Fe ddaeth yn amlwg ym mis Mawrth nad oedd hi’n mynd i fod yn bosibl inni ganlyn arni gyda’r cynhyrchiad yr oedden ni wedi’i gynllunio ar gyfer Theatr The Egg gyda Chynhyrchiadau Bath Spa. Daliais i feddwl serch hynny y byddai modd inni wneud rhywbeth rywsut – ond doeddwn i ddim yn siŵr ar y dechrau beth yn union fyddai hwnnw. Y canlyniad oedd
Lockdown Landscapes/Tirweddau Dan Glo. Roedd hi’n amlwg y byddai’n her sylweddol imi ddal i weithio’n greadigol trwy gydol Cyfnod y Clo, gan mai ychydig iawn o waith yr oeddwn i wedi’i wneud o’r blaen yn y maes digidol. A bod yn onest doeddwn i ddim erioed wedi clywed y gair Zoom hyd yn oed, ac eithrio mewn cyfeiriadau at effeithiau sain i feic modur neu roced! Prin yr oeddwn wedi meistrioli Skype na Google Meets, a llwyddo i hwyluso galwad grŵp ar What’s app – roedd hyn felly yn gam i’r anhysbys. Roeddwn i’n awyddus iawn i ymgymryd â’r daith archwiliol hon, gan wynebu’r ffaith nad oedd gen i’r syniad lleiaf ynghylch ble byddai’n fy arwain i. Roedd llu o syniadau’n nofio o gwmpas fy mhen, yn mynnu cael fy sylw. Roedd hi’n anodd imi roi mewn geiriau beth yn union oedd natur fy ‘ngweledigaeth’.
Yn raddol, o ddydd i ddydd, y datblygodd y ffordd o wneud i hyn oll ddigwydd– dwi’n gweithio mewn modd organig fel cyfarwyddydd beth bynnag, ond roedd y fath ddos o newid a’r anhysbys yn teimlo’n anferth i fi hyd yn oed! Roeddwn i mor ffodus serch hynny i allu dibynnu ar dîm technegol a chynhyrchu gwir anhygoel i ’nghefnogi i yn y fenter. Buon nhw’n seinfwrdd anhygoel, wnaethon nhw ddim chwerthin (gormod) am ben fy awgrymiadau ‘Beth am inni…?’ dibaid, a daethon nhw o hyd i ffyrdd newydd o weithio trwy’r amser. Fe ymgysegron nhw’n frwd i sicrhau y byddai’r prosiect yma nid yn unig yn mynd i’r afael â’r amgylchiadau rhyfedd yr ydyn ni’n byw ynddynt, ond hefyd yn gadael treftadaeth i wneuthurwyr theatr a hyfforddwyr theatrig y dyfodol.
Doedd gennym ni ddim byd mor foethus ag amser cynllunio di-derfyn, roedd yn rhaid inni weithredu’n gyflym ac yn adweitheddol gan ddysgu wrth symud ymlaen. Ymatebodd yr actorion yn wych i’r angen i weithio mewn gofod digidol, o ystyried nad oedd y rhan fwyaf o aelodau’r cast wedi cwrdd â fi nac â’i gilydd o’r blaen. Yn fuan iawn fe drodd yr hyn a oedd wedi dechrau fel gofod eithaf lletchwith yn frith o broblemau rhyngrwyd, yn fan rihyrsio inni, yn lle cyfarwydd a diogel inni chwarae ynddo.
Mae hyn wedi gweddnewid fy syniad i o beth yw technoleg ddigidol; mae’n fy ngyrru i tuag at ffordd o weithio sy’n cyfuno gwahanol realitïau. Dw i ddim ond wedi crafu wyneb y posibiliadau megis hyd yn hyn, a dw i’n ysu am barhau ar y daith. Mae’r angen i fod yn gadarnhaol, i aros yn hyblyg ac addasu i’r amgylchiadau wrth iddyn nhw ddatblygu wedi bod yn hanfodol bwysig trwy’r cyfnod yma. Rydyn ni i gyd wedi gorfod ymdrechu i dderbyn yn well yr hyn y gellir, a’r hyn na ellir ei newid.
