o ymarferwyr theatr, technegwyr, pobl a oedd yn gweithio mewn technolegau ymgolli ac arbenigwyr mynediad. Fe wnaeth Paul Long, sy'n gweithio ym maes realiti rhithwir a thechnolegau ymgolli, ein helpu i ystyried sut y gallem wireddu llyfr – Elen's Island gan Eloise Williams – fel profiad realiti rhithwir. Fe wnaethom feddwl am sut y gallai'r gynulleidfa ddewis eu hantur eu hunain, o bosibl neidio i mewn ac allan o fap, a sut y gallem greu'r fath fyd.

Gwnaethom siarad â James Simpson, sy'n rhedeg y cwmni technolegau creadigol Copper Candle ac sy’n bennaeth y Ganolfan Cynhyrchu Digidol yng Ngholeg Rose Bruford. Mae'n arbenigo mewn technoleg ymgolli, yn enwedig gyda ffocws ar berfformiad theatr a digwyddiadau byw, felly aethom i weminar gydag ef cyn siarad am yr hyn yr oedd yn meddwl oedd yn bosibl.

Gwnaethom hefyd siarad â phobl sydd â phrofiad arall yn y maes perfformio digidol, fel yr artist fideo John Collingswood. Mae'n gweithio i gwmni sydd wedi bod yn integreiddio dawns fyw i berfformiadau sydd wedyn yn cael eu ffrydio i theatrau. Rhoddodd Nick Llewellyn yn Access All Areas, a oedd wedi gwneud perfformiad realiti rhithwir yn Llundain, gipolwg inni ar y rhan y gall mynediad ei chwarae, yn enwedig o safbwynt cyfarwyddwr theatr.

Ar ôl ein sgyrsiau, gwnaethom geisio edrych ar ddefnyddio meddalwedd ffynhonnell agored yn hytrach na realiti rhithwir.

Cymerasom gyngor James yn Copper Candle; awgrymodd y dylem edrych ar ffynhonnell agored gan y gallai arbed arian inni ar yr adeiladu y gallem wedyn ei fuddsoddi mewn archwilio. Fe wnaethom ail-ymgyfarwyddo â Mozilla Hubs, gan ddarganfod sut y gallem adeiladu set theatr yn ddigidol, gweithredu dyluniad goleuo, dod ag actorion i mewn, ychwanegu traciau sain, defnyddio disgrifiad sain a dehonglwyr BSL heb oediad, a rheoli'r gynulleidfa i roi'r profiad gorau iddynt.

Penllanw ein prosiect oedd creu sioe theatr a chanolfan gelf ddigidol.

Gwnaethom wahodd pobl i fewngofnodi i'n perfformiad promenâd mewn set ddigidol yr oeddem wedi'i hadeiladu, ei goleuo a rhoi effeithiau sain iddi. Ochr yn ochr, roedd gennym ganolfan gelf rithwir gyda sioe wedi'i ffrydio'n fyw a gweithgareddau deilliedig (y gwnaethom eu paru â gweithgareddau all-lein yr oeddem wedi'u hanfon at bobl). Gallai aelodau o'r gynulleidfa binio dehonglwyr i'w rhithffurfiau fel y byddent bob amser yn gallu cael mynediad at yr hyn oedd yn digwydd.

Er mwyn archwilio'r syniad o gael taith cyffwrdd corfforol ochr yn ochr â'r perfformiad, gwnaethom anfon bwrdd cyffyrddol at Tafsila Khan, ymgynghorydd theatr dall. Cyn iddi brofi'r sioe, bu ein disgrifydd sain yn disgrifio iddi sut le oedd y byd gweledol trwy ddefnyddio'r bwrdd cyffyrddol i ddarparu gweadau fel brics, tywod a blodau. Cawsom ein synnu pa mor dda y gweithiodd.

Roedd yr adborth gan ein cynulleidfa yn dda iawn.

Roedd pobl wrth eu boddau’n gallu dewis ble roeddent yn sefyll a symud iddo fel rhithffurf; rhoddodd ryddid iddynt. Roeddent hefyd yn hoff iawn o sut y gallent brofi synau a golygfeydd y celfyddydau o ddiogelwch a chysur cartref, a dywedodd rhai eu bod yn teimlo ymdeimlad o gysylltedd nad oeddent wedi'i deimlo ers y cyfyngiadau symud. Mae llwyddiant cyffredinol y profiad wedi ein hysbrydoli i archwilio’r man theatr hybrid digidol-ffisegol ymhellach, felly rydym yn ymgeisio am rownd arall o gyllid Clwstwr.

Yn bersonol, rwyf wedi cael cromlin ddysgu fwyaf fy mywyd trwy'r prosiect hwn.

Rwyf wedi gwneud pedair sioe ar wahanol blatfformau digidol erbyn hyn, ac nid wyf yn credu y byddaf byth yn mynd yn ôl i wneud gwaith nad oes ar gael mewn fformat digidol. Bydd ffordd hybrid o’i wneud bob amser. Nid wyf yn gwybod beth fydd y peth hybrid, ond nid wyf yn credu bod unrhyw esgus na rheswm pam na allaf ddarparu fersiwn o'r hyn rwy'n ei wneud na ellir ei fwynhau gartref. Mae'r prosiect hwn wedi ei gwneud yn glir iawn bod hynny'n bosibl mewn gwirionedd, ac mae'n mynd i gael effaith fawr ar ein gwaith wrth symud ymlaen.

Diolch i Clwstwr am ganiatáu inni rannu ein hastudiaeth achos yma. Gallwch ddarganfod mwy ar eu gwefan

Taking Flight Logo

Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020

Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:

Atrium
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN

Members of:

A selection of logos: WCVA, Tempo, Creu Cymru, TYA Cymru, Outdoor Arts UK, The Cardiff Committment and Passport to the City

Cylchlythyr

Cyfrannwch arian

Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!

Cymraeg
Skip to content