A purple tinted black and white close up photo of Beth House sits against an orange and purple graphic

Ein Cyd-Sefydlydd ni, Beth House, yn gadael

Mae Cwmni Theatr Taking Flight yn datgan â thristwch mawr y bydd ei Chyfarwyddydd Datblygiad, Cyd-Brif Swyddog Gweithredol a chyd-sefydlydd, Beth House yn gadael y cwmni y mis yma.

Cyn ymadael i archwilio heriau newydd, ysgrifenna Beth: “Mae’n anodd credu ei bod hi bron yn 13 blynedd ers i Elise Davison a fi grwydro o gwmpas coetir yn Sir Benfro, lle cawson ni’r syniad o lwyfannu darn theatr yn y goedwig. Yn dynn ar sodlau’r syniad hwnnw fe ddaeth gweledigaeth arall, sef gweithio gyda thîm cynhwysol o berfformwyr anabl i greu fersiwn promenâd o A Midsummer Night’s Dream. Dw i ddim yn credu ein bod ni wedi sylweddoli yr adeg honno ba mor fawr oedd y prosiect yr oedden ni am ymgymryd ag e. Derbynion ni £5000 oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru a chynnull tîm o chwech actor, rihyrsio am bum niwrnod a’i pherfformio wedyn saith o weithiau dros benwythnos, gan lusgo cynulleidfaoedd trwy goetiroedd mwdlyd llawn cymylau o wybed mân, a’u hebrwng yn y llwydwyll dan lanterni Ikea. Yn sgil hynny y sefydlodd Elise a finnau Taking Flight, a dyna pryd dechreuodd y gwaith caled i gyd!

 Mae fy atgofion i o’r blynyddoedd ffurfiannol hynny yn seiliedig yn anad dim ar yr ymdeimlad llonnol o fod yng nghanol coedwig yn rihyrsio Shakespeare, ar ddiwedd rhyw lwybr (hygyrch), â chraf a chlychau’r gog yn fyrdd o’n cwmpas; gyrru i lawr lonydd cefn gwlad i osod posteri mewn neuaddau pentref anghysbell; trwsio gwisgoedd; dau berfformiad y dydd dan genllif o law Cymreig; cyfrif arian y tocynnau’n hwyr yn y nos, a llunio ceisiadau dirif am gyllid. Ro’n i’n teimlo na fyddai byth yn dod i ben – a do’n i ddim am iddo ddod i ben – ro’n i dros fy mhen a’m clustiau mewn cariad â’r holl beth! Daethon ni i fod yn arbenigwyr – neu’n eithaf medrus o leiaf – yng nghrefft jyglo datblygiad elusen brysur tra’n ymdopi â gofynion ein teuluoedd bythol gynyddol.

 Edrychwn ymlaen yn chwim dros y 13 blynedd hyn, ac mae Elise a fi – a Louise hefyd dros y bum mlynedd ddiwethaf – wedi trefnu mwy nag 20 o deithiau ar draws Cymru, Lloegr – ac Iwerddon a’r Almaen hyd yn oed. Rydyn ni wedi cyflogi cannoedd o weithwyr creadigol proffesiynol sy’n Fyddar, yn anabl neu’n abl, gan annog a chynorthwyo pobl i lansio neu ganlyn ar eu gyrfaoedd yn y celfyddydau trwy hyfforddiant a chynlluniau mentora a hyrwyddo mynediad at y byd creadigol.

 Mae fy mhedwar plentyn i wedi tyfu lan yng nghalon teulu Taking Flight, gan ddod ar deithiau perfformio gyda ni, gwylio rihyrsals ac yn nes ymlaen, gwirfoddoli – neu, a bod yn fwy gonest, cael eu perswadio’n dwyllodrus gen i i helpu allan.