Cawsom ganiatâd gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ailgyfeirio grant er mwyn parhau i arbrofi yn y maes digidol. Gweithredom fel mentoriaid yng Ngŵyl Neverthere, yn cynnig cyngor ynghylch mynediad at ofodau digidol; ac nid yn unig yng nghyswllt cyfarfodydd ond ynghylch gwaith creadigol a sut i ddarparu gofod digidol y gellir rihyrsio ynddo – rhywbeth y llwyddasom i ddysgu llawer amdano yn Lockdown Landscapes.
Rydym wedi archwilio bydoedd mynediad ar Zoom, hybiau Mozilla a sawl platfform arall. Yn ystod y preswyliadau yn yr ŵyl cawsom ein cyflwyno i lu o arbenigwyr digidol gwych, a’n gobaith ni yw y gallwn weithio gyda llawer ohonynt yn y dyfodol. Roedd fy ymennydd yn ferw gan syniadau erbyn y diwedd.
Yr hyn sydd o ddiddordeb arbennig imi yw edrych ar sut gallwn ni fanteisio ar ein darganfyddiadau digidol dros y misoedd diwethaf hyn i wella mynediad pobl at ddigwyddiadau celfyddydol. I lawer ohonom, dyma’r tro cyntaf erioed y bu raid inni hunan-ynysu neu weithio gartref, ond i lawer o bobl nid rhywbeth newydd mo hyn i gyd, nid rhywbeth fydd yn newid ar ôl i’r cyfnod dan glo ddod i ben. I lawer o bobl nid yw cyrraedd theatr ac eistedd yno’n bosibilrwydd ymarferol. Yr hyn y mae’r argyfwng presennol wedi’i roi inni yw’r cyfle i archwilio ffyrdd o sicrhau cydraddoldeb profiadau sy’n mynd ymhellach ma ffrydio cynnwys, rhywbeth sy’n cyfrannu at greu digwyddiadau ‘trochi’ y gellir eu mwynhau ar blatfform corfforol neu ddigidol neu gyfuniad o’r ddau beth.
Mae gen i ddiddordeb mawr mewn cyfuno realitïau a chymysgu cyfryngau i weld beth yw’r posibiliadau. Un peth dw i wedi’i ddysgu yw bod y dechnoleg yn bodoli, ac mae pawb yr ydw i wedi cael fy nghyflwyno iddyn nhw’n fodlon iawn helpu technoffôb fel fi i archwilio rhagor o opsiynau. Does’na ddim byd a all gymryd lle mannau rihyrsio byw na’r theatr byw yn fy nghalon i, ond er nad yw’r pethau hyn o fewn cyrraedd ar hyn o bryd dw i wedi dechrau darganfod nifer o bosibiliadau amgen y gallwn ni ddal i’w defnyddio yn y dyfodol. Mae’n rhaid inni fanteisio ar y darganfyddiadau hyn, eu harneisio a dal i’w datblygu. Meddu ar yr opsiwn o wylio sioe ar alw; gallu gwylio rhywbeth ar eich cyflymder eich hun; cael cyfle i weld cynyrchiadau rhyngwladol ac i ymgynnull mewn mannau rhyngwladol; natur ryngweithiol rhai digwyddiadau ar-lein, a bod yn rhydd o gyfyngiadau daearyddol – dyn ni i gyd ar ein hennill o’r pethau hyn. Oes, mae’na broblemau – nid pawb sydd â rhwyddfynediad at y rhyngrwyd a’r dechnoleg; mae angen mynd i’r afael â hynny. Mae peth wmbredd o waith ac adnoddau wedi cael eu gosod ar-lein; yn rhy aml mae’r deunydd yma heb gael ei gapsiynu neu mae’n anodd i’w gyrchu mewn ffyrdd eraill. Dyma fy neges i: peidiwn ag anghofio, wrth ruthro i gael gwaith digidol i lwyddo, fod rhaid ystyried rhwyddfynediad a’i weld fel offeryn creadigol.
Elise Davison
Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020
Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN
Members of:
Cylchlythyr
Cyfrannwch arian
Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!