A graphic representing The Policy Panel the words are in white on a yellow background,

Gwahoddiad i Ymuno â’r Panel Polisi

Gwahoddiad i Ymuno â’r Panel Polisi

Dyddiad cau 4ydd Rhagfyr, 5yp

Rydym yn chwilio am 10 o weithwyr llawrydd yn y celfyddydau sydd am ymuno â’n Panel Polisi ni. Rydym yn awyddus i fod yn siŵr bod ein ffordd o redeg Taking Flight yn deg ac yn gyfiawn a’n bod ni’n gwir gynrychioli’r lleisiau sydd o’n cwmpas.
Pwy sy’n gallu ymgeisio? Gweithwyr proffesiynol llawrydd yn y celfyddydau yng Nghymru – gallech chi fod yn hwylusydd, dawnsiwr/wraig, rheolwr(aig) llwyfan, technegydd, artist gweledol ayyb. Yn unol â natur ein gwaith, rydym am glywed yn arbennig oddi wrth weithwyr llawrydd Byddar ac anabl. Rydym yn awyddus hefyd i dderbyn ceisiadau gan bobl groenliw, pobl draws a rhai anneuaidd o ran rhywedd, ac eraill sydd wedi brwydro dros ennill cynrychiolaeth i’w lleisiau creadigol.
Beth fydda i’n ei wneud? Byddwch chi’n mynychu hyd at 6 sesiwn hanner diwrnod rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Ebrill 2021. Cynhelir y sesiynau ar-lein, neu yn ein canolfan yng Nghaerdydd. Caiff pobl o rannau eraill o Gymru gymryd rhan mewn sesiynau byw yn ddigidol.
Beth yw diben y sesiynau? Byddwch chi’n helpu i lunio polisïau ac arferion gweithio Taking Flight. Rydym am weithio gydag ystod amrywiol o bobl at lunio a dylanwadu ar ein ffordd o weithio er mwyn iddi wasanaethu’n well y Gymru lle rydym yn byw.
Bydd y Panel yn cwrdd tuag unwaith y mis i weithio at ddatblygu polisi neu set o ganllawiau newydd neu un sy’n bodoli eisoes – er enghraifft ein Polisi ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth, ein gweithdrefn recriwtio ayyb. Fe gewch chi eich hwyluso mewn trafodaeth ynghylch polisïau penodol gyda golwg ar lunio set o argymhellion inni.
Faint o dâl fydda i’n ei gael? Fe delir ichi £150 am bob sesiwn hanner diwrnod. Fe drefnir seibiau yn ystod pob sesiwn.
Fe hwyluswn ni rwyddfynediad yn unol â gofynion y panel.
Sut galla i ymgeisio? Ysgrifennwch lythyr neu anfonwch fideo yn Gymraeg, Saesneg neu Iaith Arwyddion Prydain i louise@takingflighttheatre.co.uk Gofalwch egluro natur eich gwaith, gan ddweud os ydych chi wedi wynebu unrhyw rwystrau rhag datblygu eich gyrfa. Rhowch wybod inni os oes gennych chi brofiad ym maes gweinyddiaeth y celfyddydau (peidiwch â phryderu os nad oes) ac ategwch CV os oes un gennych chi. Mae croeso ichi anfon cwestiynau inni yn ogystal â cheisiadau.
 
Cymraeg
Skip to content