Rheolwr Prosiect
Nifer yr oriau: 22.5 awr yr wythnos - Gweithio'n hyblyg yn ôl gofynion y prosiect.
Cyflog: £24,000 pro rata
Lleoliad: Ledled Cymru a rhywfaint o weithio gartref ac o bell.
TymorTymor Penodol: Mis Tachwedd 2021 - Mis Ionawr 2023 (14 mis)
N.B. Y dyddiad cau wedi'i ymestyn i 20 Medi
Mae Cwmni Theatr Taking Flight, Theatrau RhCT, Theatrau Sir Gar, Pontio, DACymru ac Hynt yn chwilio am Reolwr Prosiect trefnus a llawn cymhelliant sydd â phrofiad o fod yn fyddar neu sydd ag anabledd arall i'n helpu ni i gyflwyno prosiect newydd cyffrous.
Breaking the Box (teitl dros dro) yn brosiect a ariennir gan CCC sy'n ceisio gwella cyfleoedd i gynulleidfaoedd a phobl greadigol sy'n fyddar neu'n anabl. Bydd y Rheolwr Prosiect yn cynorthwyo hyd at dri o bobl greadigol byddar neu anabl sydd yn blynyddoedd cynnar o weithio ar leoliad mewn prosiectau creadigol tra hefyd yn cydlynu gweithgareddau a sicrhau cynnydd ym mhob agwedd ar y prosiect. Byddwch chi'n gweithio'n agos gyda phobl greadigol sydd ym mlynyddoedd cynnar eu hastudiaethau a'u mentoriaid, gan sicrhau bod anghenion mynediad a chymorth yn cael eu diwallu.
Byddwch chi'n berson sy'n mwynhau meithrin perthnasoedd cryf â nifer o bartneriaid creadigol ac yn rhagori wrth reoli achlysuron, trefnu gweithdai, creu amserlenni a bod â llygad craff a manwl wrth ymwneud â'r holl dasgau yma.
Ein bwriad yw i'n gweithlu ni gynrychioli bob rhan o gymdeithas, felly rydyn ni'n annog ymgeiswyr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y celfyddydau ar hyn o bryd i wneud cais.
Rydyn ni'n chwilio am ddatryswr problemau cadarnhaol sydd ag ymrwymiad i gynnig cyfleoedd i bobl wella eu mynediad i'r celfyddydau. Os mai chi yw'r person cywir ar gyfer y swydd, gwnewch gais. Edrychwn ymlaen at glywed gennych!
Gallwch lawrlwytho pecyn gweithio yma.
Links to fill in the Equal Opportunities form in Cymraeg a Saesneg.
Gwybodaeth 'Easy Read' yma.
Fersiwn sain yma.
Dyma pecyn llawn yn BSL
Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020
Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN
Members of:
Cylchlythyr
Cyfrannwch arian
Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!