Fow ar Ymylon Gŵyl Caeredin 2021
Deaf & Fabulous Productions & Taking Flight Theatre Company in coproduction with The Welfare & Theatrau Sir Gâr
Perfformiad rhwng 6 a 29 Awst
Yn dilyn perfformiad cyntaf llwyddiannus yn gynharach eleni, mae’n bleser gan y tîm sy’n gyfrifol am greu Fow gyflwyno’r sioe fel rhan o Ŵyl Ymylol Groesgyfrwng Canolfan Gelfyddydau Summerhall, ar Ymylon Gŵyl Caeredin 2021.
Cyflwynir y darn teirieithog hwn mewn cydweithrediad â Neuadd Les Ystradgynlais a Theatrau Sir Gâr. Bydd tocynnau ar gael ar gyfer pob perfformiad rhwng 6 a 29 Awst, o Summerhall ei hun ac o Swyddfa Docynnau’r Ŵyl Ymylol.
Mae Lissa’n amddiffynol, yn fyddar ac yn methu yn y brifysgol - y peth dwetha mae hi angen yw i gwympo mewn cariad.
Bachan difalais o Bontardawe gyda breuddwyd roc a rôl yw Siôn, dros ei ben a’i glustiau mewn cariad ac ar fîn gweld ei galon yn ddeilchion.
A Josh… Wel ma’ Josh jyst yn benderfynol o guro’r end of level Boss.
Yn llawn hiwmor, gonestrwydd a chwalfa gyfathrebu, Fow mae Fow yn gofyn sut mae cwympo mewn cariad heb i ni glywed ein gilydd, gan ddarganfod fod wastod modd o oresgyn ‘mond i ti geisio.
Stori gariad twym-galon wedi’i rhannu arlein mewn amryw iaith, gan gynnwys BSL, Cymraeg a Saesneg.
Yn addas ar gyfer cynulleidfaoedd 14+ oed Fow mae Fow yn cynnwys capsiynau integredig.
Mae Fow yn gosod cynulleidfaoedd mewn sefyllfa a fydd yn gyfarwydd iawn i gynulleidfaoedd Byddar – mae Lissa’n defnyddio BSL, mae Siôn yn defnyddio Cymraeg yn bennaf, ac mae Josh yn defnyddio Saesneg yn bennaf – dim ond rhywun sy’n deall y tair iaith felly fydd yn gallu dilyn pob gair o’r ddrama. Fe anfonir dolen gyswllt i aelodau’r gynulleidfa fel y gallan nhw wylio’r sioe, gyda pharti gwylio a sesiwn Holi ac Ateb fyw ar 27 Awst. Mae’na fersiwn ar gael hefyd yn cynnwys is-deitlau yn Saesneg trwy gydol y perfformiad, fersiwn arall gyda chyfieithydd ar y pryd i BSL, a chyflwyniad sain i gymeriadau’r sioe a’r dylunio.
Fow (diffiniad): Patrymau gwefusau BSL sy'n cyd-fynd ag arwydd sy'n golygu methiant i gyfathrebu neu ddeall. Nid oes cyfieithiad uniongyrchol yn y Gymraeg na'r Saesneg, y cyfieithiad agosaf yw 'Wnes i ddim deall hynny!'
Oni bai eich bod yn rhywun sy'n deall BSL, Cymraeg a Saesneg, bydd rhannau o'r sioe a fydd yn 'fow' i chi. Dyma sut rydym am i chi brofi'r perfformiad ac nid yw'n gamgymeriad technegol. Fodd bynnag, os hoffech brofi'r perfformiad gyda'r sicrwydd o gael isdeitlau Saesneg drwy gydol y sioe, bydd gennym hefyd fersiwn ar gyfer deiliaid tocynnau sydd ag isdeitlau llawn yn Saesneg.
“Accessible theatre? Do it properly…Do it like this” The Guardian ar peeling/Taking Flight.
“Funny & moving” British Theatre Guide ar ddrama arobryn Alun Saunders, A Good Clean Heart.
“"A heartwarming, uplifting tale” Wales Arts Review ar A Good Clean Heart
Tocynnau ar werth yma
Gwyliwch Fow ar y sgrin fwyaf sydd gennych am y profiad gorau, yn enwedig os oes angen dehongliad BSL arnoch.
Mwynhech y sioe!
Cefnogi gan Cyngor Celfyddydau Cymru, Llwywodraeth Cymru, Loteri Genedlaethol ac Unlimited.