A graphic representing The Happiness Sessions, the words are in white on an orange background,

Sesiynau Hapusrwydd

Sesiynau Hapusrwydd

Lledaenu llawenydd gydol mis Ionawr

Rydym wedi ymuno â’n ffrindiau yn sefydliad Creu Cymru i gyflwyno ichi’r Sesiynau Hapusrwydd. Cynhelir y sesiynau’n rhad ac am ddim. Y gynulleidfa yr ydym yn anelu ati yw gweithwyr y celfyddydau yng Nghymru y mae’r pandemig wedi effeithio’n drwm arnynt, gan gynnwys gweithwyr llawrydd, staff canolfannau ar ffyrlo, a gweithwyr proffesiynol yn y celfyddydau sy’n wynebu diweithdra. Bydd y 4 sesiwn fer, a gynhelir yn ystod y mis, yn canolbwyntio sylw ar agweddau penodol ar lesiant, gan gynnig offer ymarferol i gynorthwyo pobl i fagu cadernid meddyliol a hyrwyddo llawenydd yn 2021.

Cewch chi drefnu eich lle yma ar unrhyw sesiwn neu bob un. Bydd y 40 cyntaf o bobl sy’n bwcio lle ar y pedair sesiwn yn derbyn pecyn Hapusrwydd arbennig trwy’r post. Cynhelir y sesiynau ar Zoom.

13eg Ionawr 11yb-1yp

Mae caredigrwydd yn gwneud inni deimlo’n dda, Dr Radha Modgil

 Defnyddiwn garedigrwydd bob dydd fel modd o deimlo’n dda – i chi ac i bobl eraill. Mae’r grym a’r gallu yn eich calon a’ch dwylo chi!

Mae Dr Radha yn gweithio fel Meddyg Teulu gyda’r GIG, yn darlledu ac yn ymgyrchu dros lesiant. Mae Radha’n addysgu mewn modd creadigol a hwylus, gan annog pobl i aros yn iach. Mae hi’n frwd am gysylltu â phobl a chlywed eu storïau, a deall sut gallwn ni i gyd ddysgu gwersi o’n gilydd.

Radha yw’r arbenigydd meddygol ar sioe Life Hacks (BBC Radio 1), ac mae hi’n cyd-gyflwyno podlediad wythnosol Life Hacks. Hi oedd cyflwynydd y sioe Feeling Better ar CBeebies, a arferai bwysleisio pwysigrwydd siarad am emosiynau i blant ifanc. Cyflwynodd hi’r gyfres ‘Exam Survivors’ ar gyfer BBC Bitesize ar BBC Sounds. Mae hi wedi gwneud adroddiadau hefyd ar This Morning (ITV), BBC Breakfast, ITV Tonight, Newyddion Channel 5 News a Newyddion ITN.

Gan weithio ar draws pob platfform mae Dr Radha’n cyfrannu i brosiectau ar-lein megis BBC Bitesize, BBC Teach, BBC Own It, BBC Advice Pages a BBC Learning. Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn iechyd pobl ifanc a mewn cefnogi rhieni, ac mae hi wedi gweithio ar ymgyrchoedd gyda BBC Children in Need, Iechyd Cyhoeddus Lloegr, sefydliad MIND, British Heart Foundation, JDRF, The Mix a Fforwm Ieuenctid y GIG.

20ain Ionawr, 11yb - 1yp

Bwyta’n Gywir i gyrraedd y ‘Normal’ Newydd, Joanne Crovini

a

Pilates ar gyfer Hapusrwydd, Jo Pryce

Therapydd Maethol yw Joanne Crovini a chanddi fwy na degawd o brofiad yn gweithio gydag unigolion a sefydliadau i hyrwyddo egni, iechyd meddwl a chadernid personol. Mae hi’n credu mewn newidiadau syml ymarferol a fydd yn cael effaith o bwys ar sut rydych chi’n teimlo. Mae ganddi gyfoeth o syniadau ac awgrymiadau i’ch helpu i fabwysiadu’r newidiadau hyn i wella eich bywyd chi.

Mae Jo Pryce yn dysgu pilates ers mwy na deng mlynedd yng Nghampfa Iechyd da yn Nhreganna, Caerdydd. Nod ei dosbarthiadau pilates yw cyfunioni, cryfhau a sefydlogi’r cyhyrau craidd. Yn ystod y sesiwn yma, byddwn ni’n canolbwyntio ar ymwybyddiaeth ofalgar, ac yn cyfunioni ein hanadlu a’n symudiadau. Dyma ddosbarth i’ch helpu i’ch dadflino ac ymlacio a theimlo eich bod yn barod ar gyfer 2021!