 Fyddai hyn oll wedi bod yn amhosibl oni bai am gefnogaeth amhrisiadwy cynifer o bobl, o’r ymddiriedolwyr hen a newydd (ac yn enwedig ein Cadeirydd presennol Emily a’n hoelen wyth Nigel) i’r holl gydweithredwyr hael – yr artistiaid a’r bobl greadigol sy’n plannu ac yn meithrin hadau ein gwaith, y darparwyr rhwyddfynediad, ein cefnogwyr ac wrth gwrs ein cynulleidfaoedd ffyddlon, anhygoel a chydnerth. Ac yn yr un modd, fyddai hyn oll ddim wedi digwydd oni bai am gefnogaeth fy nheulu rhyfeddol i – fy mhlant, a oedd yn gorfod cario ymlaen hebddo i mor aml; Dean, fy nghraig gynnal i, sydd wedi dygymod â stwff ledled ein tŷ a finnau’n clebran am waith TRWY’R AMSER, a fy Mam aruthrol heb ei hail a ofalodd am fy mabanod, a fu’n ymddiriedolwraig yn y dyddiau cynnar, ac yn hyrwyddwraig arwresol dros waith Taking Flight cyn iddi drengi yn 2019.

 Daeth y foment dw i fwyaf balch ohoni ar ddechrau 2020 pan lansion ni’r Theatr Ieuenctid cyntaf yng Nghymru – yr unig un – ar gyfer plant Byddar, ac mae hi wedi bod yn fraint enfawr i fi gael gweithio ochr yn ochr â Steph Back, Anna a’n gwirfoddolwyr hyfryd ni i gyd, a chwrdd â chynifer o bobl ifanc anhygoel a’u teuluoedd.

Felly… 13 o flynyddoedd. Cyd-sefydlais i’r sefydliad yma, a’i feithrin a’i weld yn tyfu ac yn ffynnu. Dw i’n syfrdan lawen wrth ystyried popeth dyn ni wedi’i gyflawni gyda’n gilydd, wrth feddwl pa mor bell dyn ni wedi dod. Ond mae’na foment ym mywyd pob sefydliad – ac yn wir pob bod dynol – pan ddaw’r amser i symud ymlaen, i ildio lle i leisiau newydd a wynebu heriau newydd. A dyma’r foment. Dw i’n gwir obeitho mai nid ‘ffarwél’ mo hyn; dw i wedi gwneud cynifer o ffrindiau, wedi gweithio ochr yn ochr â sut gymaint o bobl ryfeddol. Bydd rhan o ’nghalon i’n perthyn am byth i’r cwmni gwych hwn dyn ni wedi’i greu; ond yn awr, i Taking Flight ac i finnau, mae’n bryd wynebu’r antur nesaf.”

A collage of photos of Beth House during her time at Taking Flight, in many she pulls silly faces, all are filled with love and joy

Mae Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Taking Flight, y Ddoctores Emily Garside, yn ysgrifennu:

“Profiad chwerwfelys yw ffarwelio â Beth ar ôl mwy na 12 mlynedd gyda Taking Flight. Byddwn yn hiraethu’n fawr am ynni, brwdfrydedd ac ymroddiad Beth a’i hysbrydolodd hi ynghyd ag Elise i adeiladu’r cwmni. Ar y llaw arall, pwrpas Taking Flight yw grymuso pobl i ledu eu hadenydd a – ie – hedfan, a dyna’n union beth mae Beth yn ei wneud. Er ein bod ni’n drist felly i’w gweld hi’n ymadael, ar yr un pryd rydym wedi cyffroi ac yn falch dros ben o’i gweld hi’n symud ymlaen at y bennod nesaf.

 Y gwir yw bod cwmni fel Taking Flight yn gweithredu ar sail nerth ei bobl (a chryn dipyn o ewyllys da); ac am yr ewyllys da hwnnw, y gefnogaeth a’r holl bethau bychain yn anad dim y byddwn ni fel cwmni’n hiraethu ar ôl iddi fynd.

 Gallaf ddweud fel Cadeirydd fod gweithio ochr yn ochr â Beth wedi bod yn brofiad llawen; ac rwy’n sicr fy mod yn siarad ar ran aelodau presennol a blaenorol y Bwrdd wrth fynegi ein diolchgarwch mawr iddi am ei gwaith caled a’i chymorth a’n galluogodd ni i wneud o Taking Flight y llwyddiant sydd i’w weld heddiw. Rydym fel Bwrdd wedi cyffroi’n fawr ynghylch y bennod nesaf yn hanes Taking Flight, ac yn hynod ddiolchgar i Beth am ein helpu ni i gyrraedd y nod. Rydym yn falch dros ben o Beth fel person hefyd, ar ei thaith o fod yn berfformwraig, i gyd-sefydlydd cwmni theatr, wrth iddi fagu brwdfrydedd a sgil ym maes codi arian gan ddatblygu’r gallu yma ar gyfer y cam cyffrous nesaf. Ac er na fyddwn ni ddim yn gweithio gyda’n gilydd, rwy’n gwybod y y bydda i, a’r Bwrdd i gyd, yn annog Beth yn ei blaen bob cam o’r ffordd.

