Louise, Steph, Elise Sara and Alan pose for a photo with our award in the new theatre at Porter's

Taking Flight receives Lifetime Impact Award

Effaith Oes ar Theatr Hygyrch

Mae Cwmni Theatr Taking Flight yn hynod o falch o gael ei anrhydeddu fis diwethaf gyda’r Wobr Effaith Oes gyntaf erioed yng Ngwobrau Effaith Ddiwylliannol Get the Chance 2025, a gefnogwyd gan Tempo Time Credits, Ffilm Cymru Wales a Porters Caerdydd.

Gwnaiff Taking Flight gynyrchiadau theatr beiddgar ac anarferol gyda pherfformwyr sy'n Fyddar, anabl, niwrowahanol a heb fod yn anabl. Mae eu cynyrchiadau yn teithio Cymru a thu hwnt. Ochr yn ochr â theithio, maent yn meithrin y genhedlaeth nesaf o dalent anabl, ar y llwyfan a thu cefn iddi hefyd. Maent yn gwneud hyn trwy gynnal cyrsiau hyfforddi proffesiynol cynhwysol yn ogystal â chynlluniau mentora ar gyfer pobl sy'n nodi eu bod yn Fyddar neu'n anabl ac sy'n chwilio am y cam nesaf i wireddu gyrfa yn y theatr, neu i ddatblygu sgiliau presennol a magu hyder. 

Gyda bron i 17 mlynedd o brofiad mewn creu theatr hygyrch, nhw heb os ydy'r cwmni i fynd ato am gyngor, gwybodaeth neu ysbrydoliaeth ar integreiddio mynediad, a gweithio gyda chast cynhwysol.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Artistig Elise Davison:

“'Dyn ni wrth ein boddau ein bod wedi derbyn y wobr hyfryd yma. Roeddem wedi ein syfrdanu braidd, a 'dyn ni'n arbennig o hapus i dderbyn y fath gydnabyddiaeth o'n gwaith dros yr 17 mlynedd diwethaf neu fwy. Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi ein galluogi i wneud y daith hon yn bosibl a chroesawu hefyd y camau y mae’r diwydiant yng Nghymru yn eu cymryd tuag at fod yn fwy cynhwysol i gynulleidfaoedd a gweithwyr proffesiynol fel ei gilydd. Beth am ddal ati i weiddi am fynediad, yfe? Mae wir yn gwneud y gwaith yn well i bawb.”

Dywedodd Guy O’Donnell, cyfarwyddwr Get the Chance:

“Enillodd Taking Flight y wobr Get the Chance, Lifetime Impact Award oherwydd y newid cadarnhaol parhaus y maent wedi arwain arno ar yn y sector diwylliannol yng Nghymru.

Roedd eu henw yn amlwg iawn mewn llawer o’r Categorïau ar gyfer gwobrau eleni, sy'n dyst i'w cyrhaeddiad ymhlith y sector celfyddydau a’r cyhoedd.” 

Mae Sara Beer, cyfarwyddwr newid Craidd, hefyd yn aelod o fwrdd ymddiriedolwyr Taking Flight ers amser maith. Fe'u gwahoddwyd i gyflwyno’r wobr i’r cwmni gan Get the Chance, a dywedodd:

“Mae Taking Flight yn creu theatr ragorol a hygyrch ac mae’r effaith y maent wedi’i chael ar bobl greadigol Byddar, anabl a niwroddargyfeiriol wedi bod yn enfawr, yn darparu cyfleoedd gwych ac yn codi ymwybyddiaeth o’r dalent sydd wedi cael ei hanwybyddu ers cyhyd.

Mae'r cwmni hefyd yn darparu hyfforddiant o ansawdd uchel i bobl greadigol theatr ledled Cymru. Golyga hyn bod llawer mwy o ddisgrifwyr sain bellach ar gael i gwmnïau sy’n gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg, a chronfa o alluogwyr creadigol i gefnogi gweithwyr llawrydd a chwmnïau wrth iddynt ddarparu amgylcheddau cynhwysol, hygyrch i bawb. 

Mae'n rhyfeddol bod y rhan fwyaf o'u gwaith hyd yma wedi'i greu ar ariannu prosiect a'u penderfyniad a'u hymroddiad at gynhyrchu theatr hygyrch bwysig o'r ansawdd uchaf. Nawr eu bod yn cael eu hariannu gan arian refeniw Cyngor Celfyddydau Cymru dw i'n siŵr bod cyfnodau cyffrous iawn o'n blaenau”.

Daw’r wobr ar adeg gyffrous i Taking Flight wrth iddynt ddechrau cynhyrchu eu sioe ddiweddaraf, cynhyrchiad IAP/Saesneg cwbl hygyrch o’r enw Martha, a fydd yn agor fis Mai eleni yn Theatr y Sherman, Caerdydd. Mae Martha wedi’i gosod yn y dyfodol agos, mewn byd lle mae iaith arwyddion wedi cael ei gwahardd, a diwylliant Byddar yn cael ei yrru o dan ddaear – cabaret rhybuddiol yn ymdrin â pheryglon gormes a totalitariaeth. Ceir rhagor o wybodaeth yma.

Taking Flight Logo

Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020

Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:

Atrium
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN

Cylchlythyr

Cyfrannwch arian

Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!

The logos of the People's POstcode Lottery and Postcode Community Trust

Members of:

A selection of logos: WCVA, Tempo, Creu Cymru, TYA Cymru, Outdoor Arts UK, The Cardiff Committment and Passport to the City
Cymraeg
Skip to content