21ain Ionawr 11yb-1yp

Cofleidio’ch Hun, Un Trawiad Ysgrifbin ar y Tro, Grace Quantock

Gall cadw dyddlyfr roi map yn ein dwylo inni gael dilyn y ffordd adref aton ni ein hunain.

Efallai eich bod chi’n gyfarwydd â “dyddlyfra”. Efallai hyd yn oed bod dechrau cadw dyddlyfr yn un o’ch Addunedau Blwyddyn Newydd. Ond sut mae… mynd ati? Beth dylech chi – chi’n gwybod – ei sgrifennu? Beth wnewch chi unwaith eich bod chi’n eistedd o flaen tudalen wag? A beth am yr holl emosiynau y mae’r profiad yma’n eu deffro ynoch chi?

Cyflwyno Dyddlyfra Creadigol Therapewtig™ — arddull dyddlyfra hunan-drugarog, ymwybodol o drawma a arloesir gan y provocateur llesiant a’r ddyddlyfrwraig ymroddedig Grace Quantock. Mae’n cyfuno ysgrifennu therapewtig, dyddlyfra celf, arddulliau dyddlyfra strwythuredig a seiliedig ar ysgrifennu rhydd i’ch helpu i ddatblygu eich ymarfer dyddlyfra organig eich hun. Mae Dyddlyfra Creadigol Therapewtig™ yn cynnig gofod hunan-drugarog ichi y gallwch chi fynd ato unrhywbryd. Gofod diogel ydyw, lle gallwch chi ymarfer bod ynoch chi eich hun yn fwyfwy cyflawn.

Gall dyddlyfra ein helpu ni i:

  • Gael hyd i ofod diogel i ddal a chynnwys ein hemosiynau
  • Dod at benderfyniadau trwy ymarfer dirnadaeth
  • Darganfod ein llais a’r hyn sy’n perthyn yn wirioneddol i ni
  • Sylwi ar ddeinameg neu batrymau poenus yr ydym yn brwydro yn eu plith
  • Creu mewn ffordd sy’n teimlo ei bod wedi’i dal yn ddiogel
  • Chwynnu’r syniadau a’r ofnau sy’n cael eu gwthio arnom
  • Cydnabod ymhle a sut y mae angen cymorth arnom
  • Ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar mewn modd hyddysg, ymarferol ystyrlon
  • Dod ag ymarfer ysgrifennu i mewn i’n hymarfer hunan-ofalu ni
  • Ymdopi â bywyd prysur a meddwl prysur
  • Cadw rheolaeth ar apwyntiadau a gwybodaeth newydd
  • Adfer ein hadnoddau yn sgil cyfnodau dihysbyddol
  • Magu ymarfer creadigol y gallwn ei gyrchu bob dydd
  • …a llawer, llawer mwy.

Mae Dyddlyfra Creadigol Therapewtig™ yn debyg i gwpanaid o goffi da gyda ffrind sy’n eich deall yn berffaith, ond ei fod ar gael unrhywle, unrhywbryd. Hyd yn oed am dri o’r gloch y bore.

Mae Grace Quantock yn gwnselydd seicotherapewtig mewn uwch-hyfforddiant. Mae hi wedi hyfforddi mewn arweinyddiaeth gweithdai gyda’r awdures dra llwyddiannus a’r arweinydd gweithdai Jennifer Louden. Mae ymarfer dyddlyfra Grace wedi ei helpu i oroesi salwch difrifol, galar a phoen. Mae Grace wedi astudio celfyddyd therapewtig; ysbrydolir ei hymarfer gan waith Marion Woodman, Dr. Clarissa Pinkola Estes, Marlene Schiwy, Aviva Gold, a Cathy Malchiodi.

27ain Ionawr 11yb – 1yp

Chwaraewch Eich Ffordd at Gadernid, Holly Stoppit

Bydd yr hwylusydd, dramatherapydd ac athrawes clownio Holly Stoppit yn eich arwain trwy gyfuniad o fyfyrdodau ymwybyddol meddylgar, chwarae corff-seiliedig a synfyfyrio creadigol i’ch helpu i dynnu’n chwaraeus ar eich cadernid personol ar gyfer y misoedd sydd o’n blaenau. 

Mae Holly Stoppit yn hwylusydd, dramatherapydd, athrawes clownio a chyfarwyddydd dyfeisio; mae hi’n arbenigo mewn creu theatr comig hunangofiannol lled-ddifyfyr. Ers y cyfnod clo cyntaf mae Holly wedi trosglwyddo ei holl waith dysgu, hwyluso a pherfformio ar-lein ac mae hi wrth ei bodd yn cael cyfle i chwarae gyda phobl ledled y byd.

Cymraeg
Skip to content