 Ar lefel bersonol, mae wedi bod yn fraint imi weithio gyda Beth dros y bum mlynedd ddiwethaf yma. Rwyf wedi dysgu maint aruthrol ganddi, gan gynnwys y ffaith bod dyfalbarhad ac awydd diwyro i newid pethau weithiau’n talu’n dda. I ni fel menywod ym myd y celfyddydau mae’n hanfodol bwysig ein bod yn cefnogi ac yn cynorthwyo ein gilydd, ac rwy’n ddiolchgar i Beth am wneud hynny bob amser. Ar lefel broffesiynol, mae Beth wedi bod yn ysbrydoliaeth, ac rwy’n falch o allu ei galw hi’n ffrind imi. Ar ran pawb yn Taking Flight, yn aelodau cyfredol, blaenorol a rhai’r dyfodol, rwyf am ddweud diolch o galon Beth, fuasen ni ddim yma oni bai amdanat ti.”.


Bydd Cyfarwyddydd Artistig Taking Flight, Elise Davison, yn parhau i arwain y cwmni ymlaen at gam cyffrous nesaf ei ddatblygiad. Fel yr esbonia hi:

 ““Ddeuddeg mlynedd yn ôl, dim ond breuddwyd oedd Taking Flight, rhywbeth a ddychmygon ni yn ystod tro bach trwy’r goedwig. Erbyn hyn mae’n elfen arweiniol yn y theatr yng Nghymru. Fyddai hyn i gyd ddim wedi digwydd oni bai am brwdfrydedd diflino Beth, ei hymroddiad a’i hegni hi. Yn y blynyddoedd cynnar hynny roedd hi’n gwestiwn o ‘wneud iddo fe weithio’ bob amser gydag unrhywbeth oedd ar gael a neidio i mewn (wysg ein pennau weithiau) i sicrhau bod prosiectau’n dod i fodolaeth. Fe herion ni’r byd cyfan gan dderbyn unrhyw brosiect a oedd yn cynnau tân yn ein boliau. Erbyn hyn, flynyddoedd lawer wedyn, mae Taking Flight yn gwmni sydd wedi creu mwy nag 20 o gynyrchiadau llwyddiannus, gan deithio i wledydd eraill a gweithio gyda llu o artistiaid gwych Byddar ac anabl – a dysgu llawer yn eu cwmni. Ac i raddau helaeth mae hyn yn ffrwyth i waith caled Beth.Fe adeiladon ni’r cwmni yma gyda’n gilydd, er gwaethaf pob disgwyl. Fe arllwyson ni ein heneidiau i mewn iddo, ac rwy mor hapus wrth weld ei fod wedi cyffwrdd â bywydau cynifer o bobl. Rwy’n ysu am weld beth fydd Beth yn ei wneud nesaf; mi wn y bydd hi’n ased anferth i’w chyflogwyr newydd ac y bydd pawb yn Taking Flight yn chwith iawn ar ei hôl hi. Rydyn ni wedi cael sut gymaint o brofiadau gyda’n gilydd dros y blynyddoedd. Mae Beth yn berson rhyfeddol ac yn ffrind enfawr – mae’n amser delfrydol iddi symud ymlaen yn ei gyrfa ond bydd hi bob amser yn aelod pwysig o deulu Taking Flight.”

Taking Flight Logo

Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020

Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:

Atrium
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN

Members of:

A selection of logos: WCVA, Tempo, Creu Cymru, TYA Cymru, Outdoor Arts UK, The Cardiff Committment and Passport to the City

Cylchlythyr

Cyfrannwch arian

Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!

Cymraeg
Skip to content