A brightly coloured graphic in Taking Flight's trademark orange, yellow, turquoise and purple, featuring balloons and bunting. In the corner is a b&w photo of a woman with short dark hair and glasses

Popeth yn newid ar fwrdd y Bwrdd!

Ar ôl blynyddoedd maith o weithio’n ymroddedig er lles y Cwmni, mae ein Cadeirydd y Dr Emily Garside yn ein gadael ni i ganlyn diddordebau newydd. Dywedodd Emily: “Ar ôl chwe blynedd mae’n bryd imi ffarwelio – yn drist iawn – â bwrdd Taking Flight. Dw i’n falch iawn o’r gwaith dw i wedi’i wneud gyda’r cwmni, ac i weld pa mor bell mae Taking Flight wedi symud ymlaen dros y blynyddoedd diwethaf hyn. Dw i’n edrych ymlaen at weld beth fyddan nhw’n ei gyflawni nesaf.' 

A hithau’n eiriolydd gwych dros gyfartaledd a thros y cwmni, ymunodd Emily â’r bwrdd yn 2016 gan ddod yn Gadeirydd yn 2017. Mae hi wedi llywio’r cwmni trwy gyfnod pwysig yn ei ddatblygiad, gan gynnwys dyfroedd tymhestlog y ddwy flynedd ddiwethaf hyn. Byddwn ni’n fythol ddiolchgar iddi am yr amser a dreuliodd hi gyda ni, ei sgiliau a’i mewnwelediad yn ystod ei chyfnod gyda ni, a dymunwn iddi y llwyddiant mwyaf posibl ym mhopeth y mae hi’n ei wneud yn y dyfodol.

Taking Flight Logo

Theatr Taking Flight
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Stryd Y Farchnad
Canton, Cardiff, CF5 1QE
029 2023 0020

Mae’r Theatr Ieuenctid yn cwrdd yng:

Atrium
University of South Wales
86-88 Adam St
Cardiff CF24 2FN

Members of:

A selection of logos: WCVA, Tempo, Creu Cymru, TYA Cymru, Outdoor Arts UK, The Cardiff Committment and Passport to the City

Cylchlythyr

Cyfrannwch arian

Cefnogwch Taking Flight trwy rodd hael. Cewch gyfrannu’n ddiogel trwy ein gwefan (isod), neu anfonwch siec yn daladwy i Taking Flight Theatre. (Os ydych chi’n talu trethi yn y DU, cliciwch ar yr opsiwn Rhodd Cymorth wrth roi ar-lein). Diolch!

Cymraeg
Skip to content