Artwork for the First Three Drops, given a wintery feel by the addition of some snow. A lovespoon featuring ellements from the story of Taliesin: a cauldron, a hare, a fish and a sleeping baby. Logos for sponsors Admiral, and producers Taking Flight & the Park and Dare

Y Tri Diferyn Cyntaf

First Three Drops yn dychwelyd ar gyfer Gŵyl dalfyredig (29-31 Rhagfyr yn unig)

Diolch i’r Grŵp Admiral (cyd-cynhyrchiad Taking Flight/Theatr Parc a Dar)

Cwmni Theatr Taking Flight a Theatr y Parc a'r Dâr Mae gan Ceridwen y wrach broblem. Mae ei merch hi'n brydferth ac yn ddawnus, ond does dim llawer o siâp ar ei mab, Morfran! Rhaid troi at hud a lledrith pwerus iawn er mwyn gwella hyn. Ddychmygodd Ceridwen ddim y byddai gadael Gwion, ffrind gorau Morfran, yn gyfrifol am gymysgu ei hylif hud am flwyddyn a diwrnod yn arwain at y fath anrhefn.

Mae First Three Drops yn stori ddoniol a hudolus, llawn bodau'n newid siâp, dewiniaeth di-ri, champau gwirion ac anturiaethau lu, a hynny yn Saesneg, Iaith Arwyddion Prydain a Saesneg gydag Arwyddion. Bydd y sioe hefyd yn cynnwys capsiynau byw a disgrifiadau sain integredig. Mae'n seiliedig ar chwedl Taliesin, gan Elis Gruffydd.

Drama newydd sbon wedi'i pherfformio'n fyw dros Zoom. Bydd ein hactorion yn dod â'r sioe'n fyw - o'u cartrefi nhw i'ch cartref chi. Mae First Three Drops yn teimlo fel parti go iawn, ac mae modd i chi fod yn rhan o'r stori o'r dechrau hyd at y diwedd, drwy wisgo lan, creu eich effeithiau sain eich hun ac ymuno yn yr hwyl.

Mae First Three Drops yn addas ar gyfer rhai bach rhwng 2 a 9 oed a'u teuluoedd. Wedi'i gyfarwyddo a'i ysgrifennu'n arbennig ar gyfer Zoom gan Elise Davison.

Mae Zoom yn ap galwadau fideo ar-lein hawdd i'w ddefnyddio Mae modd ei lawrlwytho am ddim ar gyfrifiaduron, tabledi a ffonau symudol. Rydyn ni'n argymell eich bod chi'n lawrlwytho Zoom cyn y perfformiad er mwyn dod i arfer gyda'r rhaglen ac osgoi unrhyw oedi ar y diwrnod - beth am gael ymarfer bach gyda'ch ffrindiau neu deulu os nad ydych chi wedi'i ddefnyddio o'r blaen?

Y Daith Hydref

Teithiodd First Three Drops yn rhithiol ar hyd a lled Cymru ac i Wolverhampton yn yr Hydref 2020.

Tachwedd

Rhagfyr

 

Yn galw ar bob athro!

Clicwch yma i lawrlwytho cynlluniau gwers yn cwmpasu pob un o’r chwe maes ar y cwricwlwm

Adnoddau

Dysgwch y Gân Droi a Throi gyda Sam

Dysgwch un o’r caneuon o’n sioe newydd ni, First Three Drops,ac ymunwch yn y canu yn ystod y sioe!

Anifeiliaid Origami gyda Steph

Dilynwch y fideo yma yn Saesneg, gyda BSL a chapsiynau i ddysgu sut i wneud tri anifail origami i’ch helpu i ymuno yn yr hwyl yn ystod ein sioe newydd, First Three Drops, a gyflwynir ar y cyd â Theatrau RhCT.

Gwnewch Declyn Ysgwyd gyda Ioan

Mae ar Ioan angen eich help! Yn y sioe First Three Drops, mae ei gymeriad Ceridwen yn troi’n iâr i’w helpu i ddal ein harwr Gwion. Dysgwch sut gallwch chi helpu Ioan i ganu ei gân trwy wneud teclyn ysgwyd syml.

Dysgwch am ein mygydau gyda Paul

Mae rhywbeth gyda Paul i’w ddangos ichi. Mae ein dylunydd graffig Matthew Wright wedi creu mygydau hardd inni. Islwythwch eich mygydau yma yma, ac addurnwch nhw i’w gwisgo yn ystod y sioe.

Dysgwch ragor am Zoom gyda Garrin

Dyma’n Rheolwr Llwyfan ni, Garrin Clarke, yn cael saib yn ystod rihyrsals i gyflwyno Zoom inni, cyn ein perfformiadau o First Three Drops

Creu lle bach clyd gyda Ruth

Mae ein dylunydd hyfryd Ruth Stringer wedi gwneud fideo i’ch helpu i wneud eich man gwylio mor gyfforddus a chlyd â’r mannau lle mae ein hactorion yn perfformio.
Taking Flight Logo

Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020

Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:

Atrium
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN

Members of:

A selection of logos: WCVA, Tempo, Creu Cymru, TYA Cymru, Outdoor Arts UK, The Cardiff Committment and Passport to the City

Cylchlythyr

Cyfrannwch arian

Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!

Cymraeg
Skip to content