Torri'r Bocs: Galwad Provocateur Lleoliadau
Beth yw Breaking the Box?
Mae angen mwy o bobl greadigol Byddar, anabl, a niwroamrywiol arnom i ddod â'u doniau a'u sgiliau i'r theatr yng Nghymru. Nid yn unig ar y llwyfan, ond tu cefn i'r llwyfan, ac ym meysydd cynhyrchu a rheolaeth y celfyddydau hefyd. I gyflawni hyn mae angen sector theatr a chelfyddydau gwybodus ac ymwybodol arnom, ble mae'r diwylliannau a'r amgylcheddau gwaith yn barod i gefnogi pawb er mwyn iddynt wneud eu gwaith gorau.
Consortiwm o bartneriaid cysylltiedig ac ymroddedig yw Torri’r Bocs/Breaking the Box (BTB). Gyda'n gilydd rydym yn profi ac yn dysgu ffyrdd newydd o gydweithio. Drwy hyn, rydym yn modelu sut i greu cyfleoedd a’r newidiadau sydd eisiau i wneud y celfyddydau yn weithle mwy ymarferol i bawb. Mae partneriaid y grŵp yn gynulliad sy'n cynnwys Taking Flight Theatre (fel partner arweiniol), Hynt (cynllun mynediad cenedlaethol Cymru), Celfyddydau Anabledd Cymru (partner ymgynghorol) Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Theatrau RhCT, Theatrau Sir Gâr a Pontio. Gyda’i gilydd maen nhw wedi ymroi i redeg y prosiect ar y cyd i brofi a dysgu ffyrdd newydd o greu a modelu’r newid sydd ei angen i wneud y celfyddydau yn weithle croesawgar a hyfyw i bawb.
n ei gyfnod cyntaf, rhoddodd Torri’r Bocs/BTB bwyslais cryf ar feithrin diwylliant o gynhwysiant a chroesawu hygyrchedd fel gwerth craidd. Ceisiodd hefyd fynd i’r afael â’r gynrychiolaeth anghyfartal o bobl greadigol Fyddar ac anabl tu cefn llwyfan yn y sector, trwy greu cyfleoedd datblygu gyrfa. Buom yn gweithio gyda 6 Artist Creadigol Gyrfa Gynnar (ACGG), i archwilio’r gwahanol sgiliau a disgyblaethau cefn llwyfan a oedd ar gael iddynt. Hyd yma, mae’r prosiect wedi gweld lefelau uwch o ymwybyddiaeth, gwell hygyrchedd a pherthnasoedd cryfach yn cael eu meithrin gyda phobl greadigol a chymunedau Byddar, anabl a niwroamrywiol.
Yn ystod y 12 mis nesaf byddwn yn cyflwyno cam 2 Torri’r Bocs/Breaking the Box ac rydym nawr yn chwilio am ddau wneuthurwr newid 'Provocateurs' Byddar/anabl neu Niwroamrywiol i ymuno â ni ar y daith, i ehangu mynediad ym mhob pob adran o fewn eu lleoliad cyfatebol ac i osod materion mynediad ar yr agenda ac ysgogi a herio'r dulliau arferol o weithio.
Bydd y Provocateurs yn chwarae rhan allweddol ac arloesol o fewn lleoliadau celfyddydol a diwylliannol wrth herio ac ailffurfio eu harferion hygyrchedd. Mae’r rôl hon yn canolbwyntio ar blannu dulliau cynhwysol, cynyddu hygyrchedd ym mhob adran, a chreu cyfleoedd i bobl greadigol Byddar, anabl a niwroamrywiol.
Bydd y 'Provocatuers' llwyddiannus yn cael eu paru gydag un o'n lleoliadau partner yn dibynnu ar leoliad, profiad a maes arbenigedd/diddordeb gyrfaol yr unigolyn hwnnw. Rydym yn awyddus i sicrhau y bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad gyrfa a dyheadau'r unigolyn ac rydym wedi ymrwymo i fod mor hyblyg â phosibl i ddifodi unrhyw rwystrau mynediad.
Beth yw pwrpas y Provocateur Lleoliad?
Caiff y 'Provocateurs' Lleoliad eu lleoli mewn lleoliadau partner fel rhan o raglen Torri’r Bocs. Mae eu cenhadaeth yn cynnwys cynnal sesiynau a gweithdai cymunedol creadigol, ymgysylltu â chynulleidfaoedd Byddar ac anabl, rhoi cyngor ar fynediad a chynhwysiant mewn cyfarfodydd adrannol, a dod o hyd i gyfleoedd ar gyfer Artistiaid Creadigol Gyrfa Gynnar ar ddechrau eu gyrfa (ACGG). Bydd y 'Provocateurs' yn cefnogi'r ACGG, yn adrodd am gynnydd i Gydlynydd y Prosiect, ac yn mynychu cyfarfodydd rhwydwaith rheolaidd. Byddant hefyd yn eiriol dros genhadaeth Taking Flight, yn ehangu ymdrechion cynhwysiant a mynediad ar draws lleoliadau partner, ac yn ymgysylltu â strategaeth gyfathrebu Torri’r Bocs/Breaking the Box.
Pwy rydyn ni'n meddwl yw'r ymgeisydd delfrydol?
Mae hon yn swydd gyffrous i rywun sydd ag angerdd am gynwysoldeb ac am gyflawni newidiadau dylanwadol o fewn lleoliadau celfyddydol a diwylliannol. Rydych chi'n cael eich ysgogi gan ymrwymiad i hygyrchedd, yn angerddol am gysylltu â phobl greadigol Fyddar, anabl a niwroamrywiol, ac yn awyddus i feithrin amgylchedd lle gall pawb ffynnu. Rydych yn awchu am y cyfle i herio dulliau gweithio traddodiadol ac ymgorffori dulliau cynhwysol ym mhob adran.
Llinell Amser Recriwtio:
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Canol dydd - Dydd Sul 16eg Chwefror 2025
Cyfweliadau: wythnos yn dechrau 17eg Chwefror 2025 a 24ain Chwefror 2025
Penodi: yn dechrau ar 24ain Chwefror 2025
Dyddiad cychwyn: dydd Mawrth Ebrill 1af 2025
Sut i wneud cais:
Rydym wedi ceisio gwneud ymgeisio mor digymhleth â phosibl. Yn syml, rhowch wybod i ni pwy ydych chi, sut y gallwn ni gysylltu â chi, atebwch TRI chwestiwn ac uwchlwythwch CV a manylion canolwr.
Rydym yn croesawu ymgeiswyr i gyflwyno gan ddefnyddio IAP, Cymraeg neu Saesneg.
Mae'r broses ymgeisio ar ffurflen ar-lein ac mae'n ofynnol i chi ei chwblhau a'i chyflwyno erbyn y dyddiad cau. O fewn y ffurflen, byddwch yn cael yr opsiwn i deipio eich atebion yn y blychau, neu gallwch uwchlwytho eich atebion ar ffurf fideo/sain. Sicrhewch fod eich CV a manylion canolwr yn barod hefyd.
Cwblhewch y FFURFLEN GAIS ar-lein hon a'r FFURFLEN CYFLE CYFARTAL ar wahân erbyn canol dydd dydd Sul 16eg Chwefror 2025.

Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020
Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN
Cylchlythyr
Cyfrannwch arian
Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!

Members of:
