Ymunwch â ni mewn sesiwn Holi ac Ateb byw i ddysgu rhagor am ein Theatr Ieuenctid di-dâl ar gyfer pobl ifanc 4-18 oed Fyddar a Thrwm eu Clyw, sy’n digwydd fel rheol yng Nghaerdydd. Dych chi eisiau dysgu rhagor am ein theatr ieuenctid dan arweiniad pobl Fyddar, ble mae’n digwydd, pa mor aml – a beth rydyn ni i gyd yn ei wneud yn ystod pandemig Cofid-19?
Fe gynhelir yr Holi ac Ateb trwy gyfrwng Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ac ar lafar yn Saesneg gyda chapsiynau byw.
Bwriedir y gweminar hwn ar gyfer:
– pobl ifanc Fyddar a Thrwm eu Clyw sy’n awyddus i ddysgu rhagor am ein theatr ieuenctid di-dâl a’r hyn rydym yn ei wneud, dan glo a mewn bywyd normal!
– oedolion sy’n gweithio gyda phobl ifanc Fyddar neu Drwm eu Clyw
– rhieni/ gofalwyr plant Byddar
– sefydliadau eraill ym myd y celfyddydau sydd eisiau dysgu rhagor
– pobl a garai wirfoddoli gyda’n theatr ieuenctid ni ac a garai glywed rhagor am sut rydym yn ei weithredu
Fe arweinir yr Holi ac Ateb gan Steph, arweinydd Byddar ein theatr ieuenctid, a Jemila, un o’n gweithredwyr hŷn.
Gobeithio y gallwch chi ymuno â ni!
Rhaid cofrestru ymlaen llaw trwy’r ddolen yma: https://zoom.us/webinar/register/WN_aEbKR2oVSkiRukcS9NH30w


Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020
Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN
Cylchlythyr
Cyfrannwch arian
Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!

Members of:
