Rydyn ni am ichi glywed ein newyddion cyffrous, sef bod ein cais i Gronfa arloesol Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru wedi llwyddo. Mae’n golygu bod cyllid wedi cael ei ddyfarnu inni i ddatblygu rhwydwaith o leoliadau perfformio cynhwysol, hygyrch yng Nghymru sy’n hyderus ac yn derbyn cefnogaeth i’w cynllun i groesawu artistiaid, criwiau tu-ôl-i’r-llenni a gweinyddwyr amrywiol, yn ogystal â chynulleidfaoedd sy’n amrywiol. Mae’r prosiect yma, sy’n cydweithio â Theatrau Sir Gâr, Pontio, Theatrau RhCT a Hynt, yn cynnig hyfforddiant a a chefnogaeth i’r gweithlu theatr Byddar ac anabl sy’n dechrau datblygu ac yn hyrwyddo cynnwys rolau mewn lleoliadau perfformio Cymreig yn y dyfodol ar gyfer pobl greadigol sy’n Fyddar a/neu’n anabl. Trwy fynd ati i sefydlu meincnod i Gymru fydd yn mesur pa mor bell rydyn ni wedi cyrraedd o ran sicrhau ymarfer a hygyrchedd cynhwysol, fe fydd y prosiect yma’n ail-ddychmygu’r gweithlu creadigol. Rydyn ni’n gwir obeithio y bydd hyn yn newid rheolau’r gêm. Gwyliwch y gofod yma!
Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020
Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN
Cylchlythyr
Cyfrannwch arian
Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!