Castio Actorion
Mae Cwmni Theatr Taking Flight yn edrych am dri pherfformiwr am ei sioe newydd, drama sy’n arweiniad-byddar sef ‘deaf-led’, Martha, wedi'i sgwennu gan Elise Davison a Steph Bailey-Scott.
Perfformwyr:
Actor 1 – Mabel. Menyw 40-55 mlwydd oed. Person byddar - defnyddiwr Iaith Arwyddion Prydain, sef BSL.
Actor 2 – Kitty. Menyw 20-30 mlwydd oed. Actor sy’n clywed gyda Iaith Arwyddion Prydain lefel 3 neu’n uwch. Plîs peidiwch geisio gyda lefel 1 neu 2. Mae’r gallu i ganu yn fantais.
Actor 3 - Edith. Menyw 20-30 mlwydd oed. Actor byddar sy’n hapus i berfformio drwy Iaith Arwyddion Prydain a Saesneg ar lafar.
Dyddiadau:
Contract chwech wythnos o’r deuddegfed o Fai 2025 gyda posibiliad o estyniad am bythefnos, i’w gael ei gadarnhau.
Lleoliad:
Ymarferion a pherfformiadau yn Theatr y Sherman, Caerdydd.
Tâl:
£601 yr wythnos
Teithio, llety a thaliadau cynhaliaeth ar gael yn dibynnu ar ble mae’r actor wedi lleoli.
Dyddiadau clyweliadau:
Y 25ain a 26ain o Fawrth yng Nghaerdydd
Danfonwch eich ceisiadau erbyn naw y bore ar yr ugeinfed o Fawrth i’n cynhyrchydd, Glesni Price-Jones, at producer@takingflighttheatre.co.uk.
Mae croeso i chi ddanfon ceisiadau yn ysgrifenedig neu ar ffurf fideo fer neu nodyn sain.
Cefnogwyd gan:


Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020
Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN
Cylchlythyr
Cyfrannwch arian
Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!

Members of:
