Taking Flight training workshop at Ballet Cymru

Yn Galw Ymddiriedolwyr

Yn Galw Ymddiriedolwyr

Mae Cwmni Theatr Taking Flight yn chwilio am ymddiriedolwyr newydd i ymuno â’i fwrdd gweithredol ymroddedig a phrysur.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadad yw 3fed Chwefror 2025.

Chat to a trustee event: 20th January. Register yma

Mi fydd dehonglwyr IAP/Saesneg yn bresennol ym mhob digwyddiad, cyfarfod a chyfweliad Cwrdd ag Ymddiriedolwr.

Mae'r Ymddiriedolwyr yn cyfarfod tua chwe gwaith y flwyddyn ar Zoom

Cwmni theatr cynhwysol yw Taking Flight wedi’i leoli yng Nghaerdydd, ac sy'n creu cynyrchiadau proffesiynol gyda pherfformwyr Byddar, anabl, dall/rhannol ddall, niwrowahanol a rhai nad ydynt yn anabl. Rydym yn gweithio mewn tair iaith: IAP, Cymraeg a Saesneg, ac mae mynediad ynghlwm yn ein holl waith, megis capsiynau a Disgrifiadau Sain. 'Dyn ni'n rhedeg yr unig theatr ieuenctid yng Nghymru ar gyfer pobl ifanc Byddar a Thrwm eu Clyw ac yn ddiweddar 'dyn ni wedi derbyn cytundeb ariannu aml-flwyddyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru, felly mae’n amser cyffrous i ymuno â ni yn ein gwaith !

Mae disgwyl i ymddiriedolwr ofalu am waith elusen, yn sicrhau ei bod yn bodloni ei nodau elusennol ac yn cyflawni popeth y mae'n ei wneud mewn ffordd gyfreithiol a phroffesiynol.

Mae ymddiriedolwyr yn cyfarfod bob ychydig fisoedd i wirio, cynllunio a thrafod gwaith yr elusen.

Nid yw ymddiriedolwyr yn cael eu talu am fod yn ymddiriedolwyr, ond maen nhw'n derbyn treuliau am unrhyw deithio ac ati.

Ar hyn o bryd mae gennym ni 9 ymddiriedolwr ar fwrdd Taking Flight gan gynnwys dau gyd-gadeirydd a dyn ni'n yn chwilio am y person iawn i'n harwain ni i'r camau nesa.

Rydym yn annog ymgeiswyr Byddar ac anabl yn weithredol. Mae ein cyfarfodydd bwrdd yn cael eu cyflwyno yn Saesneg a'u cyfieithu i IAP.

Rydym yn edrych yn arbennig am ymddiriedolwyr sydd :

  • • â phrofiad blaenorol o fod yn ymddiriedolwr neu gadeirydd/cyd-gadeirydd sefydliad elusennol
  • • â diddordeb/dealltwriaeth o sector y Celfyddydau yng Nghymru
  • • ag angerdd dros gynwysoldeb ac amrywiaeth
  • • yn meddu ar y gallu i arwain ar faterion Cyfreithiol neu Adnoddau Dynol.
  • • â phrofiad byw o fod yn Fyddar/anabl neu Niwroamrywiol.

Ond pwy bynnag ydych chi, a pha brofiad bynnag sydd gennych, y peth pwysicaf i ni yw brwdfrydedd, egni a’r awydd i gefnogi ac i wneud gwir wahaniaeth yng ngwaith Taking Flight wrth i ni fwrw ymlaen.

I wneud cais, cysylltwch â ni yn y modd sydd fwyaf cyfforddus i chi. Cewch chi anfon CV, neu ysgrifennu llythyr, gwneud fideo neu recordio ffeil sain. Cewch ddefnyddio Saesneg, Iaith Arwyddion Prydain, neu Gymraeg.

Anfonwch at: louise@takingflighttheatre.co.uk  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech chi gysylltu â ni rhyw ffordd arall, ffoniwch neu anfonwch neges destun at 07737253989

'Dyn ni'n edrych ymlaen at glywed gennych chi !

Taking Flight Logo

Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020

Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:

Atrium
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN

Cylchlythyr

Cyfrannwch arian

Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!

The logos of the People's POstcode Lottery and Postcode Community Trust

Members of:

A selection of logos: WCVA, Tempo, Creu Cymru, TYA Cymru, Outdoor Arts UK, The Cardiff Committment and Passport to the City
Cymraeg
Skip to content