







Fow
Deaf & Fabulous Productions &
Taking Flight Theatre Company
in coproduction with
The Welfare & Theatrau Sir Gâr
Dydd Iau 29ain Ebrill - Dydd Mercher 5fed Mai 2021
Mae Lissa’n amddiffynol, yn fyddar ac yn methu yn y brifysgol - y peth dwetha mae hi angen yw i gwympo mewn cariad.
Bachan difalais o Bontardawe gyda breuddwyd roc a rôl yw Siôn, dros ei ben a’i glustiau mewn cariad ac ar fîn gweld ei galon yn ddeilchion.
A Josh… Wel ma’ Josh jyst yn benderfynol o guro’r end of level Boss.
Yn llawn hiwmor, gonestrwydd a chwalfa gyfathrebu, Fow mae Fow yn gofyn sut mae cwympo mewn cariad heb i ni glywed ein gilydd, gan ddarganfod fod wastod modd o oresgyn ‘mond i ti geisio.
Stori gariad twym-galon wedi’i rhannu arlein mewn amryw iaith, gan gynnwys BSL, Cymraeg a Saesneg.
Yn addas ar gyfer cynulleidfaoedd 14+ oed Fow mae Fow yn cynnwys capsiynau integredig.
Fow (diffiniad): Patrymau gwefusau BSL sy'n cyd-fynd ag arwydd sy'n golygu methiant i gyfathrebu neu ddeall. Nid oes cyfieithiad uniongyrchol yn y Gymraeg na'r Saesneg, y cyfieithiad agosaf yw 'Wnes i ddim deall hynny!'
Oni bai eich bod yn rhywun sy'n deall BSL, Cymraeg a Saesneg, bydd rhannau o'r sioe a fydd yn 'fow' i chi. Dyma sut rydym am i chi brofi'r perfformiad ac nid yw'n gamgymeriad technegol. Fodd bynnag, os hoffech brofi'r perfformiad gyda'r sicrwydd o gael isdeitlau Saesneg drwy gydol y sioe, bydd gennym hefyd fersiwn ar gyfer deiliaid tocynnau sydd ag isdeitlau llawn yn Saesneg.
“Accessible theatre? Do it properly…Do it like this” The Guardian ar peeling/Taking Flight.
“Funny & moving” British Theatre Guide ar ddrama arobryn Alun Saunders, A Good Clean Heart.
“"A heartwarming, uplifting tale” Wales Arts Review ar A Good Clean Heart
Tocynnau ar gael o:
Gwyliwch Fow ar y sgrin fwyaf sydd gennych am y profiad gorau, yn enwedig os oes angen dehongliad BSL arnoch. Ewch i'n tudalen cymorth technegol i ddarganfod sut i wylio'r sioe ar eich teledu cyn setlo i lawr i wylio'r perfformiad - mae'r wybodaeth hon ar gael yn Gymraeg, Saesneg a BSL. yma There is a written guide with photos, links to how to guides, and audio guide and a BSL explainer, which you can also watch on the right hand side of this page -> -> ->
Mwynhech y sioe!
Cefnogi gan Cyngor Celfyddydau Cymru, Llwywodraeth Cymru, Loteri Genedlaethol ac Unlimited.


