Fel arfer mae dogfennau ‘hawdd i’w deall’ yn cynnwys darluniau ochr yn ochr â darnau bychain o destun wedi’u symleiddio i wneud yr wybodaeth yn haws i’w darllen a’i deall. Fel cwmni a arweinir gan bobl Fyddar/ anabl, roedd yn syndod inni weld nad oedd y rhan fwyaf o ddelweddau cartŵn/darluniau sydd ar gael ar y rhyngrwyd yn dangos neb ond pobl wen nad ydynt yn anabl.
Roedd y delweddau prin hynny a oedd ar gael ar-lein a ddangosai unrhywbeth tebyg i amrywiaeth, byddardod neu anabledd yn hynod ystrydebol, neu’n cadw’n dynn at bersbectif meddygol. ‘Doedd y diffyg cynrychiolaeth yma ddim yn adlewyrchu natur ein cwmni, ein gwerthoedd, nac ychwaith y cymunedau yr ydyn ni’n gweithio gyda nhw ac er eu lles. Penderfynon ni fynd ati felly i greu ein delweddau ein hunain, a gallwch chi weld sampl ohonyn nhw yma. Mae gennym lyfrgell o 100 o ddelweddau ar hyn o bryd, ac mae ein casgliad yn dal i dyfu yn unol â’r angen a’r galw amdano.
Bydden ni’n hapus iawn petai sefydliadau eraill am ddefnyddio ein lluniau Hawdd i’w Deall yn eu dogfennau eu hunain, ond iddynt ofyn am ein caniatâd. Cysylltwch â ni os carech chi wybod mwy am hyn.




Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020
Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:
Atrium
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN
Cylchlythyr
Cyfrannwch arian
Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!

Members of:
