Mae Cwmni Theatr Taking Flight yn cynhyrchu theatr feiddgar ac anarferol gan weithio'n gynhwysol gydag unigolion ag actorion greadigol Byddar, anabl a niwroamrywiol.
Rydym yn chwilio am aelodau cast ar gyfer cyd-gynhyrchiad newydd â chanolfan Celfyddydau Pontio ym Mangor - "Mae Gen Ti Ddreigiau". Wedi'i ysbrydoli gan y llyfr lluniau gan Kathryn Cave a'i ddarlunwyd gan Nick Maland. Mae’r addasiad hwn ar gyfer y llwyfan wedi’i ysgrifennu gan Manon Steffan Ros a bydd yn cael ei gynhyrchu’n ddwyieithog; yn Gymraeg ac Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
yn ogystal â Saesneg a BSL.
Mynediad sydd wrth wraidd popeth a wnawn, ar y llwyfan ac oddi arno; yn ogystal â bod ar gael mewn sawl iaith bydd y cynhyrchiad hwn yn cynnwys capsiynau creadigol, disgrifiadau sain integredig, llafaredd gweledol a mwy.
Yn agor ym mis Mehefin 2024 ac yna'n teithio tan ganol mis Awst (union ddyddiadau i'w cadarnhau).
Cytundeb ITC yw hwn.
Mae'n ddarn ensemble ac rydym yn chwilio am gydweithwyr rhagorol sy'n gyfarwydd â gweithio ar sgriptiau newydd. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan actorion Byddar, anabl a niwroamrywiol sydd naill ai'n:
Siaradwyr Cymraeg rhugl
Defnyddwyr BSL rhugl
Cerddorion yr actor
Sut galla i geisio?
Cynhelir clyweliadau yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter ar 10fed neu 11eg o Ionawr, 2024.
Gwnewch gais gan yrru llythyr eglurhaol, CV a llun i Elise
(elise@takingflighttheatre.co.uk). Mae croeso i chi wneud cais yn BSL, Cymraeg neu Saesneg trwy fideo, recordiad sain neu ddogfen ysgrifenedig erbyn 8fed o Ragfyr 2023.
2023.
Lawrlwythewch y fersiwn 'Easy Read' yma
Gwrandewch ar y ferswin sain yma:
Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020
Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN
Members of:
Cylchlythyr
Cyfrannwch arian
Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!