Real Human Being

Real Human Being

Prosiect Theatr Forum sy’n mynd i'r afael â throseddau casineb

Cyd-gomisiynwyd Real Human Being gan Taking Flight ac Anabledd Cymru yn 2012. Fe’i hysgrifennwyd gan y dramodydd arobryn o Gymru, Matthew Bulgo. Perfformiwyd y ddrama trwy gydol diwrnod ysgol cyfan gerbron disgybl Blwyddyn 9. Rhwng y gwahanol adrannau, cafodd aelodau ifanc y gynulleidfa gyfle i ryngweithio gyda’r actorion ‘yn eu cymeriadau’ yn ystod gweithgareddau strwythuredig a alluogai’r cyfranogion i ddeall goblygiadau Troseddau Casineb yn erbyn Pobl Anabl.

Deuai’r prosiect â llu o fuddion. Nid yn unig yr oedd pobl ifanc yn cael archwilio effeithiau ymddygiad negyddol, ond trwy ddefnyddio Theatr Fforwm, bu’n bosibl iddynt arbrofi mewn amgylchedd diogel gyda’u syniadau eu hunain ar gyfer delio ag ymddygiad camdriniol neu fwlian. Er i’r diwrnod gael ei gynllunio gyda golwg ar ddeall Troseddau Casineb yn erbyn Pobl Anabl a mynd i’r afael â’r broblem, mae llawer o’r themâu a’r technegau hyn yn gyffredin iawn a gellir eu cymhwyso at sefyllfaoedd eraill. Cawsom fod y diwrnod wedi creu cyfle i gynulleidfaoedd ifanc mewn ysgolion a sefydliadau o fathau eraill i werthuso eu syniadau a’u teimladau eu hunain ynghylch anabledd a phobl anabl. Atgyfnerthwyd dealltwriaeth ac ymostyngiad trwy gyfrwng y rhyngweithio a’r trafod gyda’n perfformwyr anabl.

Cyllidwyd Real Human Being ar y cychwyn gan Swyddfa Cartref y DU (cynllun peilot 2012), a chafwyd cyllid i’w estyn wedyn oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru ar y pryd (diolch i ddeilliannau llwyddiannus),

Fe’i mabwysiadwyd yn ffurfiol gan Lywodraeth Cymru dan Grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant 2014-17.

Enillodd Real Human Being Wobr Amrywiaeth Genedlaethol i Taking Flight yn 2013.

http://www.disabilitywales.org/projects/real-human-being/

Taking Flight Logo

Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020

Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:

Atrium
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN

Members of:

A selection of logos: WCVA, Tempo, Creu Cymru, TYA Cymru, Outdoor Arts UK, The Cardiff Committment and Passport to the City

Cylchlythyr

Cyfrannwch arian

Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!

Cymraeg
Skip to content